Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lefel AS/A Astudiaethau'r Cyfryngau

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Astudiaethau'r Cyfryngau

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llandrillo-yn-Rhos

Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar y trafodaethau beirniadol sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau.

Gallwch astudio cyfuniad o:

  • TAAU
  • Diplomâu Cenedlaethol BTEC
  • Lefel AS
  • Lefel A
  • Cymwysterau NVQ

Gwybodaeth Uned

Mae cwrs Lefel A CBAC mewn Astudio'r Cyfryngau wedi'i gynllunio er mwyn i fyfyrwyr allu defnyddio eu profiad o'r cyfryngau a datblygu eu gallu i ymateb yn feirniadol i'r cyfryngau. Mae'n galluogi myfyrwyr i ymchwilio i amrywiaeth eang o gyfryngau, yn cynnwys technoleg cyfryngau digidol, gan ddefnyddio'r cysyniadau sylfaenol sy'n sail i astudio'r cyfryngau: testunau, diwydiant a chynulleidfaoedd.

Mae'r fanyleb hefyd yn hybu gwaith creadigol fel y gall myfyrwyr ddod i werthfawrogi'r cyfryngau'n fwy drwy eu gwaith cynhyrchu eu hunain, gan ddatblygu eu sgiliau cynhyrchu. Ar y cwrs A2 yn enwedig, caiff myfyrwyr gyfle i ymchwilio i bwnc a fydd wedyn yn sail i'w cynhyrchiad. Drwy hynny, cânt eu hannog i greu cynyrchiadau y cyfrannodd ymwybyddiaeth o faterion cyfryngau cyfoes iddynt.

Anogir ymgeiswyr i:

  • ddatblygu eu diddordeb a'u mwynhad o destunau'r cyfryngau
  • edrych ar ddatblygiad sefydliadau cyfryngol
  • dadansoddi'r ffordd mae gwahanol gyfryngau'n cyflwyno'r byd
  • defnyddio eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth am faterion ac arferion cyfryngol yn eu gwaith ymarferol eu hunain
  • edrych ar sut mae testunau'r cyfryngau wedi cael eu cynhyrchu, eu cylchredeg, eu defnyddio a'u dehongli gan gynulleidfaoedd
  • gwerthuso datblygiad hanesyddol a threfniadaeth bresennol sefydliadau cyfryngol penodol
  • datblygu sgiliau archwilio ac ymchwilio
  • defnyddio eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o wahanol destunau cyfryngol er mwyn eu cymharu a gweld perthynas rhyngddynt.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfrwng amrywiaeth o ddulliau addysgu:

  • dysgu yn yr ystafell ddosbarth
  • trafodaethau
  • ymweliadau â sefydliadau cyfryngol perthnasol ac ati.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Ar y cwrs Lefel AS, caiff myfyrwyr eu hasesu drwy gyfrwng un modiwl ymarferol ac un modiwl sy'n seiliedig ar arholiad.

Mae'r modiwl ymarferol yn cynnwys tri darn o waith:

  • un cyn-gynhyrchiad
  • un cynhyrchiad sy'n datblygu o'r cyn-gynhyrchiad
  • un adroddiad ar y broses gynhyrchu

Yn yr arholiad, ceir tri chwestiwn gorfodol, yn cynnwys un cwestiwn anweledig ar un ai deunydd clywedol neu ddeunydd seiliedig ar brint .

Mae ail flwyddyn y cwrs yn dilyn patrwm tebyg ac yn cynnwys dau fodiwl:

  • Ymchwiliad ysgrifenedig i destun(au) cyfryngol sy'n seiliedig ar un neu fwy o'r prif gysyniadau cyfryngol yw'r modiwl gwaith cwrs
  • Yn yr arholiad ysgrifenedig rhaid ateb tri chwestiwn o blith dewis o chwech

Dilyniant

  • Bydd ymgeiswyr sy'n cwblhau'r fanyleb AS yn meddu ar y sgiliau ymarferol a deallusol y mae arnynt eu hangen i fynd ymlaen i astudio'r Cyfryngau ar lefel A2 neu i gymhwyso'r hyn y maent wedi'i ddysgu ar gyfer amrywiaeth o bynciau cysylltiedig.
  • Bydd gan ymgeiswyr sy'n cwblhau'r fanyleb lawn sylfaen ragorol ar gyfer yr ystod eang o gyrsiau Addysg Uwch sydd ar gael ar hyn o bryd.
  • Prentisiaeth Lefel 3 yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • International
  • Lefel AS/A

Dwyieithog:

n/a

Lefel AS/A