BSc (Anrh) Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol - Prentisiaeth Gradd
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 blynedd
BSc (Anrh) Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol - Prentisiaeth GraddCyrsiau Lefel Prifysgol
Rhan Amser
Gwneir ceisiadau am y cwrs hwn drwy wefan Prifysgol Bangor.
Disgrifiad o'r Cwrs
Sylwch: Nid yw'r cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol.
Datblygwch eich gyrfa ym maes peirianneg meddalwedd gyda Choleg Llandrillo a Phrifysgol Bangor
Cymerwch y cam nesaf yn eich gyrfa ym maes TGCh neu feddalwedd gyda phrentisiaeth gradd sy'n eich galluogi i ennill BSc llawn wrth aros mewn cyflogaeth amser llawn. Mae'r rhaglen hon, wedi'i chyflwyno gan Goleg Llandrillo mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, yn cynnig llwybr ymarferol a hyblyg i addysg uwch.
I wneud cais: Cysylltwch ag Andrew Scott ar: E-bost: a.scott@gllm.ac.uk neu Ffôn: 01492 546 666 est1440
Mae'r radd peirianneg feddalwedd gymhwysol hon, yn meithrin sgiliau technegol a pherthnasol hanfodol i'r diwydiant. Mae wedi'i chreu ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n barod i ddatblygu eu harbenigedd
Cost y Cwrs
Mae ein prentisiaethau gradd wedi'u hariannu'n llawn; gall prentisiaid ennill eu Gradd wrth aros yn y gwaith, a bydd y llywodraeth yn talu'r ffioedd.
Byddwch yn ennill profiad mewn:
- Rhaglennu a Datblygu Meddalwedd
- Technolegau'r We (HTML5/CSS)
- Dyluniad profiad defnyddiwr (UX)
- Datblygu cymwysiadau ar gyfer ffonau symudol
- Egwyddorion a methodoleg peirianneg meddalwedd
- Hanfodion seiberddiogelwch
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn:
- Cwblhau prosiect estynedig yn seiliedig ar waith,
- Cymhwyso'ch dysgu'n uniongyrchol o fewn eich sefydliad.
Byddwch hefyd yn archwilio:
- technolegau newydd a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg
- Ystyriaethau moesegol
- Deall sut i lunio tirwedd ddigidol heddiw.
Meini Prawf Mynediad
I fod yn gymwys, rhaid i chi:
- Bod yn byw ac yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd
- Yn cael eich cyflogi mewn rôl berthnasol am o leiaf 16 awr
- Cael cefnogaeth eich cyflogwr
- Cymhwyster Galwedigaethol Lefel 3, neu 3 Lefel A gradd C neu uwch neu brofiad priodol
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch
- Ystyrir pob ymgeisydd yn unigol a bydd disgwyl iddynt ddod i gyflweliad ffurfiol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Gofynion mynediad
I fod yn gymwys, rhaid i chi:
- Bod yn byw ac yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd
- Yn cael eich cyflogi mewn rôl berthnasol am o leiaf 16 awr
- Cael cefnogaeth eich cyflogwr
- Cymhwyster Galwedigaethol Lefel 3, neu 3 Lefel A gradd C neu uwch neu brofiad priodol
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch
- Ystyrir pob ymgeisydd yn unigol a bydd disgwyl iddynt ddod i gyflweliad ffurfiol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Ble byddwch chi'n astudio eich Prentisiaeth Gradd ochr yn ochr â gweithio:
- Blwyddyn 1: Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.
- Blwyddyn 2: Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos
- Blwyddyn 3: Prifysgol Bangor
Pam dewis Prentisiaeth Gradd yng Ngholeg Llandrillo?
- Ennill gradd prifysgol wrth barhau i weithio
- Dysgu gan ddarlithwyr arbenigol a gweithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant
- Dim ffioedd dysgu – wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer dysgwyr cymwys yng Nghymru
- Cymhwyso gwybodaeth a sgiliau newydd yn uniongyrchol i'ch swydd
Hyd y Cwrs
- Mae Prentisiaethau Gradd yn cyfuno gwaith llawn amser ag astudio rhan-amser.
- Byddwch yn y gwaith am bedwar diwrnod yr wythnos.
