Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diploma yn y Cyfryngau Digidol: Animeiddio 3D a Datblygu Gemau - Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn, a chwrs ATODOL yn yr 2il flwyddyn.

Gwnewch gais
×

Diploma yn y Cyfryngau Digidol: Animeiddio 3D a Datblygu Gemau - Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llangefni
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa heriol yn y diwydiant gemau a chyfryngau newydd?

Ydych chi am feithrin sgiliau TG gwerthfawr a mynd ymlaen i brifysgol?

Ar y cwrs hwn, cewch wybodaeth ymarferol mewn amrywiaeth o feysydd, a chewch gyflwyniad i'r offer a'r technegau a ddefnyddir yn y diwydiant cyfryngau. Byddwch yn canolbwyntio ar ddylunio 3D ac ar gemau, ond bydd y sgiliau a ddatblygwch yn berthnasol i amrywiaeth eang o yrfaoedd sy'n gysylltiedig â chyfryngau.

Mae'r cwrs i'r dim os ydych yn gobeithio mynd ymlaen i ddilyn cwrs prifysgol mewn creu gemau, cyfryngau, dylunio graffig, cyfrifiadura, TG neu gyfrifiadureg.

Mae hefyd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa ym maes cyfryngau, gan roi profiad i chi o ddefnyddio meddalwedd a phrosesau proffesiynol. Byddwch yn meithrin sgiliau busnes pwysig, fel sut i reoli prosiectau, gweithio gyda chleientiaid, gweithio ar eich liwt eich hun a defnyddio portffolios. Mae portffolios yn hanfodol ym maes cyfryngau; maent yn fodd i chi arddangos eich holl waith pan fyddwch yn chwilio am waith neu'n gwneud cais am swydd.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 4 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af)
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Sesiynau yn y gweithdy
  • Dysgu drwy wneud gwaith ymarferol
  • Darlithoedd
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Byddwch yn astudio yn un o'r tair ystafell datblygu gemau sydd yn y coleg, gan ddefnyddio caledwedd arbenigol a meddalwedd o'r safon a geir yn y diwydiant. Bydd y cyfleusterau ardderchog a'r dechnoleg ddiweddaraf (ystafell gyfryngau ac ynddi feddalwedd proffesiynol, adnoddau cynhyrchu) yn golygu y bydd eich sgiliau'n gyfoes ac yn hynod o ddefnyddiol.

Ymhlith y meddalwedd sydd ar gael, mae:

  • Unity Game Engine
  • Unreal Game Engine
  • Autodesk 3DS Max
  • Autodesk Maya
  • Autodesk Mudbox
  • Substance Painter
  • Substance Designer
  • Multimedia Fusion 2
  • Adobe Photoshop
  • Adobe Illustrator
  • Adobe Animate
  • Audacity
  • Adobe Audition

Byddwch yn gallu cynhyrchu gemau 2D, modelau ac amgylcheddau 3D, dylunio lefelau i gemau, celf gysyniadol i gemau ar-lein, animeiddiadau 3D a 2D, dogfennau dylunio gemau, sgriptiau o'r un safon ag a geir yn y diwydiant, pecynnu ar gyfer gemau, delweddau digidol a sain ddigidol.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Asesiad o bortffolio
  • Arsylwi ar waith ymarferol
  • Adroddiadau
  • Ysgrifennu adfyfyriol
  • Cyflwyniadau

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran beth i'w wneud nesaf.

Mae'r cwrs yn llwybr delfrydol i Addysg Uwch, a gallech astudio creu gemau, cyfryngau, dylunio graffig, TG, cyfrifiadureg neu unrhyw bwnc perthnasol arall.

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Nghrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Gradd Sylfaen (FdSc) Animeiddio 3D a Datblygu Gemau, sydd ar gael yn Llandrillo-yn-Rhos
  • Gradd Sylfaen (FdA) Cynhyrchu ar gyfer y Cyfryngau Darlledu, sydd ar gael yn Llandrillo-yn-Rhos
  • Gradd Sylfaen (FdA) Technoleg Greadigol a Chyfryngau Digidol, sydd ar gael ym Mangor ac yn Llangefni

Os dewiswch beidio â mynd ymlaen i ddilyn cwrs Addysg Uwch, bydd eich sgiliau yn ddefnyddiol mewn sawl maes arall. Gallech weithio ym maes gemau, y cyfryngau newydd a chyfrifiadura, gan ddefnyddio'ch sgiliau, eich gwybodaeth a'ch portffolio i ddod o hyd i swydd lawn amser neu i weithio ar eich liwt eich hun.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
  • International
  • Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm

Dwyieithog:

n/a

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm

Myfyrwyr yn defnyddio camera