Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

CAMVA

Bydd ein hasiantaeth fenter a chyflogaeth yn eich helpu i gymryd y cam nesaf i waith, i brentisiaeth neu i greu eich busnes eich hun.

Bydd ein hasiantaeth fenter a chyflogaeth yn eich helpu i gymryd y cam nesaf i waith, i brentisiaeth neu i greu eich busnes eich hun.

Asiantaeth Cyflogadwyedd a Menter
Rhywun sy'n defnyddio cyfrifiadur bwrdd gwaith

Swyddi - i'ch siwtio chi!

Ydych chi’n chwilio am swydd newydd? Un ai'n llawn amser, yn rhan-amser, yn dymhorol neu fel prentis?

Yna edrychwch ar ein hysbysfwrdd swyddi i gael gwybod am y cyfleoedd gwaith amrywiol sydd ar gael yn lleol. Mae dewis helaeth o swyddi ar gael a gallwch wneud cais am lawer ohonynt gyda CV syml. Peidiwch â cholli cyfle. Edrychwch ar yr hysbysfwrdd heddiw!

Dewch y wybod mwy...
Pobl yn mynychu digwyddiad swyddi

Ffair Swyddi – digwyddiad Cwrdd â'r Cyflogwyr

Mae’r digwyddiad Ffair Swyddi – Cwrdd â’r Cyflogwr yn arddangos ystod eang o ddiwydiannau a chwmnïau sy’n chwilio’n frwd am dalent newydd, gan gynnig llwyfan amhrisiadwy ar gyfer rhwydweithio a thrafodaethau am sgiliau, archwilio gyrfa, cyfleoedd gwaith a dechrau eich busnes eich hun.

Stondin mewn digwyddiad swyddi

Help i gael y swydd yna!

Trwy ein Hasiantaeth Fenter a Chyflogaeth cewch ystod eang o wybodaeth a fydd yn eich helpu i ymgeisio am swyddi a dewis gyrfa addas.

Dewch y wybod mwy...
Dwy aelod o staff GLLM

Bod yn fos arnoch chi eich hun!

Os oes gennych syniad busnes, neu os hoffech help i feddwl am syniad busnes er mwyn cael bod yn fos arnoch chi eich hun, yna gall y tîm menter eich helpu bob cam o'r ffordd.

Dewch y wybod mwy...
Pa gymorth hoffech chi ei dderbyn? *

CAMVA yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r Warant Pobl Ifanc i annog a chefnogi pobl ifanc i fod yn fwy entrepreneuraidd a helpu’r rhai sydd â diddordeb mewn dechrau busnes i ddatblygu eu syniadau.

Ariennir gan Logo Llywodraeth Cymru