Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Mae gan y Coleg berthynas ardderchog â Sgiliau Adeiladu, Cyngor Sgiliau’r Sector, cyflogwyr lleol, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai.

Rydym yn cynnig cyrsiau llawn amser yn y meysydd a ganlyn:

  • Gwaith Brics
  • Gwaith Saer ac Asiedydd
  • Adeiladu Proffesiynol
  • Gosod Trydan
  • Paentio ac Addurno
  • Plastro
  • Plymwaith

Cymwysterau ym maes Adeiladu

Mi wnes i ddewis y cwrs am ’mod i eisiau dysgu crefft a chael gyrfa fel Peintiwr ac Addurnwr, ond mae’r hyn dw i wedi’i ddysgu am y sector adeiladu’n gyffredinol
wedi bod yn ddiddorol iawn hefyd. Dw i’n bwriadu parhau i ddatblygu fy sgiliau peintio ac addurno, a chyn bo hir mi hoffwn fod yn rhedeg fy musnes fy hun.

Gennine Morgan - Peintio ac Addurno Lefel 2

Gyrfa mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig


Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.

Wyddoch chi?


Cyflog cyfartalog o £28,800...
...a bydd 8,044 swydd newydd erbyn 2024.


Prif gyfleoedd gyrfaol

  • Penseiri
  • Peirianwyr Sifil
  • Rheolwyr Prosiectau Adeiladu
  • Syrfewyr Meintiau