Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

BSc (Anrh) Gwyddor Data Gymhwysol - Prentisiaeth Gradd

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    3 blynedd

Cofrestru
×

BSc (Anrh) Gwyddor Data Gymhwysol - Prentisiaeth Gradd

Cyrsiau Lefel Prifysgol

Rhan Amser

Gwneir ceisiadau am y cwrs hwn drwy wefan Prifysgol Bangor.

Cliciwch yma i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Sylwch: Nid yw'r cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol.

Datblygwch eich gyrfa ym maes gwyddor data gyda Choleg Llandrillo a Phrifysgol Bangor

Datblygwch eich gyrfa ym maes data, TG neu ddadansoddi busnes gyda phrentisiaeth gradd sy'n cyd-fynd â'ch swydd. Mae'r brentisiaeth gradd hon, a gyflwynir gan Goleg Llandrillo mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, yn cynnig llwybr hyblyg i ennill cymhwyster BSc llawn, tra hefyd yn parhau mewn swydd llawn amser.

I wneud cais: Cysylltwch ag Andrew Scott ar: E-bost: a.scott@gllm.ac.uk neu Ffôn: 01492 546 666 est1440

Mae'r brentisiaeth gradd gwyddor data cymhwysol hon yn cyfuno astudiaeth academaidd â chymhwyso'r wybodaeth yn y byd go iawn, gan roi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio'n gyda data yn hyderus mewn sefydliadau modern.

Cost y Cwrs

Mae ein prentisiaethau gradd wedi'u hariannu'n llawn; gall prentisiaid ennill eu Gradd wrth aros yn y gwaith, a bydd y llywodraeth yn talu'r ffioedd.

Byddwch yn datblygu arbenigedd gyda:

  • Rhaglennu a Python ac SQL
  • Dadansoddi a Dehongli Data
  • Dylunio a Rheoli Cronfeydd Data
  • Systemau a phrosesau data busnes
  • Egwyddorion a methodoleg peirianneg meddalwedd
  • Hanfodion seiberddiogelwch

Byddwch hefyd yn archwilio meysydd cysylltiedig fel:

  • Mathemateg ar gyfer Cyfrifiadura
  • Moeseg Data
  • Fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol ar gyfer defnyddio data

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn symud ymlaen i bynciau arbenigol, gan gynnwys:

  • Dysgu Peirianyddol
  • Delweddu Data
  • Rheoli Data Uwch

Byddwch yn cwblhau prosiect estynedig mewn deallusrwydd artiffisial a delweddu data, gan gymhwyso'ch gwybodaeth yn uniongyrchol i heriau yn y gweithle. Mae cymhwyster ymadael dewisol (FdSc) ar gael ar ôl y ddwy flynedd gyntaf, yn unol â'r Fframwaith Prentisiaeth Uwch.
Ar ôl cwblhau'r BSc mewn Gwyddor Data Cymhwysol, bydd gennych sylfaen gref mewn dadansoddi data, rhaglennu, a'r offer a'r technegau a ddefnyddir i droi data yn fewnwelediad ystyrlon.

Mae'r sgiliau a ddatblygir yn ystod y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o rolau ar draws y diwydiannau sy'n seiliedig ar ddata. Gall graddedigion symud ymlaen i swyddi fel dadansoddwr data, gwyddonydd data, dadansoddwr deallusrwydd busnes, peiriannydd data, neu rolau sy'n canolbwyntio ar strategaeth data a gwneud penderfyniadau.

Gan gyfuno gwybodaeth academaidd â phrofiad ymarferol yn y gweithle, bydd gennych y sgiliau i symud ymlaen yn eich rôl bresennol neu symud i swyddi mwy arbenigol o fewn sector sy'n ehangu'n gyflym ac sy'n canolbwyntio fwyfwy ar ddata.

Gofynion mynediad

I fod yn gymwys, rhaid i chi:

  • Bod yn byw ac yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd
  • Yn cael eich cyflogi mewn rôl berthnasol am o leiaf 16 awr
  • Cael cefnogaeth eich cyflogwr
  • Cymhwyster Galwedigaethol Lefel 3, neu 3 Lefel A gradd C neu uwch neu brofiad priodol
  • ⁠Diploma Mynediad i Addysg Uwch
  • Ystyrir pob ymgeisydd yn unigol a bydd disgwyl iddynt ddod i gyflweliad ffurfiol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Ble byddwch chi'n astudio eich Prentisiaeth Gradd ochr yn ochr â gweithio:

  • Blwyddyn 1: Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos
  • Blwyddyn 2: Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos
  • Blwyddyn 3: Prifysgol Bangor

Pam dewis Prentisiaeth Gradd yng Ngholeg Llandrillo?

