Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Technoleg Gwybodaeth a Thechnoleg Greadigol Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Technoleg Gwybodaeth a Thechnoleg Greadigol Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cwrs TGCh sy'n datblygu eich gwybodaeth a'ch galluogi i symud ymlaen i gymhwyster lefel 3? Trwy gwblhau'r cymhwyster Lefel 2 byddwch yn ennill cymhwyster sy'n gyfwerth â 3 TGAU.

  • Oes gennych chi ddiddordeb yn y dechnoleg greadigol ddiweddaraf?
  • Ydych chi'n defnyddio ffôn clyfar neu dabled?
  • Ydych chi eisiau creu cynhyrchion a systemau technoleg, yn hytrach na bod yn ddefnyddiwr yn unig?
  • Hoffech chi greu apiau ffôn, a graffeg anhygoel?

Mae Technoleg Gwybodaeth a Thechnoleg Greadigol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio pwnc sy'n agor drysau i lawer o wahanol ddiwydiannau.

Mae'r unedau'n cynnwys:

  • Datblygu Gwefannau
  • Creu Animeiddiad
  • Rhaglenni Symudol
  • Datblygu Meddalwedd
  • Creu Sain a Fideo

Bydd y cwrs yn cynnwys gweithgareddau sy'n seiliedig ar waith ymarferol, gwaith theori ac asesiadau portffolio. Drwy gydol y cwrs byddwch yn elwa o allu defnyddio cyfleusterau cyfrifiadura rhagorol y coleg i astudio yn eich amser eich hun.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Ymweliadau addysgol
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE/Google Classroom)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Asesir y cwrs hwn drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios gwaith
  • Perfformio ac arsylwi
  • Asesiadau ar-lein

Dilyniant

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Technoleg Gwybodaeth Lefel 3
  • TG a Datblygu Meddalwedd Lefel 3
  • Animeiddio 3D a Datblygu Gemau Lefel 3
  • Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Lefel 3

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • Dolgellau

Dwyieithog:

n/a

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau