Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Newyddion Grŵp

Lansiad Academi Croeso

Lansio'r Academi Croeso i Gryfhau Sector Lletygarwch a Thwristiaeth Gogledd Cymru

Mae cyfnod newydd i dwristiaeth a lletygarwch yng Ngogledd Cymru ar droed gyda lansiad swyddogol yr 'Academi Croeso' - partneriaeth arloesol dan arweiniad Grŵp Llandrillo Menai gyda chefnogaeth gan Uchelgais Gogledd Cymru drwy Fargen Twf Gogledd Cymru.

Dewch i wybod mwy
Prif Weinidog yn siarad efo myfyrwyr

Grŵp Llandrillo Menai yn barod i bweru dyfodol niwclear Gogledd Cymru drwy arwain darpariaeth sgiliau a hyfforddiant o'r radd flaenaf

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi addo ei gefnogaeth i ddatblygu'r gweithlu medrus sydd ei angen ar gyfer adweithyddion niwclear modiwlaidd bach arfaethedig ar gyfer Rolls-Royce yn Wylfa ar Ynys Môn, gan sicrhau bod Gogledd Cymru yn barod i ddiwallu gofynion y prosiect trawsnewidiol hwn.

Dewch i wybod mwy
Myfyriwr o Goleg Llandrillo, Lewis Cahill, yn y ganolfan beirianneg yng Ngholeg Llandrillo yn y Rhyl

Lewis a Kenan yn ennill gwobrau rhifedd cenedlaethol

Cafodd dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai eu cydnabod gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru am wella eu sgiliau rhifedd

Dewch i wybod mwy
Myfyrwraig o Goleg Llandrillo, Yuliia Batrak gyda'r AS, Gill German ger Afon Tafwys gyda'r London Eye yn y cefndir

Yuliia ac Evan yn dathlu llwyddiant EuroSkills yn y Senedd yn Llundain

Gwahodd myfyrwyr o Grŵp Llandrillo Menai i San Steffan ar ôl cystadlu gyda Team UK yng nghystadleuaeth sgiliau fwyaf mawreddog Ewrop yn Nenmarc

Dewch i wybod mwy
Aron Hughes, Matthew Owen, Cai Owen a Guy Geurtjens, myfyrwyr yn adran cyfryngau creadigol Coleg Menai, gyda fflam Tîm Cymru

Myfyrwyr yn cario fflam Tîm Cymru i ysbrydoli pencampwyr sgiliau'r dyfodol

Croesawodd Grŵp Llandrillo Menai'r fflam i gampysau Bangor, Llangefni a'r Rhyl wrth i'r cynnwrf am rownd derfynol genedlaethol WorldSkills UK fis nesaf gynyddu

Dewch i wybod mwy
Torri gwallt yn y salon

Myfyrwyr yn canmol Grŵp Llandrillo Menai yn Arolwg y Dysgwyr diweddaraf

Dysgwyr Addysg Bellach a dysgwyr sy'n oedolion yn tynnu sylw at gryfderau gan gynnwys ansawdd yr addysgu a'r adnoddau, parch rhwng myfyrwyr a staff, a diogelwch ar y campws

Dewch i wybod mwy
Mark Isherwood AS gyda phrentisiaid a staff yng Nghanolfan Beirianneg Coleg Llandrillo yn y Rhyl

Y Grŵp yn croesawu Mark Isherwood AS i ddysgu am brentisiaethau

Gwelodd yr Aelod o’r Senedd dros ogledd Cymru sut mae hyfforddiant a arweinir gan ddiwydiant yn darparu sgiliau ac yn grymuso twf y gweithlu yn y sectorau ynni ac iechyd hanfodol

Dewch i wybod mwy
criw cyntaf cwrs Tystysgrif Lefel 7 yr ILM mewn Rheoli ac Arwain Strategol yng ngogledd Cymru

Lansio cwrs Tystysgrif Lefel 7 yr ILM mewn Rheoli ac Arwain Strategol yng Ngogledd Cymru

Bellach gall y rhai sydd â'u bryd ar fod yn arweinwyr strategol yng ngogledd Cymru ennill cymhwyster lefel uchel yn lleol ym maes arweinyddiaeth gan fod Busnes@LlandrilloMenai wedi ehangu ei ddewis o gyrsiau i gynnwys Tystysgrif Lefel 7 yr ILM mewn Rheoli ac Arwain Strategol.

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr y tu allan i gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos

Tyrd i ddarganfod dy botensial yn nigwyddiadau agored mis Tachwedd 2025 Grŵp Llandrillo Menai

Mae digwyddiadau agored yn gyfle perffaith i ddysgu rhagor am yr amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor

Dewch i wybod mwy
Yuliia Batrak yn gwisgo cit hyfforddi ‘Squad UK’ WorldSkills UK

Evan a Yuliia yn cystadlu yn EuroSkills 2025

Evan Klimaszewski, myfyriwr peirianneg o Goleg Menai, a Yuliia Batrak, dysgwr Lletygarwch o Goleg Llandrillo, yn cystadlu gyda Team UK yn Nenmarc

Dewch i wybod mwy

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date