Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Technoleg Gwybodaeth Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Llangefni
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes Technoleg Gwybodaeth? A fyddech chi’n elwa o gwrs TG amrywiol a fyddai'n eich paratoi ar gyfer ystod eang o rolau TG? Mae'r rhaglen hon yn rhoi gwybodaeth a sgiliau i chi o nifer o feysydd sy'n greiddiol i Dechnoleg Gwybodaeth, a chyfle i ennill cymhwyster Lefel 3 cydnabyddedig. Mae Diploma Estynedig Lefel 3 yn cyfateb i 3 cymhwyster Safon Uwch.

Mae Technoleg Gwybodaeth yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio pwnc sy'n agor drysau i lawer o wahanol ddiwydiannau.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol os nad ydych yn siŵr ym mha faes TG yr hoffech chi weithio, neu os ydych am ddysgu cymysgedd o sgiliau TG. Byddwch yn astudio amrywiaeth o feysydd arbenigol gan gynnwys dylunio a graffeg gwefannau, datblygu gemau cyfrifiadurol, datblygu apiau, rhaglennu a seiberddiogelwch.

Trwy gydol y cwrs, byddwch yn elwa o gyfleusterau rhagorol, gan gynnwys ystafelloedd amlgyfrwng a chaledwedd â chyfarpar da, yn ogystal â chyfleusterau TG pwrpasol i astudio yn eich amser eich hun.

Bydd cyfleoedd hefyd i ehangu’r hyn a ddysgwch drwy ymweliadau gan siaradwyr gwadd, gweithgareddau grŵp a theithiau. Mae myfyrwyr ar y cwrs TG hefyd yn cymryd rhan mewn prosiectau megis Code Club, ac wedi bod yn ymwneud â gwaith i Barc Cenedlaethol Eryri yn creu codau QR. Byddwch yn ennill profiad a gwybodaeth mewn defnydd ymarferol o dechnoleg gwybodaeth, yn enwedig systemau rheoli cronfa ddata, taenlenni, meddalwedd cyflwyno, cyfryngau cymdeithasol a datblygu gwefannau.

Mae’r cwrs wedi’i ddiweddaru’n ddiweddar ac wedi’i ddatblygu i alluogi myfyrwyr i feithrin y sgiliau technegol a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant cyfrifiaduron. Pe dymunai'r myfyriwr gallai symud ymlaen i gyrsiau gradd addysg uwch mewn technoleg gwybodaeth a meysydd cysylltiedig, megis datrysiadau technoleg ddigidol, TG rheolaeth ar gyfer busnes, rhwydweithiau cyfrifiadurol a diogelwch neu gyfrifiadura creadigol.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af)
  • Gradd Teilyngdod mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Gweithdai
  • Gwaith grŵp
  • Siaradwyr gwadd
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE/Google Classroom)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Asesir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Aseiniadau ysgrifenedig
  • Arsylwadau
  • Profion yn y dosbarth
  • Asesiadau llafar
  • Prosiectau

Dilyniant

Oherwydd bod y cwrs yn cynnig ystod eang o sgiliau TG bydd gennych amrywiaeth o ddewisiadau o ran addysg a chyflogaeth. Gallech fynd ymlaen i gwrs Addysg Uwch, megis:

  • Gradd Sylfaen (FdSc) Animeiddio 3D a Datblygu Gemau
  • Gradd Sylfaen (FdSc) Cyfrifiadura (Rhwydweithio)
  • Gradd Sylfaen (FdSc) Cyfrifiadura (Datblygu Meddalwedd)

Gallech hefyd gwblhau prentisiaeth mewn nifer o gyd-destunau cyfrifiadura.

Os byddwch yn mynd yn syth i waith, gallwch fanteisio ar y meysydd TG yr ydych wedi eu hastudio. Gallwch hefyd barhau i ddatblygu drwy ddilyn cyrsiau proffesiynol Microsoft neu Cisco tra ydych yn gweithio.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • Dolgellau

Dwyieithog:

n/a

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau