Gradd Sylfaen (FdSc) Celf 3D a Datblygu Gemau
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser, Llawn Amser
- Hyd:
Llawn-amser: 2 flynedd NEU Rhan-amser: 4 blynedd. Hefyd ar gael ar sail fodiwlaidd.
- Cod UCAS:6T51
Gradd Sylfaen (FdSc) Celf 3D a Datblygu GemauCyrsiau Lefel Prifysgol
Rhan Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Llawn Amser
Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.
Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.
Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi gael gyrfa heriol yn y diwydiant gemau?
Erbyn hyn mae gemau cyfrifiadurol yn ddiwydiant byd-eang sy'n werth biliynau o bunnoedd. I ymdopi â'r galw cynyddol, mae ar y diwydiant angen nifer gynyddol o Artistiaid, Datblygwyr Gemau a nifer o rolau arbenigol cyffrous eraill.
Bydd y cwrs yn eich paratoi i fod yn un o'r arbenigwyr hynny, ac yn fodd i chi ymgymryd â nifer o swyddi yn y sector amrywiol hwn. Yn ystod y cwrs, byddwch yn elwa ar amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf, y dechnoleg ddiweddaraf, cyfleusterau cyfrifiadurol mynediad agored a chefnogaeth wych gan diwtoriaid.
Ar y cwrs cewch feithrin gwybodaeth a sgiliau ymarferol mewn amrywiol feysydd. Os ydych wedi dilyn cwrs Lefel 3 (neu gymhwyster cyfwerth) ac os hoffech fynd ymlaen i ddysgu rhagor am feysydd eraill, fel celf 3D, delweddu pensaernïol a datblygu gemau, mae cwrs hwn yn addas i chi.
Ar y cwrs, cewch ddealltwriaeth gadarn o sawl maes craidd ym maes datblygu gemau cyfrifiadurol, gan gynnwys modelu 3D, animeiddio 3D, sain, rhaglennu a dylunio rhyngwynebau defnyddwyr.
Yn ogystal â'r wybodaeth sylfaenol, cewch feithrin sgiliau proffesiynol, fel gweithio mewn tîm a datrys problemau, sy'n hanfodol o ran datblygu'ch gyrfa. Byddwch yn datblygu dull arloesol a hyblyg o weithio, gan ddefnyddio llawer o sgiliau, yn ogystal â meithrin arbenigedd technegol helaeth.
Mae Grŵp Llandrillo Menai'n aelod o Raglen Academaidd PlayStation®First sy'n cael ei rhedeg gan Sony Interactive Entertainment Europe (SIEE). Mae'r rhaglen hon yn golygu bod staff a myfyrwyr yn gallu defnyddio adnoddau caledwedd a meddalwedd y cwmni i ddatblygu'n broffesiynol.
Mae modiwlau yn cynnwys:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
- Hanfodion Celf Amgylcheddol
- Egwyddorion Dylunio Gemau
- Ymchwilio i Chwarae Gemau
- Cynhyrchu mewn Grŵp
- Cyflwyniad i Fodelu 3D
- Cyflwyniad i Animeiddio 3D
- Profiad Chwaraewyr
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
- Crefft Goleuo
- Dylunio Cymeriadau
- Datblygu Gemau
- Prosiect Ymchwil yn gysylltiedig â'r Diwydiant Gemau
- Prosiect yn Seiliedig ar Fethodoleg
- Datblygu Platfformau Cymysg
- Dylunio Propiau
- Dylunio a Defnyddio Gweadau
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.
Gofynion mynediad
Gofynion Academaidd:
- Yn arferol bydd disgwyl i ymgeiswyr fod wedi ennill 96 pwynt UCAS, a bydd 72 o'r pwyntiau hynny o gwrs lefel 3 ym maes cyfrifiadura neu'r cyfryngau, neu bynciau A2 tebyg
- TGAU gradd C/4 neu uwch (neu gymhwyster Sgil Allweddol) mewn Mathemateg, Cymraeg (iaith gyntaf) / Saesneg a Gwyddoniaeth
- Os nad oes gennych y cymwysterau uchod, efallai y gallwn eich ystyried ar sail unigolion cymwys os gallwch ddangos profiad perthnasol, potensial a chymhelliad
- Bydd myfyrwyr gyda chymwysterau tramor cyfwerth perthnasol yn cael eu hystyried
- Gall ymarferwyr profiadol ddilyn y rhaglen os oes ganddynt gymwysterau NVQ3.
