Gradd Sylfaen (FdSc) Cyfrifiadura (Datblygu Meddalwedd)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser, Llawn Amser
- Hyd:
Llawn-amser: 2 flynedd NEU Rhan-amser: 4 blynedd. Hefyd ar gael ar sail fodiwlaidd.
Dydd Llun a dydd Iau, 9am-5pm
- Cod UCAS:G400
Gradd Sylfaen (FdSc) Cyfrifiadura (Datblygu Meddalwedd)Graddau (Addysg Uwch)
Rhan Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Llawn Amser
Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.
Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.
Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi gael gyrfa heriol ym maes cyfrifiadura?
Mae cyfrifiaduron a'r rhyngrwyd yn rhan annatod o'n bywyd pob dydd ac o fyd busnes. Mae galw cynyddol am raglenwyr a datblygwyr medrus i greu'r rhaglenni meddalwedd yr ydym oll yn dibynnu arnynt. Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi i fod yn un o'r arbenigwyr hynny, a bydd yn fodd i chi ymgymryd â nifer o swyddi yn y sector amrywiol hwn.
Os ydych wedi dilyn cwrs Lefel 3 (ddim o anghenraid ym maes Cyfrifiadura) ac os hoffech fynd ymlaen i gael gyrfa mewn maes fel rhaglennu, datblygu'r we a datblygu meddalwedd, mae'r cwrs hwn yn addas i chi.
Ar y cwrs hwn, cewch feithrin dealltwriaeth gadarn o amrywiaeth eang o sgiliau cyfrifiadurol, fel rhaglennu, graffeg, cronfeydd data, datblygu gwefannau, technolegau symudol a rheoli prosiectau.
Yn ogystal â'r sgiliau cyfrifiadurol arbenigol hyn, cewch hefyd ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol, fel gweithio mewn tîm, rheoli'ch hun, ymwybyddiaeth o fyd busnes a datrys problemau, sy'n anhepgor yn yr oes brysur sydd ohoni heddiw.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn elwa ar amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf, y dechnoleg ddiweddaraf, cyfleusterau cyfrifiadurol mynediad agored a chefnogaeth wych gan diwtoriaid.
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
- Systemau Cyfrifiadurol
- Creu a Rheoli Gwefannau Hygyrch
- Modelu Data
- Dylunio a Rheoli Cronfeydd Data
- Dylunio Gwefannau Hygyrch
- Cyflogaeth yn y Diwydiant Cyfrifiadura
- Cyflwyniad i Raglennu
- Hanfodion Systemau Gweithredu
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
- Prosiect Ymchwil yn gysylltiedig â'r Diwydiant Cyfrifiadura
- Seiberddiogelwch a Thechnolegau'r Dyfodol
- Datblygu Technoleg Symudol
- Prosiect Cyflogadwyedd
- Cyflwyniad i Ganolwedd
- Rhaglennu Gwrthrych-gyfeiriadol
- Rheoli Prosiectau i rai sy'n gweithio ym maes Cyfrifiaduron
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.
Gofynion mynediad
Gofynion academaidd:
- o leiaf 72 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, gan amlaf yn cynnwys gradd llwyddo mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; neu NVQ Lefel 3; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.
- Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol
Caiff y rhai nad oes ganddynt gymwysterau o'r fath eu hystyried ar sail unigol a gall amrediad eang o brofiadau blaenorol fod yn berthnasol. Fodd bynnag, ym mhob achos, bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi ymrwymo i ddysgu am faes cyfrifiadura a bod ganddynt ymwybyddiaeth realistig o'r maes.
Gofynion ieithyddol:
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
- Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Byddwch yn dysgu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd rhyngweithiol
- Gweithdai ymarferol
- Trafodaethau / gweithgareddau grŵp
- Siaradwyr Gwadd
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
Byddwch yn dysgu mewn modd cyfranogol ac anffurfiol, gan gael digon o gyfle i archwilio ar eich liwt eich hun a bod yn greadigol. Mae'n bosibl hefyd y cewch brofiad gwaith yn y maes yn ystod y cwrs.
Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.
Amserlen
- Llawn amser: 2 flynedd, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
- Rhan-amser: 4 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Cyswllt:
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
Inge Powell (Rhaglen Arweinydd): powell1i@gllm.ac.uk
David Clarke (Gweinyddiaeth): clarke1d@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Aseiniadau ymarferol ac aseiniadau wedi'u seilio ar theori
- Asesiadau i'w gwneud mewn amser penodol
- Adroddiadau
- Cyflwyniadau llafar
- Gweithio ar brosiect
- Portffolios
- Asesiad yn y gweithle
- Aseiniadau grŵp / tîm
- Llyfrau log a gwaith adfyfyriol
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
Yn y gorffennol, aeth rhai o'n graddedigion ym maes Cyfrifiadura ymlaen i weithio mewn amrywiaeth eang o sefydliadau. Sefydlodd eraill eu busnesau eu hunain, yn arbennig ym maes datblygu rhaglenni a datblygu'r we.
Gallwch hefyd ddewis dal ati i astudio er mwyn ennill gradd BSc Anrhydedd. Cewch wneud hynny'n llawn amser neu'n rhan-amser er mwyn cyfuno gwaith ac astudio.
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Mae'r cwrs hwn yn cyfuno sgiliau cyfrifiadura cyffredinol â modiwlau arbenigol sy'n canolbwyntio ar raglennu / datblygu meddalwedd. Am bob 10 credyd, dylai'r myfyrwyr gwblhau tua 100 o oriau dysgu tybiannol. Bydd tua 30% o hyn yn gyswllt dysgu uniongyrchol, a 70% yn ddysgu annibynnol. Mae'r cyfuniad hwn o fodiwlau'n arwain at Radd Sylfaen (FdSc) mewn Cyfrifiadura (Datblygu Meddalwedd). Mae cwrs Gradd Sylfaen arall ar gael sy'n arbenigo mewn Rhwydweithio.
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Systemau Cyfrifiadurol (10 credyd, gorfodol):
Mae systemau cyfrifiadurol modern yn dod ar sawl ffurf ac yn cael eu defnyddio ym mhob amgylchedd; yn y gwaith, yn y cartref ac i hamddena. Bydd y modiwl hwn yn rhoi i chi ddealltwriaeth angenrheidiol o'r holl gydrannau caledwedd a meddalwedd sy'n gwneud i system gyfrifiadurol weithio. (Portffolio 60% / Asesiad Cyfyngiad Amser 40%)
Creu a Rheoli Gwefannau Hygyrch (20 credyd, gorfodol):
Bydd y modiwl hwn yn galluogi dysgwyr i ddefnyddio iaith dagio addas (e.e. HTML5) a dalennau arddull (e.e. CSS3) i greu gwefan hygyrch sy'n cydymffurfio â safonau, yn unol â brîff penodol. (Gwaith ymarferol 60% / Adroddiad 20% / Cyflwyniad 20%)
Modelu Data (10 credyd, gorfodol):
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i'r dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio i ddylunio systemau wedi'i hawtomeiddio. Bydd yn galluogi'r dysgwyr i feithrin ymwybyddiaeth o'r cysyniadau a'r derminoleg sy'n rhan o ddadansoddi a dylunio. (Adroddiad 40% / Gwaith ymarferol 60%)
Dylunio a Rheoli Cronfeydd Data (20 credyd, gorfodol):
Bydd y modiwl hwn yn rhoi i ddysgwyr y sgiliau sy'n angenrheidiol i ddylunio, creu a chynnal cronfa ddata berthynol. Yna, bydd y sgiliau y bydd y dysgwyr yn eu meithrin yn eu helpu i ymuno ag amgylchedd sy'n cynnal cronfa ddata fasnachol ac i weinyddu'r system yn unol â gofynion y diwydiant. (Adroddiad 20% / Gwaith ymarferol 40% / Asesiad Cyfyngiad Amser 40%)
Dylunio Gwefannau Hygyrch (10 credyd, gorfodol):
Yn y modiwl hwn, ceir cyflwyniad i sail resymegol dylunio gwefannau y gall llawer o ddefnyddwyr eu defnyddio ar gymaint o lwyfannau â phosibl. (Gwaith ymarferol 60% / Cyflwyniad 40%)
Cyflogaeth yn y Diwydiant Cyfrifiadura (20 credyd, craidd):
Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth dysgwyr am y sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant cyfrifiadura. Bydd yn datblygu eu gwybodaeth am wahanol fodelau gweithio ynghyd â meithrin eu sgiliau o ran dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth yn y sector. (Adroddiad 80% / Myfyrdod 20%)
Cyflwyniad i Raglennu (20 credyd, gorfodol):
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno dysgwyr i'r cysyniadau sylfaenol a ddefnyddir wrth ddatblygu rhaglenni cyfrifiadurol gan ddefnyddio iaith ddatblygu briodol e.e. Java, Python neu Visual Basic. Bydd dysgwyr yn dod i ddeall y broses o greu rhaglenni o archwilio'r broblem gychwynnol i ddylunio a datblygu datrysiad terfynol. (Gwaith ymarferol 100%)
Hanfodion Systemau Gweithredu (10 credyd, gorfodol):
Mae cael staff hyfforddedig sydd â gwybodaeth o systemau cyfrifiadurol yn hanfodol i fusnesau ledled y byd. Fodd bynnag, er mwyn i'r caledwedd weithio mae'n rhaid wrth ddarn cymhleth o feddalwedd sef y system weithredu. (Adroddiad 40% / Gwaith ymarferol 60%)
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Prosiect Ymchwil yn gysylltiedig â'r Diwydiant Cyfrifiadura (20 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i ddefnyddio amrediad o sgiliau ymchwilio priodol wrth astudio Cyfrifiadura. Drwy gyfrwng traethawd estynedig micro, bydd y modiwl yn eu paratoi i astudio ymhellach ar Lefel 6, neu i gael gyrfa fel ymchwilydd. (Adroddiad 90% / Cyflwyniad 10%)
Seiberddiogelwch a Thechnolegau'r Dyfodol (20 credyd, gorfodol):
Bydd y modiwl hwn yn galluogi'r myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth o sut mae angen cymhwyso ystyriaethau'n ymwneud â diogelwch a moeseg i'r ffordd y caiff technolegau cyfrifiadurol eu cyflwyno a'u defnyddio. Bydd yn trafod gofynion cyfreithiol ac yn edrych ar safonau cyfrifiadura a diogelwch. (Adroddiad 70% / Cyflwyniad 30%)
Datblygu Technoleg Symudol (20 credyd, craidd):
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno dysgwyr i agweddau amrywiol ar dechnoleg symudol. Bydd y dysgwyr yn dod i ddeall y broses o ddatblygu rhaglenni ar gyfer dyfeisiau symudol gan ddefnyddio offer datblygu meddalwedd addas e.e. Android Studio, App Inventor, Xamarin, Phone Gap, Corona SDK. (Gwaith ymarferol 100%)
Prosiect Cyflogadwyedd (20 credyd, gorfodol):
Yn y modiwl hwn mae'r dysgwyr yn cael cyfle i gymhwyso'r sgiliau a'r wybodaeth a ddysgwyd ganddynt ar Lefel 4 i leoliad gwaith neu brosiect (neu efelychiad) addas. (Adroddiad 10% / Gwaith ymarferol 70% / Myfyrdod 20%)
Cyflwyniad i Ganolwedd (10 credyd, gorfodol):
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i'r cysyniadau sylfaenol a ddefnyddir wrth ddatblygu canolwedd. Bydd dysgwyr yn dod i ddeall y broses o greu rhaglenni o archwilio'r broblem gychwynnol i ddylunio a datblygu datrysiad terfynol a fydd yn dangos sut mae ffurflen gwefan yn rhyngweithio â'r gronfa ddata a gedwir ar ochr y gweinydd. Bydd hyn yn golygu defnyddio'r iaith sgriptio rhaglenni PHP er mwyn cysylltu rhyngwyneb y defnyddiwr ag ochr y gweinydd. (Adroddiad 30% / Gwaith ymarferol 70%)
Rhaglennu Gwrthrych-gyfeiriadol (20 credyd, craidd):
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno dysgwyr i'r dull gwrthrych-gyfeiriadol o greu rhaglenni cyfrifiadurol. Bydd y dysgwyr yn dod i ddeall y broses o greu ystod o raglenni gwrthrych-gyfeiriadol gan ddefnyddio iaith raglennu addas. (Gwaith ymarferol 100%)
Rheoli Prosiectau i rai sy'n gweithio ym maes Cyfrifiaduron (10 credyd, gorfodol):
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno dysgwyr i'r prif gysyniadau sy'n gysylltiedig â rheoli prosiectau. Bydd y dysgwyr yn astudio'r prif fethodolegau a ddefnyddir i reoli prosiectau ym maes busnes heddiw. Drwy'r modiwl hwn bydd y dysgwyr yn dod i ddeall gofynion ymarferol sy'n gysylltiedig â rheoli prosiectau drwy edrych ar y prif gamau mae prosiectau'n mynd trwyddynt fel arfer. (Adroddiad 40% / Astudiaeth Achos 60%)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)
Lefel:
4+5
Maes rhaglen:
- Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
- International
Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor
Dwyieithog:
n/aCyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau