Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Chwaraeon Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llangefni
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi ddysgu am y diwydiannau chwaraeon a hamdden, wrth ddatblygu eich sgiliau ffitrwydd a chwaraeon?

Mae'r cwrs hwn yn rhoi cipolwg i chi ar y diwydiant, ynghyd â chyflwyno pynciau gwyddoniaeth chwaraeon, hyfforddiant ffitrwydd a rhaglennu ymarfer corff. Mae hefyd yn cynnwys digon o weithgareddau ymarferol a hyfforddi. Byddwch yn astudio pynciau fel: Profi a Hyfforddiant Ffitrwydd, Cymorth Cyntaf, Maeth ac Anatomeg a Ffisioleg.

Bydd eich rhaglen astudio lawn yn cynnwys y cymhwyster Chwaraeon, ochr yn ochr â chymwysterau ychwanegol a fydd yn cefnogi eich datblygiad sgiliau ehangach ac yn eich cefnogi i symud ymlaen.

Bydd eich rhaglen wedi'i phersonoli (datblygu proffil gradd) yn cynnwys cyfuniad o ailddechrau TGAU, Llythrennedd, Rhifedd, Cyflogadwyedd a sgiliau Digidol.

I gael gwybodaeth am ein Academïau Chwaraeon cliciwch yma Academïau Campfa a Chwaraeon

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 4 TGAU gradd D neu uwch. Saesneg neu Gymraeg Iaith 1af a Mathemateg / Rhifedd ar radd D neu uwch.

NEU

  • Os ydych chi'n symud ymlaen o Lefel 1 dylai fod gennych gymhwyster lefel 1 perthnasol (Lefel 1 Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yn ddelfrydol) ynghyd ag o leiaf Rhif Sgiliau Hanfodol Mynediad 3 a Chyfathrebu Lefel 1 (neu TGAU cyfwerth)

Os nad ydych yn siŵr a oes gennych y proffil gofynion mynediad, neu a oes gennych gymwysterau amgen sy'n gyfwerth yn eich barn chi, cysylltwch â gwasanaethau dysgwyr trwy'r swyddogaeth sgwrsio neu'n uniongyrchol. Bydd gwasanaethau dysgwyr yn gallu trafod eich proffil a'ch cynghori ynghylch opsiynau cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gweithgareddau ymarferol ac awyr agored
  • Trafodaeth ystafell ddosbarth
  • Darlithoedd ffurfiol
  • Siaradwyr gwadd
  • Ymchwil unigol
  • Gwaith grŵp
  • Cefnogaeth ac adnoddau ar-lein

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Arholiadau
  • Portffolios gwaith
  • Perfformio ac arsylwi

Dilyniant

Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych amryw o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Gwasanaethau Amddiffynnol mewn Lifrai Lefel 3
  • Chwaraeon (Addysg Awyr Agored) Lefel 3
  • Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) Lefel 3
  • Chwaraeon (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff) Lefel 3
  • Chwaraeon Lefel 3

Os byddwch am fynd yn syth i waith, bydd gennych nifer o ddewisiadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Gallech fynd i'r diwydiant hamdden, y diwydiant iechyd a ffitrwydd, y lluoedd arfog neu'r gwasanaethau argyfwng. Gallech hefyd geisio dilyn gyrfa fel athletwr proffesiynol neu rannol broffesiynol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • Llangefni

Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Myfyriwr yn chwarae rygbi