Gofynion Iaith:
- Yn rhugl yn y Gymraeg/Saesneg, gyda chymhwyster cyfwerth â TGAU gradd C/4 neu'n uwch
- Dylai unrhyw radd, diploma neu dystysgrif gymwys fel a nodir uchod fod wedi cael eu dysgu a'u hasesu yn Gymraeg/Saesneg.
- Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 4: IELTS 5.5 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.0)
- Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 5: IELTS 6.0 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.5).
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Darlithoedd rhyngweithiol
- Gweithdai ymarferol
- Trafodaethau / gweithgareddau grŵp
- Siaradwyr Gwadd
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
- Tiwtorial ar-lein
- Byddwch yn dysgu'n anffurfiol drwy gymryd rhan, gan gael digon o gyfle i archwilio ar eich liwt eich hun a bod yn greadigol.
- Mae'n bosibl hefyd y cewch brofiad gwaith yn y maes yn ystod y cwrs.
Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.
Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag o leiaf 75 awr o leoliad gwaith.
Bydd 50 awr yn seiliedig ar fodiwlau perthnasol ar lefel 4 a 5.
Argymhellir bod myfyrwyr yn dod o hyd i brofiad gwaith, yn datblygu eu hunain yn broffesiynol, ac yn mynychu sgyrsiau a seminarau sy'n ymwneud â'r diwydiant am y 25 awr sy'n weddill
Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:
- Bydd cael cyfrifiadur neu liniadur addas sy'n gallu rhedeg meddalwedd graffeg 3D yn helpu'r myfyrwyr i gyflawni eu horiau dysgu annibynnol. Tua £1000
- Gall tripiau nad ydynt yn orfodol gael eu cynnig yn ystod y rhaglen
- Trwyddedau datblygu nad ydynt yn orfodol (e.e. Android) a all arddangos eich gwaith yn allanol. Tua $25, tua £66 yw cost tanysgrifiad i Maxon One
Lle bo modd, mae'r holl feddalwedd a ddefnyddir ar y rhaglen am ddim, ond mewn rhai achosion fe all myfyrwyr fod eisiau prynu trwyddedau personol i ddefnyddio meddalwedd.
Amserlen
Llawn Amser
- Lefel 4: dydd Llun a dydd Mawrth, 9am – 5pm
- Lefel 5: dydd Mawrth a dydd Iau, 9am – 5pm
Rhan-amser
- Blwyddyn 1: dydd Llun, 9am – 5pm
- Blwyddyn 2: dydd Mawrth, 9am – 5pm
- Blwyddyn 3 - dydd Mawrth, 9am - 5pm
- Blwyddyn 4 - dydd Iau, 9am - 5pm
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Cyswllt:
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
Jordan Edwards (Rhaglen Arweinydd): edward2j@gllm.ac.uk
Diane Roberts (Gweinyddiaeth): clarke1d@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Adroddiadau
- Portffolios
- Tasgau Celf
- Tasgau Datblygu
- Arddangosiadau
- Cyflwyniadau
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
Bydd y cymhwyster hwn yn cynnig datblygiad personol parhaus i unigolion sydd am gael gwaith perthnasol yn y sector neu sydd am fynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd Anrhydedd ar Lefel 6. Bydd yn eich paratoi i weithio yn y diwydiant gemau ar eich liwt eich hun neu'n rhan o sefydliad mwy.
"Mae diwydiant gemau'r Deyrnas Unedig yn cyflogi dros 9,000 o ddatblygwyr hynod fedrus a chyflogir 80% o'r rhain y tu allan i Lundain. Mae gan 80% o'r rhai sy'n gweithio mewn stiwdios fel Climax, Jagex, Kuju Entertainment, Rebellion ac Ubisoft Reflections radd neu gymhwyster uwch" (Tiga, 2013).
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Gwybodaeth am yr Uned
Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.
Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau a ganlyn:
Lefel 4
Hanfodion Celf Amgylcheddol (10 Credyd)
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno'r myfyrwyr i hanfodion celf amgylcheddol, gan drafod cysyniadau creiddiol fel blociau, trimiadau, a phecynnau modiwlaidd. Bydd y myfyrwyr yn meithrin sgiliau ymarferol wrth greu cyfrannau realistig ac arddulliadol, tra hefyd yn edrych ar brif egwyddorion adrodd stori o fewn amgylchedd gemau.
