BSc (Anrh) Cyfrifiadura (Datblygu Meddalwedd) (Atodol)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser, Llawn Amser
- Hyd:
Llawn-amser: 1 flwyddyn
Dydd Mawrth a dydd Gwener, 9am-5pm
- Cod UCAS:G402
BSc (Anrh) Cyfrifiadura (Datblygu Meddalwedd) (Atodol)Cyrsiau Lefel Prifysgol
Rhan Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Llawn Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n llawn-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs gradd BSc (Anrh) mewn Cyfrifiadura – Datblygu Meddalwedd yn caniatáu i chi ychwanegu at eich cymhwyster Lefel 5, gan ymestyn eich dealltwriaeth a'ch paratoi ar gyfer swyddi proffesiynol uwch neu astudiaeth ôl-radd.
Byddwch yn mireinio eich sgiliau technegol a dadansoddol drwy astudio modiwlau uwch a chwblhau prosiectau yn y byd go iawn, gan ddefnyddio'r dulliau a thechnegau rydych chi eisoes wedi'u dysgu i ddatblygu datrysiadau cyfrifiadura newydd. Mae'r cwrs yn rhoi pwyslais ar feddwl yn feirniadol, dysgu'n annibynnol, a gwneud penderfyniadau, gan eich helpu i reoli tasgau cymhleth a heriau proffesiynol yn hyderus.
Ymhlith nodweddion penodol y radd sylfaen mae cyfleoedd i astudio ar draws disgyblaethau, pwyslais cryf ar sgiliau ymarferola phwyslais ar fod yn barod am yrfa . Bydd graddedigion yn gadael gyda'r wybodaeth, y creadigrwydd, a'r hyblygrwydd sy'n angenrheidiol i ffynnu yng nghanol prysurdeb y diwydiant cyfrifiadura.
Mae modiwlau yn cynnwys:
- Uwch Raglennu
- Traethawd Estynedig BSc
- Prosiect Grŵp
- Cyfrifiadura Ffisegol
- Peirianneg Meddalwedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.
Gofynion mynediad
Gofynion Academaidd:
Bydd dilyniant i lefel 6 yn digwydd yn uniongyrchol yn achos y myfyrwyr hynny sy'n mynd ymlaen o Radd Sylfaen i Radd BA (Anrh) mewn Cyfrifiadura yn GLlM yn dilyn cwblhau'r radd sylfaen yn llwyddiannus. Rhaid i fyfyrwyr sy'n symud ymlaen aros ar eu llwybr dewisol (Datblygu Meddalwedd neu Rwydweithio).
Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.
Bydd ymgeiswyr allanol ar gyfer y cwrs lefel 6 yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â pholisi GLlM ynghylch trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi).
Gofynion Iaith
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
- Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Darlithoedd rhyngweithiol
- Gweithdai ymarferol
- Trafodaethau / gweithgareddau grŵp
- Siaradwyr gwadd
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
Mae'r dysgu yn gyfranogol ac yn anffurfiol, ac yn llawn cyfleoedd i'r unigolyn archwilio eu creadigrwydd.
Amserlen
- Llawn amser: 1 blwyddyn, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Bydd arnoch angen cyfrifiadur neu liniadur yn eich cartref ynghyd â gwasanaeth rhyngrwyd dibynadwy.
Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Cyswllt:
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
Mark Roberts (Rhaglen Arweinydd): robert19m@gllm.ac.uk
David Clarke (Gweinyddiaeth): clarke1d@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Rhaglenni meddalwedd
- Adroddiadau
- Portffolios
- Astudiaethau Achos
- Cyflwyniadau
- Gwaith Labordy
- Adfyfyrio
- Asesiadau i'w gwneud mewn amser penodol
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi at amrywiaeth o yrfaoedd mewn datblygu rhaglenni gwe, peirianneg meddalwedd, rhaglennu, cyfathrebu a rhwydweithio, cymwysiadau cyfrifiadurol, rheoli TG, gwerthu cyfrifiaduron a marchnata.
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Mae'r cwrs hwn yn adeiladu ar y sgiliau a feithrinwyd eisoes wrth astudio am gymhwyster Lefel 5 mewn Datblygu Meddalwedd.
Am bob 10 credyd, dylai'r myfyrwyr gwblhau tua 100 o oriau dysgu tybiannol. Bydd tua 30% o hyn yn gyswllt dysgu uniongyrchol, a 70% yn ddysgu annibynnol.
