Hygyrchedd
Datganiad Hygyrchedd Grŵp Llandrillo Menai
Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch i bawb sy'n ei defnyddio. Ein nod yw sicrhau bod ein gwefan yn cydymffurfio â'r Canllawiau ynghylch Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG).
Yn ogystal, er mwyn sicrhau'r hygyrchedd gorau posibl, mae'r wefan wedi'i hadeiladu gan ddefnyddio'r priodweddau CSS a'r dulliau arwyddnodi HTML5 semantig diweddaraf sydd ar gael ar borwyr gwe modern.
Ar ein gwefan, dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau yn eich porwr
- chwyddo hyd at 200% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin
- gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Fodd bynnag, gwyddom nad yw rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Bydd rhai rhannau'n cynnwys dogfennau PDF i'w lawrlwytho
- Mewn rhai llefydd, nid yw’r cyferbyniad rhwng lliwiau’r blaendir a’r cefndir yn bodloni trothwyon cymarebau cyferbyniad WCAG 2 AA, ac mae’n gwneud testun yn anoddach i’w ddarllen ar rai cefndiroedd
- Mae tagiau/priodoleddau ARIA ar goll mewn rhai mannau, er enghraifft, ar iframes
- Nid yw holl gynnwys allanol/trydydd parti sydd wedi ei fewnosod drwy ddefnyddio iframes yn cydymffurfio â WCAG, e.e., y defnydd o Yumpu.com ar gyfer cynhyrchu fersiynau ePaper o'n cyhoeddiadau.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 4 Awst 2021 gan ddefnyddio Offeryn Gwerthuso Hygyrchedd Gwe WAVE
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: dewi.parry@gllm.ac.uk