Teithio a Thwristiaeth
Mae twristiaeth yn sector bwysig yng Ngogledd Cymru, ac mae’r maes rhaglen cyffrous hwn yn cynnig cyfleoedd i astudio o Lefel 2 hyd at lefel gradd.
Mae’n myfyrwyr yn cael ymweld ag amrywiaeth o atyniadau yng Ngogledd Cymru, Caerdydd, Llundain, y Deyrnas Unedig a thramor. Drwy raglen Erasmus+, cânt fanteisio hefyd ar gyfleoedd wedi’u hariannu’n llawn i fynd ar brofiad gwaith i Ewrop.
Ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, ceir asiantaeth deithio lle mae myfyrwyr yn gweithio ac yn cael cyfle i loywi eu sgiliau cyflogadwyedd.
Bydd ein myfyrwyr yn mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o ganolfannau ymwelwyr lleol a chenedlaethol, ynghyd ag asiantaethau teithio a chwmnïau hedfan fel British Airways, Titan Airways a TUI.
Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?
Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau
Lefel 2 hyd at gyrsiau
lefel Gradd.
Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.
Cyrsiau lefel 2
Cyrsiau lefel 3
Cyrsiau lefelau 4 - 6

Gyrfa mewn Teithio a Thwristiaeth
Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.
