Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lefel AS/A Celf a Dylunio (Ffotograffiaeth)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Celf a Dylunio (Ffotograffiaeth)

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Llandrillo-yn-Rhos

Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi wedi gwirioni ar ffotograffiaeth? Hoffech chi feithrin gwybodaeth ymarferol ac artistig o ffotograffiaeth, ei datblygiad a'r defnydd a wneir o'r grefft?

Mae'r cwrs hwn yn archwilio'r dulliau, y defnyddiau a'r technolegau sy'n gysylltiedig â ffotograffiaeth. Bydd yn eich annog i werthfawrogi'r byd gweledol, ac yn eich galluogi i ymateb yn greadigol drwy gyfrwng ffotograffiaeth. Mae'r cwrs yn addas i bobl sydd am weithio mewn maes masnachol a phroffesiynol, yn ogystal â rhai sydd am astudio dulliau a syniadau arloesol.

Byddwch yn meithrin amrediad o sgiliau ymarferol, gan ddysgu trawsnewid eich syniadau'n brosiect gorffenedig. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau arbrofi, dadansoddi a chofnodi a fydd yn eich helpu i ddatblygu fel artist ac i werthfawrogi gwaith celf.

Gallwch ddilyn y cwrs yn rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau AS eraill, neu o bosib gymwysterau Lefel 3 eraill.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd C mewn pwnc creadigol ynghyd â ffolder o waith y dylid dod â chi gyda chi i'w gyfweld

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Mae yna ffi adnoddau ychwanegol o £ 20 ar y cwrs hwn.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Dysgu theori
  • Gwaith ymarferol
  • Ymweld ag orielau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
  • Amgylchedd dysgu rhithiol (MOODLE)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, i gael y Lefel AS, byddwch yn cwblhau un uned gwaith cwrs, sy'n cyfateb i 40% o'r cymhwyster Lefel A llawn. Caiff yr uned hon ei hasesu drwy gyfuniad o asesiadau interim ac adborth a chaiff ei safoni'n allanol ar derfyn y flwyddyn AS.

Yn ystod yr ail flwyddyn, i gael y Lefel A lawn, byddwch yn cwblhau 'Ymchwiliad Personol' ac 'Aseiniad a Osodwyd yn Allanol' a fydd, gyda'i gilydd, yn cyfateb i 60% o'r cymhwyster Lefel A llawn.

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster ychwanegol a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn ennill pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am le ar amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn sawl sefydliad.

Os dewiswch barhau i astudio'r pwnc hwn, mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig y cyrsiau gradd a ganlyn:

  • Gradd Sylfaen (FdA) Celf a Dylunio
  • Gradd Sylfaen (FdA) Ffotograffiaeth
  • BA (Anrh) Celfyddyd Gain

Byddai eich dewisiadau o ran gyrfa'r cynnwys gweithio mewn amryw o leoliadau sy'n ymwneud â ffotograffiaeth a'r cyfryngau. Gallech weithio ar eich liwt eich hun fel ffotograffydd, mewn cyd-destun artistig neu fasnachol. Gallech hefyd weithio yn y diwydiannau creadigol e.e. ym maes hysbysebu, dylunio gwefannau, teledu, ffilmiau, cyhoeddi, darlunio neu ddylunio cynnyrch.

Mae gyrfaoedd posib eraill yn cynnwys gweithio ym myd addysg, mewn oriel neu amgueddfa, ym myd y theatr neu wneud gwaith sy'n gysylltiedig â gŵyl neu wyliau, gweithio mewn archifdy neu yn y diwydiant argraffu.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth
  • International
  • Lefel AS/A

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau

Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth

Myfyriwr yn gwneud llun

Lefel AS/A