Rhaglennu Uwch (20 credyd, craidd)
Mae'r modiwl hwn yn datblygu eich sgiliau rhaglennu drwy ganolbwyntio ar ddefnyddio technegau cymhleth i greu rhaglenni integredig, sy'n seiliedig ar ddata. Byddwch chi'n dysgu sut i ddylunio a datblygu datrysiadau sy'n cysylltu gwasanaethau ac yn rhannu data ar draws llwyfannau, gan adeiladu rhaglenni cleientiaid a lletywyr i ddangos rhaglennu dosbarthedig ar waith yn y byd go iawn. (40% Prototeipio, creu a phrofi detholiad o raglenni bach, 60% Prototeipio, creu a phrofi set gymhleth o raglenni sy'n seiliedig ar ddata)
Traethawd BSc Estynedig (40 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i chi archwilio maes cyfrifiadura arbenigol drwy draethawd neu brosiect ymchwil annibynnol. Byddwch yn cymhwyso ac yn ehangu eich gwybodaeth a'ch sgiliau wrth ddatblygu annibyniaeth a gallu i feddwl yn feirniadol ac i ddatrys problemau. Gan weithio'n unol â fframwaith Ymchwil a Moeseg Grŵp Llandrillo Menai, byddwch yn cynhyrchu traethawd estynedig proffesiynol sy'n cynnwys cynnig, adolygiad o lenyddiaeth, a methodoleg glir, naill ai trwy ymchwil wreiddiol neu drwy gymhwyso damcaniaethau a thechnegau cyfrifiadurol i brosiect ymarferol. (80% Traethawd hir, 20% Viva)
Prosiect Grŵp (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i chi gydweithio mewn grwpiau bach i gynllunio a chyflawni prosiect mewn maes cyfrifiadura o'ch dewis. Byddwch yn cymhwyso ac yn ehangu eich gwybodaeth a'ch sgiliau technegol wrth feithrin sgiliau gweithio mewn tîm, cyfathrebu, ac arwain. Gan weithio dan gyfarwyddyd diwtor, byddwch yn cymryd cyfrifoldeb am bob cam o'r prosiect, o'r cynnig a'r cynllunio i'r cyflawni a'r gwerthuso, gan weithio'n broffesiynol i ddatrys problemau ac i gael canlyniad llwyddiannus. (10% Cynnig y grŵp, 20% Ffolder prosiect y grŵp sy'n cynnwys dogfennaeth sy'n briodol i rychwant y prosiect, 40% Prosiect gorffenedig, 30% Adfyfyrdod)
Cyfrifiadura Ffisegol (20 credyd, gorfodol)
Trwy archwilio ac arbrofi ymarferol, mae'r modiwl hwn yn cyflwyno egwyddorion y rhyngweithio a wna caledwedd a meddalwedd. Byddwch yn dechrau drwy ddatblygu dealltwriaeth gadarn o hanfodion trydan ac electroneg ac yna'n cymhwyso’r wybodaeth i brosiect cyfrifiadura ymarferol.
Gan weithio ar brosiect o'ch dewis eich hun, byddwch yn dylunio, adeiladu, a phrofi system sy'n cyfuno mewnbynnau ac allbynnau caledwedd â dulliau rheoli meddalwedd, gan ennill profiad gwerthfawr o greu a dogfennu datrysiad cyfrifiadura integredig. 10% Prawf llyfr caeedig i'w gwblhau yn y dosbarth mewn amser penodol (1 awr). 80% Dylunio, creu, profi a dogfennu prosiect cyfrifiadura ffisegol, 10% Cyflwyniad
Peirianneg Meddalwedd (20 credyd, craidd)
Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar eich gwybodaeth flaenorol am ddatblygu meddalwedd a rheoli prosiectau gan ganolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen i ddylunio, datblygu a chynnal ystod o systemau cyfrifiadur. Byddwch yn archwilio cysyniadau a methodolegau peiriannu meddalwedd, o ddulliau traddodiadol i Agile, ac yn dysgu sut i'w defnyddio'n effeithiol mewn prosiectau go iawn.
Drwy gymhwyso ymarferol, byddwch yn ennill profiad ym mhob cam o gylch bywyd meddalwedd, gan gynnwys dylunio, gweithredu, cynnal a chadw, a rheoli fersiynau. Bydd hyn yn eich paratoi ar gyfer ymarfer proffesiynol yn y diwydiant cyfrifiadura. 20% Adroddiad, 70% Dylunio a phrototeipio, creu a phrofi set o raglenni cymhleth sy'n seiliedig ar ddata, 10% Adfyfyrdod
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol
Lefel:
6
Maes rhaglen:
- Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
- International
Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor
Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
Sefydliad dyfarnu