Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Pwllheli, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Dylunio a Thechnoleg

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Pwllheli

Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi ehangu'ch dealltwriaeth o ddylunio a thechnoleg ddylunio cynnyrch? Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer amrediad eang o fyfyrwyr sydd am ddeall y berthynas gymhleth rhwng dylunio, defnyddiau, cynhyrchu a marchnata. Galluoga i chi feithrin sgiliau dylunio a gwneud cynnyrch drwy ganolbwyntio ar waith cwrs ymarferol.

Gallwch ddilyn y cwrs yn rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau AS eraill, neu o bosibl gyda chymwysterau Lefel 3 eraill.

Gall myfyrwyr hŷn hefyd ddilyn y cwrs yn rhan-amser.

Ar y cwrs, cewch gyflwyniad i faes dylunio a thechnoleg cynhyrchu. Drwy waith prosiect a braslunio, cewch gyfle i feithrin eich sgiliau dylunio a gwneud. Cewch ddysgu hefyd sut i ddefnyddio systemau dylunio cyfrifiadurol (CAD/CAM), a chewch gyfle i gael profiad o ddylunio cynnyrch mewn cyd-destun diwydiannol. Mae'n bosibl hefyd y trefnir teithiau tramor ac ymweliadau addysgol ag arddangosfeydd.

Blwyddyn 1 (UG)

Uned 1 - Theori: Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar ddatblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion dylunio a gwneud, ynghyd a’r egwyddorion technegol cysylltiedig i faes dylunio cynnyrch; megis deunyddiau a phrosesau gweithgynhyrchu. Mae’r uned hon yn 50% o’r radd UG ac yn golygu sefyll arholiad ysgrifenedig.

Uned 2 - Tasg Dylunio a Gwneud: Mae’r uned hon yn rhoi’r cyfle i chi roi’r theori ar waith. Byddwch yn dilyn y broses ddylunio i greu prototeip cynnyrch 3D sy’n ateb angen cwsmer penodol. Mae’r uned werth 50% o’r radd UG ag yn seiliedig ar brosiect mewn maes sydd o ddiddordeb i chi.

Blwyddyn 2 (U2)

Mae’r canlyniad UG yn cyfrannu at 40% o’r radd U2, gyda’r 60% yn weddill o’r unedau canlynol yn yr ail flwyddyn:

Uned 3 - Theori: Nod yr uned hon yw adeiladu ar y wybodaeth a dealltwriaeth a ddatblygwyd yn Uned 1 (UG) drwy archwilio’r meysydd ehangach sy’n effeithio ar ddylunio cynnyrch; i gynnwys arferion masnachol a diwydiannol a gweithio o fewn rheoliadau a deddfwriaeth. Mae’r uned hon yn 30% o’r radd U2 ac yn golygu sefyll arholiad ysgrifenedig.

Uned 4 - Tasg Dylunio a Gwneud: Mae’r uned hon yn rhoi cyfle arall i chi roi’r theori ar waith. Byddwch yn dilyn y broses ddylunio i greu prototeip cynnyrch 3D sy’n ateb angen cwsmer penodol. Er ei fod yn dilyn strwythur tebyg i Uned 2 (UG), mae pwyslais pellach ar arloesi a chreadigrwydd yn Uned 4 (U2). Mae’r uned werth 30% o’r radd U2 ag yn seiliedig ar brosiect mewn maes sydd o ddiddordeb i chi.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd C mewn Dylunio a Thechnoleg neu bwnc perthnasol

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd a gwaith dosbarth gan gynnwys gwaith grŵp
  • Adnoddau rhyngweithiol ar y cwrs - Google Classroom (Amgylchedd Dysgu Rhithwir)
  • Gwrando, darllen ac ymateb
  • Sesiynau ymarferol yn y gweithdy

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Byddwch yn sefyll arholiad ar yr unedau theori ym mis Mai/Mehefin bob blwyddyn. Caiff y prosiect a'r portffolio eu hasesu'n gyson drwy gydol y flwyddyn a'u safoni'n allanol ddechrau Mai.

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel UG, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn cael pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau, yn cynnwys Grŵp Llandrillo Menai.

Os dewiswch barhau i astudio pwnc perthnasol, mae llawer o gyrsiau prifysgol ar gael, a bydd y gwaith a wnewch ar y cwrs Lefel A yn help i chi ddewis yn ddoeth ohonynt.

Gallech fynd ymlaen i ddilyn cwrs Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio, neu wneud cais i ddilyn cwrs gradd mewn addysgu, dylunio gemwaith, ffasiwn a thecstilau, peirianneg, pensaernïaeth, neu unrhyw faes arall y mae gennych ddiddordeb ynddo.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • International
  • Lefel AS/A

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau
  • Pwllheli

Lefel AS/A