Dw i wedi gwirioneddol fwynhau fy nghyfnod yng Nglynllifon ac yn barod rŵan i fynd ymlaen i astudio Amaethyddiaeth ar lefel gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r coleg wedi rhoi profiadau a chyfleoedd ardderchog i mi, ond yr uchafbwyntiau’n sicr oedd ennill cystadleuaeth gwobr Bugail Ifanc Ewropeaidd y Flwyddyn yn yr Ovinpiades ym Mharis a gwobr Myfyriwr y Flwyddyn yn y Sioe Frenhinol!
Dafydd Davies - Amaethyddiaeth Lefel 3