Egwyddorion Dylunio Gemau (10 Credyd)
Bwriad y modiwl yw cyflwyno'r myfyrwyr i egwyddorion dylunio gemau a phrofiadau rhyngweithiol apelgar. Bydd y myfyrwyr yn cael eu tywys trwy ddulliau amrywiol o ddylunio gemau a'r profiad gêm cyffredinol, gan gynnwys creu lefelau a bydoedd. Bydd y modiwl hefyd yn trafod arferion gorau o ran dylunio profiad defnyddwyr, dylunio hygyrch, profiad gêm, dylunio systemau a strategaethau monoteiddio.
Ymchwilio i'r Profiad Gêm (10 Credyd)
Bwriad y modiwl yw datblygu a chryfhau gallu'r myfyrwyr i ymchwilio er mwyn cefnogi eu prosiectau a chyfiawnhau eu penderfyniadau. Gwneir hyn trwy ddefnyddio ymchwil drwyadl, ysgrifennu academaidd, confensiynau academaidd a thrwy gyflwyno'r dysgwyr i sut mae meddwl yn feirniadol.
Cynhyrchu mewn Grŵp (20 Credyd)
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno gwybodaeth ehangach am y diwydiant gemau a sut i fod yn rhan ohono, tra hefyd yn edrych at sut i wella a datblygu sgiliau meddal y myfyrwyr. Bydd y modiwl yn trafod materion yn ymwneud â chyflogadwyedd yn ogystal â datblygiad y sector annibynnol a manteision bod yn hunangyflogedig.
Bydd y modiwl yn edrych ar brosiectau sy'n datblygu yn y diwydiant fel Tranzfuser, UK Games Fund, Grads in Games, a Global Game Jams, sut maent yn cefnogi myfyrwyr a beth yw eu manteision. Byddwn yn edrych ar effaith economaidd y diwydiant a sut y bydd gemau'n llunio'r wlad/byd.
Cyflwyniad i Fodelu 3D (20 Credyd)
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno'r myfyrwyr i dechnegau sylfaenol modelu 3D, gan ganolbwyntio ar greu asedau ar gyfer gemau. Bydd y myfyrwyr yn archwilio ystod o lifoedd gwaith, gan ennill dealltwriaeth gadarn o theori geometrig ac amrywiaeth o ddulliau modelu. Trwy waith ymarferol bydd y myfyrwyr yn meithrin y sgiliau i allu cynhyrchu modelau 3D o safon uchel sy'n addas ar gyfer rhaglenni polygon uchel ac isel.
Cyflwyniad i Animeiddio (10 Credyd)
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno sgiliau creiddiol Animeiddio 3D. Bydd y myfyrwyr yn archwilio ac yn defnyddio 12 egwyddor animeiddio, gan ganolbwyntio ar baratoi animeiddiadau i'w defnyddio mewn injan gemau a phlatfformau creadigol eraill.
Cyflwyniad i Ddatblygu Gemau (20 Credyd)
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r myfyrwyr i gysyniadau ac egwyddorion sylfaenol datblygu gemau gan ddefnyddio injan gemau. Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i greu profiad gêm rhyngweithiol trwy ddefnyddio technegau creiddiol i raglennu, gan gynnwys sgriptio a thrin digwyddiadau. Bydd y myfyrwyr yn cael sylfaen gadarn yn yr egwyddorion codio sydd eu hangen i adeiladu mecaneg gêm a phrofiad defnyddiwr apelgar.
Profiad Chwaraewyr (20 Credyd)
Mae'r modiwl hwn yn archwilio egwyddorion ac arferion dylunio profiad defnyddiwr mewn gemau. Bydd y myfyrwyr yn meithrin sgiliau i ddylunio a defnyddio rhyngwynebau defnyddwyr (UI), systemau oedi, integreiddio sain, animeiddiadau mewnol i'r peiriant, ac effeithiau gweledol. Rhoddir pwyslais ar wella ymgysylltiad y chwaraewr a throchi trwy nodweddion gêm greddfol ac ymatebol.
Lefel 5
Crefft Goleuo (10 Credyd)
Nod y modiwl hwn yw galluogi'r myfyrwyr i oleuo, rendro a chyflwyno’u gwaith i safon broffesiynol. Bydd y myfyrwyr yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth bellach o'r broses oleuo ar gyfer canlyniadau amrywiol, a'r broses rendro sy'n caniatáu iddynt gael eu gweld.
