Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

BSc (Anrh) Celf 3D a Datblygu Gemau (Atodol)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn-amser: 1 flwyddyn, NEU Rhan-amser: 2 flynedd

  • Cod UCAS:
    6T50
Cofrestrwch
×

BSc (Anrh) Celf 3D a Datblygu Gemau (Atodol)

Cyrsiau Lefel Prifysgol

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Llawn Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n llawn-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Os ydych chi eisoes wedi cwblhau Radd Sylfaen mewn Animeiddio 3D a Datblygu Gemau (neu debyg), mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi symud ymlaen i Lefel 6 ac ennill gradd anrhydedd lawn.

Bydd y cwrs yn adeiladu ar eich sgiliau a'ch gwybodaeth gyda modiwlau i ehangu a mireinio'r sgiliau hyn.

Bydd gwaith unigol a grwp yn eich galluogi i archwilio meysydd sydd o ddiddordeb i chi ac yn datblygu eich gallu i ddysgu'n annibynnol.

Mae Grŵp Llandrillo Menai'n aelod o Raglen Academaidd PlayStation®First sy'n cael ei rhedeg gan Sony Interactive Entertainment Europe (SIEE). Mae'r rhaglen hon yn golygu bod gan staff a myfyrwyr fynediad at adnoddau caledwedd a meddalwedd datblygu proffesiynol.

Lefel 6:

  • Prosiect copa
  • Prosiect Grŵp 1 – Cynllunio a Phrototeipio
  • Prosiect Grŵp 2 – Cwblhau Prosiect
  • 3D DatblygedigCynhyrchu Gemau Datblygedig

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd:

  • Gradd Sylfaen (FdSc) Celf 3D a Datblygu Gemau, neu gymhwyster arall Lefel 5 mewn disgyblaeth berthnasol.

Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.

Gofynion Iaith:

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf.
  • Dylai unrhyw radd, diploma neu dystysgrif gymwys fel a nodir uchod fod wedi cael eu dysgu a'u hasesu yn Gymraeg/Saesneg.
  • Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 4: IELTS 5.5 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.0)
  • Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 5: IELTS 6.0 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.5).

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd rhyngweithiol
  • Tiwtorialau / gweithdai
  • Siaradwyr gwadd
  • Dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Mae'r dysgu yn gyfranogol ac yn anffurfiol, ac yn llawn cyfleoedd i'r unigolyn archwilio eu creadigrwydd.

Mae'n bosibl hefyd y cewch brofiad gwaith yn y maes yn ystod y cwrs.

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'n un o ofynion y rhaglen, a bydd tîm y cwrs yn eu helpu i wneud hynny.

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Bydd cael cyfrifiadur neu liniadur addas sy'n gallu rhedeg meddalwedd graffeg 3D yn helpu'r myfyrwyr i gyflawni eu horiau dysgu annibynnol.
  • Tua £1000
  • Gall tripiau nad ydynt yn orfodol gael eu cynnig yn ystod y rhaglen
  • Trwyddedau datblygu nad ydynt yn orfodol (e.e. Android) a all arddangos eich gwaith yn allanol. Tua $25, tua £66 yw cost tanysgrifiad i Maxon One
  • Lle bo modd, mae'r holl feddalwedd a ddefnyddir ar y rhaglen am ddim, ond mewn rhai achosion fe all myfyrwyr fod eisiau prynu trwyddedau personol i ddefnyddio meddalwedd.

Amserlen

Llawn Amser

  • Lefel 6 - dydd Mercher a dydd Gwener, 9am – 5pm

Rhan-amser

  • Blwyddyn 1 – dydd Mercher, 9am – 5pm
  • Blwyddyn 2 – dydd Gwener, 9am – 5pm

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Joe Owen (Rhaglen Arweinydd): owen10j@gllm.ac.uk

David Clarke (Gweinyddiaeth): clarke1d@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Asesir y cwrs trwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Adroddiadau
  • Portffolios
  • Tasgau Celf
  • Tasgau Datblygu
  • Arddangosiadau
  • Cyflwyniadau

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai, neu gyflogaeth.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol, 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Modiwlau Lefel 6

Prosiect copa (40 credyd)
Nod y modiwl hwn yw creu platfform i'r myfyrwyr archwilio a mireinio sgìl benodol yn y maes datblygu gemau. Disgwylir i'r myfyrwyr nodi, archwilio, a chwblhau prosiect sy'n gysylltiedig â datblygu gemau ac a fydd yn cefnogi eu dyfodol.

Prosiect Grŵp 1: Cynllunio a Phrototeipio (20 credyd)
Mae'r modiwl hwn yn caniatáu i’r myfyrwyr weithio mewn grwpiau o 3-5 fel arfer i archwilio rhan neu rannau dewisol o'r diwydiant cyfrifiadura mewn rhagor o fanylder drwy gyfrwng prosiect a fydd yn rhoi cyfle iddynt ddefnyddio sgiliau a ddysgwyd yn flaenorol a meithrin sgiliau gweithio mewn grŵp. Bydd y myfyrwyr yn dyfeisio ac yn gweithredu'n unol ag amserlenni (y maent yn eu trefnu eu hunain ar y cyd â goruchwyliwr y prosiect), i reoli eu dysgu eu hunain ac i fynd ati'n ymarferol i ymateb i friff prosiect.

Project Grŵp 2: Cwblhau Prosiect (20 Credyd)
Bydd y myfyrwyr yn dilyn yr egwyddorion a amlinellwyd ac a ddysgwyd yn ystod Prosiect Grŵp 1 – Cynllunio a Phrototeipio, ac yn ymgymryd â'r dasg a gynlluniwyd yn ystod semester 1. Bydd angen i'r myfyrwyr gynllunio amserlenni newydd gan gadw at y fethodoleg a ddewiswyd, a chan ddilyn yr amserlenni newydd tan y bydd y prosiect wedi cael ei gwblhau.

3D Datblygedig (20 Credyd)
Pwysleisia’r modiwl hwn rôl cyd-destun mewn dylunio 3D, gan ddysgu'r myfyrwyr i ddatblygu asedau sy'n cyd-fynd â'r naratif a'r bwriad gweledol. Trwy gyfuniad o ymchwil, datblygu cyd-destunol, a mireinio creadigol, bydd y myfyrwyr yn creu modelau manwl ac effeithiol.

Cynhyrchu Gemau Datblygedig (20 Credyd)
Bwriad y modiwl hwn yw galluogi'r myfyrwyr i adeiladu ar y sgiliau datblygu gemau y maent eisoes wedi'u meithrin. Bydd y modiwl yn galluogi'r myfyrwyr i ganolbwyntio ar agweddau penodol ar ddatblygu gemau, a chreu darnau o waith y byddant yn falch o'u dangos yn gyhoeddus. Bydd y modiwl yn sicrhau bod prosiectau'n cael eu cwblhau i safon orffenedig, ac yn addas i'w defnyddio gan y cyhoedd.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Myfyriwr yn chwarae gemau cyfrifiadurol

Sefydliad dyfarnu

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date