Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth

Mae gan ein hadrannau celf enw rhagorol ac maent yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau eang ac arbenigol. Dysgir y cyrsiau galwedigaethol mewn stiwdios, gyda chymorth cyfrifiaduron Apple Mac pwrpasol a meddalwedd o’r un safon ag a geir mewn diwydiant.

Mae’r sector celf a dylunio yn cynnig llwybr gyrfa cyffrous a llawn posibiliadau i’r rhai sydd â diddordeb mewn creadigrwydd, mynegiant gweledol, a bod yn arbrofol. Mae dewis gyrfa ym maes celf a dylunio yn gyfle i unigolion ddefnyddio eu dychymyg, creu gweithiau sy'n golygu rhywbeth a chael effaith barhaol ar ddiwylliant a chymdeithas.

Un o'r prif resymau dros ystyried gyrfa ym maes celf a dylunio yw'r cyfle i fynegi eich hun a chael boddhad personol. Mae gan artistiaid a dylunwyr y gallu unigryw i ddod â’u meddyliau a’u hemosiynau’n fyw trwy amrywiol gyfryngau, o beintio a cherflunio i ddylunio digidol a ffasiwn. Mae'r rhyddid creadigol hwn yn meithrin ymdeimlad o bwrpas a boddhad.

Mae gyrfaoedd ym maes celf a dylunio yn cynnig cyfleoedd i bobl sydd â phob math o wahanol arbenigeddau, o ddylunio graffig a chelfyddyd gain i ddylunio diwydiannol, dylunio ffasiwn a dylunio mewnol. Mae’r amrywiaeth hwn yn galluogi unigolion i archwilio a mireinio eu sgiliau mewn meysydd sy'n gydnaws â'u diddordebau a'u doniau, gan ei wneud yn faes diddorol a chyffrous.

Yn yr oes ddigidol hon, mae celf a dylunio yn chwarae rhan allweddol mewn amrywiol ddiwydiannau, o hysbysebu a marchnata i adloniant a thechnoleg. Wrth i fusnesau a sefydliadau sylweddoli pa mor bwysig yw estheteg, profiadau defnyddwyr a straeon gweledol i gysylltu â chynulleidfaoedd mae galw mawr am weithwyr creadigol proffesiynol. Mae hyn yn agor drysau i gyfleoedd gwaith a mentrau entrepreneuraidd proffidiol.

Ar ben hynny, mae celf a dylunio yn rhan annatod o gynnydd diwylliannol a chymdeithasol. Mae artistiaid a dylunwyr yn cyfrannu at lunio hunaniaeth weledol cymunedau ac adlewyrchu ysbryd eu hoes. Trwy eu creadigaethau maent yn herio ystrydebau, yn ysgogi pobl i feddwl, ac yn ysbrydoli newid, gan wneud celf a dylunio yn llwyfan ar gyfer trafodaethau cymdeithasol a gwleidyddol.

Bydd gyrfa ym maes celf a dylunio yn gyfle i ddatblygu portffolio o weithiau unigryw, gwreiddiol, i weithio gydag unigolion sy'n rhannu'r un meddylfryd, ac i gyfrannu at greadigrwydd byd-eang. P'un a ydych yn dymuno bod yn arlunydd, yn ddylunydd graffeg, neu'n artist amlgyfrwng, mae'r sector celf a dylunio yn cynnig cynfas eang i'r rhai sy'n breuddwydio am yrfa sy'n llawn dychymyg ac ysbrydoliaeth, ac sydd â'r grym i drawsnewid y byd trwy straeon gweledol.

Cyfleoedd o ran Gyrfa:

  • l Dylunydd Graffig: Cyflog Cyfartalog - £20,000 i £35,000 y flwyddyn
  • l Dylunydd Mewnol: Cyflog Cyfartalog - £20,000 i £45,000 y flwyddyn
  • l Dylunydd Ffasiwn: Cyflog Cyfartalog - £20,000 i £45,000 y flwyddyn
  • l Artist Cain: Cyflog Cyfartalog - Gall amrywio'n fawr, gyda rhai artistiaid yn ennill llai na £20,000 ac artistiaid sydd wedi sefydlu eu hunain yn ennill llawer mwy.
  • l Dylunydd Gwefannau: Cyflog Cyfartalog - £20,000 i £40,000 y flwyddyn
  • l Darlunydd: Cyflog Cyfartalog - £20,000 i £40,000 y flwyddyn
  • l Cyfarwyddwyr Celf: Cyflog Cyfartalog - £30,000 i £60,000 y flwyddyn
  • l Pensaer: Cyflog Cyfartalog - £30,000 i £55,000 y flwyddyn (Cofiwch: Fel arfer mae penseiri angen hyfforddiant ffurfiol a bod yn gofrestredig)
  • l Curadur mewn Oriel Gelf: Cyflog Cyfartalog - £20,000 i £40,000 y flwyddyn
  • l Ffotograffydd: Cyflog Cyfartalog - £18,000 i £35,000 y flwyddyn

Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?

Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau Lefel 2 hyd at gyrsiau lefel Gradd.

Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.


Gyrfa mewn Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth


Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.

Myfyriwr yn gwneud llun