- Byddwch yn cwblhau 1 diwrnod llawn o astudio wyneb yn wyneb yn y coleg ac 1 noson o astudio o bell.
- Cwblheir pob gradd dros 3 blynedd neu 6 blynedd yn rhan-amser.
Asesiad
Cyflwynir yr addysgu trwy ddarlithoedd rhyngweithiol, tiwtorialau a gweithdai. Mae'r dysgu yn ymarferol ac yn ddamcaniaethol. Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, megis aseiniadau ymarferol a damcaniaethol, adroddiadau, cyflwyniadau llafar, gwaith prosiect, portffolios ac aseiniadau mewn tîm, ac asesu yn y gwaith drwy brosiectau a thrwy adeiladu portffolio.
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn llwyddiannus, bydd gennych sail gref mewn egwyddorion cyfrifiadura craidd, arferion datblygu meddalwedd, a thechnegau peirianneg modern. Mae'r sgiliau a ddatblygir drwy gydol y rhaglen yn agor ystod eang o gyfleoedd gyrfa ar draws y sector ddigidol a'r sector dechnoleg. Mae'r graddedigion wedi'u paratoi'n dda i symud ymlaen i rolau fel datblygu meddalwedd, peiriannydd systemau, datblygu apiau gwe neu apiau dyfeisiadau symudol, a swyddi arbenigol eraill o fewn y diwydiant cyfrifiadura ehangach.
Gyda phrofiad ymarferol ochr yn ochr â chyflawniad academaidd, byddwch mewn sefyllfa i symud ymlaen yn eich rôl bresennol neu i archwilio cyfleoedd newydd mewn maes sy'n esblygu ac sydd mewn galw mawr.
Ffeithiau pwysig
- Fel arfer, bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag astudiaeth academaidd am un diwrnod ac un noson yr wythnos dros dair blynedd.
- Yn ystod y cyfnod hwn, mae myfyrwyr yn parhau i weithio am bedwar diwrnod yr wythnos gyda'u cyflogwr presennol, gan ennill profiad ymarferol yn y gwaith.
- Bydd astudio yn ystod y dydd a gyda'r nos yng Ngholeg Llandrillo, ac yna ym Mhrifysgol Bangor am y flwyddyn olaf.
- Mae'r ddwy flynedd gyntaf o astudio yn digwydd yng Ngholeg Llandrillo.
- Yn y flwyddyn olaf, mae pob myfyriwr yn cwblhau eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor.
- Byddwch yn graddio gyda gradd BSc lawn o Brifysgol Bangor.
Gwybodaeth am fodiwlau'r cwrs Llandrillo-yn-Rhos
Blwyddyn 1
Dylunio a Rheoli Cronfeydd Data (20 credyd)
Systemau Cyfrifiadurol (10 credyd)
Cyflwyniad i Raglennu (20 credyd)
Modelu Data (10 credyd)
Dylunio Gwefannau Hygyrch (10 credyd)
Creu a Rheoli Gwefannau Hygyrch (20 credyd)
Sgiliau ymchwil ac astudio (10 credyd)
Dysgu seiliedig ar gyflogadwyedd 1 (20 credyd)
Blwyddyn 2
Datblygu Technoleg i Ddyfeisiau Symudol (20 credyd)
Rhaglennu sy'n Canolbwyntio ar Wrthrychau (20 credyd)
Cyflwyniad i Ganolwedd (10 credyd)
Rheoli Prosiectau ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol ym maes Cyfrifiadura (10 credyd)
Seiberddiogelwch a Thechnoleg y Dyfodol (20 credyd)
Dulliau ymchwil a sgiliau astudio (20 credyd)
Dysgu yn seiliedig ar gyflogadwyedd 2 (20 credyd)
Blwyddyn 3
Astudiaeth Prototeipio Meddalwedd (20 credyd)
Datblygu Meddalwedd Cynhyrchu – Prosiect Ymchwil (20 credyd)
Peirianneg Meddalwedd (20 credyd)
Diogelwch Cyfrifiadurol a Diogelwch Rhwydwaith (20 credyd)
Rhaglenni Busnes a Mentergarwch (20 credyd)
Profiad Defnyddiwr (UX) a HCI (20 credyd)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol
Lefel:
4-6
Maes rhaglen:
- Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Sefydliad dyfarnu