Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli, Y Rhyl, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Daearyddiaeth

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Pwllheli
Llandrillo-yn-Rhos

Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae Lefel AS/A mewn Daearyddiaeth yn annog dysgwyr i gymhwyso dealltwriaeth, theori a sgiliau daearyddol at y byd o'u cwmpas. Bydd hyn yn ei dro yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol bobl, lleoedd ac amgylcheddau'r byd yn yr 21ain ganrif. Dylai dysgwyr allu datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau daearyddol cyfoes, ynghyd â sgiliau trosglwyddadwy, a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen i addysg uwch ac amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth.

Gallwch ddilyn y cwrs yn rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau Lefel AS neu Lefel A eraill, neu o bosibl gyda chymwysterau galwedigaethol Lefel 3.

Gall myfyrwyr hŷn hefyd ddilyn y cwrs yn rhan-amser.

Yn y fanyleb AS, ceir dwy uned a gaiff eu harholi'n allanol:

AS Uned 1 Tirweddau Newidiol

  • Adran A: Tirweddau Arfordirol sy'n Newid
  • Adran B: Peryglon Tectonig

AS Uned 2: Lleoedd Newidiol

  • Adran A: Lleoedd Newidiol - meysydd yn ymwneud ag aneddiadau a phoblogaethau
  • Adran B: Ymchwiliad Gwaith Maes - ymateb i ddata ynghylch gwaith maes ac ymchwiliad gwaith maes y dysgwr ei hun

Yn y fanyleb AS, ceir dwy uned a gaiff eu harholi'n allanol, ac ymchwiliad unigol a gaiff ei asesu'n fewnol. Mae'r fanyleb A2 yn cynnwys:

A2 Uned 3 Systemau Byd-eang a Rheolaeth Fyd-eang

  • Adran A: Systemau Byd-eang Dŵr a Charbon
  • Adran B: Rheolaeth Fyd-eang: Newid a Sialensiau Prosesau a phatrymau mudo byd-eang a dulliau byd-eang o reoli cefnforoedd y Ddaear
  • ADRAN C: Sialensiau'r 21ain Ganrif

A2 Uned 4: Themâu Cyfoes mewn Daearyddiaeth

  • Adran A: Peryglon Tectonig
  • Adran B: Themâu Cyfoes mewn Daearyddiaeth Ecosystemau, Tywydd a Hinsawdd

A2 Uned 5: Ymchwiliad Annibynnol Asesiad di-arholiad (3000 - 4000 gair)

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd B yn un o'r Dyniaethau neu mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf. Nid oes rhaid cael TGAU mewn Daearyddiaeth.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Dysgu yn y dosbarth
  • Trafodaethau grŵp
  • Deunyddiau crai ac astudiaethau achos
  • Ymchwiliad gwaith maes neu theori gwaith maes.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Asesir y Lefel AS yn ystod y flwyddyn gyntaf ac asesir y Lefel A yn ystod yr ail flwyddyn.

  • AS: 2 arholiad allanol ddiwedd Mai/dechrau Mehefin, ar ddiwedd y flwyddyn 1af (yn werth 40% o'r Lefel A gyfan); ac
  • A2: dau arholiad allanol ar ddiwedd yr ail flwyddyn (yn werth 60% o'r Lefel A gyfan).

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn cael pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau. Ymhlith y cyrsiau y gallwch eu dilyn, mae cyrsiau gradd mewn Daearyddiaeth a phynciau perthnasol, yn ogystal sawl dewis arall.

Mae daearyddiaeth yn cael ei gydnabod fel pwnc dewisol, neu bwnc hwyluso, gan y Grŵp Russell o brifysgolion. Felly, mae'r cwrs yn baratoad da ar gyfer amrywiaeth o gyrsiau israddedig, tra gall y sgiliau a enillir hefyd fod o fudd i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith. Mae'r cwrs yn darparu nifer o gyfleoedd i chi ddatblygu a chymhwyso sgiliau allweddol, yn ogystal â datblygu eich agweddau, canfyddiadau a gwerthoedd mewn pwnc gyda pherthnasedd uchel i fywyd bob dydd

Mae manyleb Ddaearyddiaeth newydd (CBAC, Medi 2016) yn cynnig cyfleoedd i astudio amrywiaeth eang o bynciau ffisegol a dynol. Canolbwyntia ar natur ddynamig systemau a phrosesau ffisegol yn y byd go iawn, ac ar y rhyngweithiadau a'r cysylltedd rhwng pobl, lleoedd ac amgylcheddau o ran amser a lle.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • International
  • Lefel AS/A

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau
  • Pwllheli

Lefel AS/A