  • Ennill gradd prifysgol wrth barhau i weithio
  • Dysgu gan ddarlithwyr arbenigol a gweithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant
  • Dim ffioedd dysgu – wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer dysgwyr cymwys yng Nghymru
  • Cymhwyso gwybodaeth a sgiliau newydd yn uniongyrchol i'ch swydd

⁠Hyd y Cwrs

  • Mae Prentisiaethau Gradd yn cyfuno gwaith llawn amser ag astudio rhan-amser.
  • Byddwch yn y gwaith am bedwar diwrnod yr wythnos.
  • Byddwch yn cwblhau 1 diwrnod llawn o astudio wyneb yn wyneb yn y coleg ac 1 noson o astudio o bell.
  • Cwblheir pob gradd dros 3 blynedd neu 6 blynedd yn rhan-amser.

Asesiad

Cyflwynir yr addysgu trwy ddarlithoedd rhyngweithiol, tiwtorialau a gweithdai. Mae'r dysgu yn ymarferol ac yn ddamcaniaethol. Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, megis aseiniadau ymarferol a damcaniaethol, adroddiadau, cyflwyniadau llafar, gwaith prosiect, portffolios ac aseiniadau mewn tîm, ac asesu yn y gwaith drwy brosiectau a thrwy adeiladu portffolio.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r BSc mewn Gwyddor Data Cymhwysol, bydd gennych sylfaen gref mewn dadansoddi data, rhaglennu, a'r offer a'r technegau a ddefnyddir i droi data yn fewnwelediad ystyrlon. Mae'r sgiliau a ddatblygir yn ystod y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o rolau ar draws y diwydiannau sy'n seiliedig ar ddata. Gall graddedigion symud ymlaen i swyddi fel dadansoddwr data, gwyddonydd data, dadansoddwr deallusrwydd busnes, peiriannydd data, neu rolau sy'n canolbwyntio ar strategaeth data a gwneud penderfyniadau.

Gan gyfuno gwybodaeth academaidd â phrofiad ymarferol yn y gweithle, bydd gennych y sgiliau i symud ymlaen yn eich rôl bresennol neu symud i swyddi mwy arbenigol o fewn sector sy'n ehangu'n gyflym ac sy'n canolbwyntio fwyfwy ar ddata.

Ffeithiau pwysig

  • Fel arfer, bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag astudiaeth academaidd am un diwrnod ac un noson yr wythnos dros dair blynedd.
  • Yn ystod y cyfnod hwn, mae myfyrwyr yn parhau i weithio am bedwar diwrnod yr wythnos gyda'u cyflogwr presennol, gan ennill profiad ymarferol yn y gwaith.
  • Bydd astudio yn ystod y dydd a gyda'r nos yng Ngholeg Llandrillo, ac yna ym Mhrifysgol Bangor am y flwyddyn olaf.
  • Mae'r ddwy flynedd gyntaf o astudio yn digwydd yng Ngholeg Llandrillo.
  • Yn y flwyddyn olaf, mae pob myfyriwr yn cwblhau eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor.
  • Byddwch yn graddio gyda gradd BSc lawn o Brifysgol Bangor.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn byw ac yn gweithio yng Nghymru a bod ganddynt gefnogaeth eu cyflogwr.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Gwybodaeth Bellach am Fodiwlau:

Blwyddyn 1
Dylunio a Rheoli Cronfeydd Data (20 credyd)
Systemau Cyfrifiadurol (10 credyd)
Cyflwyniad i Raglennu (20 credyd)
Mathemateg ar gyfer Cyfrifiadura (10 credyd)
Graffeg Ddigidol (gan gynnwys Javascript a Canvas) (20 credyd)
Technolegau'r We (10 credyd)
Dysgu seiliedig ar gyflogadwyedd 1 (20 credyd)

Blwyddyn 2
Moeseg Data (10 credyd)
Strwythurau Data ac Algorithmau (10 credyd)
Cyflwyniad i Ddadansoddi Data (20 credyd)
Rheoli Prosiectau ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol ym maes Cyfrifiadura (10 credyd)
Algorithmau Delweddu ac Algorithmau Graffigol (20 credyd)
Cyflwyniad i Ganolwedd (10 credyd)
Dulliau ymchwil a sgiliau astudio (20 credyd)
Dysgu seiliedig ar gyflogadwyedd 2 (20 credyd)

Blwyddyn 3
Rheoli a Dadansoddi Data Uwch (20 credyd)
Diogelwch Cyfrifiaduron a Rhwydwaith (20 credyd)

Delweddu Gwybodaeth (20 credyd)
Dysgu Peirianyddol (20 credyd)
Prosiect Prosesu Data a Deallusrwydd Artiffisial yn seiliedig ar Waith (20 credyd)
Prosiect Dylunio/Gweithredu Delweddu yn seiliedig ar Waith (20 credyd)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol

Lefel: 4-6

Maes rhaglen:

  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Darlithydd yn dysgu myfyrwyr am AI a roboteg

Sefydliad dyfarnu