Dylunio Cymeriadau (10 Credyd)
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r myfyrwyr i egwyddorion a thechnegau dylunio cymeriadau, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n gwneud cymeriad yn addas ar gyfer gemau. Bydd y myfyrwyr yn edrych ar bwysigrwydd llif ymylol, topoleg, a mapio UV wrth greu cymeriadau wedi'u hoptimeiddio ar gyfer gemau.
Datblygu Gemau (20 Credyd)
Bydd y modiwl hwn yn ymestyn gwybodaeth bresennol y myfyrwyr am ddylunio a datblygu gemau. Gan adeiladu ar y ddwy ddisgyblaeth hyn, bydd y myfyrwyr yn gallu datblygu gemau gwreiddiol sy'n amrywio o ran cymhlethdod. Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i baratoi amlinelliad o brosiect, a sut i gynllunio, creu a phrofi'r prosiectau terfynol i gam datblygu beta o leiaf. Bydd myfyrwyr yn dysgu am bwysigrwydd ymddygiadau NPC (Non-Player Character), a chreu profiad gêm sy'n ymateb i ddulliau chwarae'r chwaraewr.
Prosiect Ymchwil yn gysylltiedig â'r Diwydiant Gemau (20 Credyd)
Nod y modiwl yw rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddefnyddio amrediad o sgiliau ymchwilio priodol i astudio'r diwydiannau creadigol yn gyffredinol a datblygu gemau yn benodol. Trwy greu cynnig a phoster academaidd, bydd y modiwl yn eu paratoi i astudio ymhellach ar Lefel 6, neu i gael gyrfa fel ymchwilydd.
Prosiect Seiliedig ar Fethodoleg (20 Credyd)
Nod y modiwl hwn yw rhoi profiad ymarferol i'r myfyrwyr o gynllunio a gweithredu prosiect gemau wrth ddilyn methodoleg a ddewiswyd ganddynt. Bydd y myfyrwyr yn dysgu am amrywiaeth o ddulliau gweithio cyfredol a bydd disgwyl iddynt wneud dewis gwybodus ar ba fethodoleg a fyddai'n gweddu i brosiect eu grŵp. Bydd gweithio mewn grŵp yn caniatáu i brosiect mwy gael ei gyflawni nag a fyddai'n ymarferol wrth weithio'n unigol. Bydd unigolion yn cyfrannu at ddyluniad cychwynnol y prosiect ac yna'n cyflawni tasgau y cytunwyd arnynt i gwblhau'r cynnyrch. Mae'r modiwl yn pwysleisio pwysigrwydd cael cynllun prosiect cydlynol, adolygu cynnydd yn rheolaidd a gweithio mewn grŵp yn effeithiol.
Datblygu Platfformau Cymysg (20 Credyd)
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno'r myfyrwyr i ddatblygiad rhaglenni ar draws platfformau symudol, realiti rhithwir (VR), a realiti estynedig (AR). Trwy arbrofi ymarferol, bydd y myfyrwyr yn archwilio'r nodweddion, yr heriau, a'r cyfleoedd unigryw sy'n gysylltiedig â phob platfform. Erbyn diwedd y modiwl, byddant yn dylunio a datblygu rhaglen sylfaenol ar gyfer platfform o'u dewis, gan ddefnyddio sgiliau a methodolegau sy'n berthnasol i'r diwydiant. Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i fynd ati'n gywir i ddatblygu cynnwys ar gyfer realaeth gymysg a pha lyfrgelloedd rhaglennu fydd angen iddynt eu defnyddio.
Dylunio Propiau (10 Credyd)
Canolbwyntia'r modiwl hwn ar ddylunio a chreu propiau 3D. Bydd y myfyrwyr yn astudio egwyddorion dylunio amrywiol gan greu asedau gweithredol sy'n weledol apelgar. Rhoddir pwyslais ar integreiddiad piblinellau a dylanwad cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol ar greu propiau ystyrlon y gellir ymgolli ynddynt.
Dylunio a Defnyddio Gwead (10 Credyd)
Bydd y modiwl hwn yn meithrin ymhellach allu'r myfyrwyr i greu gweadau a deunyddiau y gallant eu cymhwyso i fodelau presennol. Bydd y myfyrwyr yn dod i ddeall y prosesau o greu deunyddiau a gweadau PBR o'r dechrau, ac yn defnyddio meddalwedd diwydiant safonol a pherthnasol i gynorthwyo'r broses.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol
Lefel:
4+5
Maes rhaglen:
- Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor
Dwyieithog:
n/aCyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Sefydliad dyfarnu
