Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn caniatáu y defnydd o gwcis.

By using our website, you consent to the use of cookies.

Proffesiynol

Ymhlith ein cyrsiau proffesiynol, mae cymwysterau gan gyrff dyfarnu fel yr AAT (Association of Accounting Technicians), yr ILM (Institute of Leadership & Management), y CIM (Chartered Institute of Marketing) a'r CIPD (Chartered Institute of Personnel and Development).

Mae ein dewis o gyrsiau proffesiynol yn cynnwys:

Cyrsiau Busnes Siartredig
Mae cyrsiau ar gael o lefel 2 neu 3 i lefel 6 ac maent yn caniatáu i ymgeiswyr feithrin sgiliau proffesiynol ym maes Marchnata, Adnoddau Dynol a Chaffael drwy:

  • CIM (Chartered Institute of Marketing)
  • CIPD (Chartered Institute of Personnel and Development)
  • CIPS (Chartered Institute of Procurement & Supply)
  • Arwain a Rheoli
  • CMI (Chartered Management Institute)

Rydym yn darparu cyrsiau CMI ar lefel 5 (lefel gradd) i reolwyr canol neu rai sydd â'u bryd ar fod yn rheolwyr canol ac ar Lefel 7 i uwch reolwyr, prif swyddogion gweithredol a pherchnogion busnesau.

ILM (Institute of Leadership and Management)
Gellir astudio am gymwysterau'r ILM ym maes Arwain a Rheoli o Lefel 2 (arweinydd tîm) hyd at lefel 5 (rheolwyr canol).

Cyllid a Chyfrifeg
Cynigir cymwysterau siartredig ym maes Cyllid a Chyfrifeg trwy'r ACCA (Association of Chartered Certified Accountants) a chymwysterau achrededig trwy'r AAT (Association of Accounting Technicians).

ACCA (Association of Chartered Certified Accountants)
Rydym yn ganolfan achrededig i'r ACCA. Corff proffesiynol yw'r ACCA sy'n cynnig cymwysterau siartredig a gydnabyddir yn fyd-eang ym maes Cyllid.

Gallwn gynnig rhaglenni 'dysgu cyfunol' sy'n gyfuniad hyblyg o sesiynau 'wyneb yn wyneb' ac amgylchedd dysgu rhithwir.

AAT (Association of Accounting Technician)
Mae'r AAT yn cynnig cymwysterau o Lefel mynediad 2 i Lefel 4. Bwriad yr hyfforddiant yw rhoi i fyfyrwyr yr holl sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnynt i ddatblygu gyrfa ym maes cyllid.

Dysgwyr gwrywaidd a benywaidd yn trafod gwaith