Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    2 flynedd

Gwnewch gais
×

Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa yn y diwydiant addysg awyr agored neu'r gwasanaethau cyhoeddus, milwrol neu sifil?

Ydych chi'n chwilio am lwybr ymarferol i Addysg Uwch?

Mae'r cwrs hwn yn rhoi'r hyn sy'n cyfateb i chi hyd at dair Lefel A. Byddwch hefyd yn cwblhau profiad gwaith, ac yn cael cyfle i gyflawni amrywiaeth o gymwysterau personol a gwobrau corff llywodraethu cenedlaethol. Bydd eich rhaglen astudio lawn yn cynnwys y cymhwyster Chwaraeon Awyr Agored, ochr yn ochr â chymwysterau ychwanegol a fydd yn cefnogi eich datblygiad sgiliau ehangach ac yn eich cefnogi i symud ymlaen. Bydd eich rhaglen wedi'i phersonoli (datblygu proffil gradd) yn cynnwys cyfuniad o'r Fagloriaeth Gymreig (sy'n eich galluogi i ennill pwyntiau UCAS ychwanegol), Llythrennedd, Rhifedd, Cyflogadwyedd a sgiliau Digidol.

I gael gwybodaeth am ein Academïau Chwaraeon cliciwch yma Academïau Campfa a Chwaraeon

Gofynion mynediad

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon bydd angen un o'r canlynol arnoch:

  • 5 TGAU ar radd C neu'n uwch. Rhaid i hyn gynnwys Saesneg neu Gymraeg 1af Iaith. Rhaid bod gennych hefyd Fathemateg / Rhifedd ar radd D neu'n uwch.

NEU

  • Diploma Chwaraeon Lefel 2 a TGAU Saesneg / Cymraeg Iaith 1af a Mathemateg ar radd D neu uwch (neu gyfwerth - h.y. Comms a Rhif ESW ar Lefel 2)

Os nad ydych yn siŵr a oes gennych y proffil gofynion mynediad, neu a oes gennych gymwysterau amgen sy'n gyfwerth yn eich barn chi, cysylltwch â gwasanaethau dysgwyr trwy'r swyddogaeth sgwrsio neu'n uniongyrchol. Bydd gwasanaethau dysgwyr yn gallu trafod eich proffil a'ch cynghori ynghylch opsiynau cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gweithgareddau ymarferol ac awyr agored
  • Trafodaeth ystafell ddosbarth
  • Darlithoedd ffurfiol
  • Siaradwyr gwadd
  • Ymchwil unigol
  • Gwaith grŵp
  • Prosiectau
  • Cefnogaeth ac adnoddau ar-lein

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios gwaith
  • Perfformio ac arsylwi

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, bydd gennych amryw o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Gradd Sylfaen (FdSc) Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym maes Chwaraeon)
  • Gradd Sylfaen (FdSc) Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Hamdden Awyr Agored)

Gellwch hefyd wneud cais i sefydliadau eraill i astudio am Raddau, Graddau Sylfaen neu HNDs mewn pynciau Awyr Agored, Gwyddor Chwaraeon, Datblygu Chwaraeon, Daearyddiaeth, Nyrsio, Ymarfer Dysgu, Busnes a Chyfrifiadura, i enwi ond ychydig.

Gallech hefyd fynd ymlaen i gyflogaeth, un ai'n uniongyrchol neu ar ôl astudiaethau pellach. Mae cyn-fyfyrwyr wedi sicrhau gwaith mewn canolfannau awyr agored a chanolfannau hamdden a chwaraeon fel hyfforddwyr, goruchwylwyr a rheolwyr. Mae eraill wedi cael eu derbyn i'r Heddlu, y Fyddin a'r Llynges Frenhinol.

Gwybodaeth campws Llangefni

  • Ystafell ddosbarth awyr agored y cwrs yw Parc Cenedlaethol godidog Eryri a'r cyffiniau.
  • Mae gennym yr holl adnoddau angenrheidiol (beiciau, caiacau, siwtiau dŵr, offer gwersylla ac ati) i'n galluogi i gynnig profiadau cynhwysfawr, yn cynnwys sgiliau cynnal a chadw cit, ar y cwrs.
  • Mae'r cwrs hwn yn cynnwys cymysgedd o waith theori a gwersi ymarferol a gyflwynir gan ein tîm o hyfforddwyr medrus sy'n gwybod llawer am Addysg Awyr Agored, yng nghyd-destun sifiliaid a'r fyddin.
  • Ar y cwrs, defnyddir amrywiaeth o weithgareddau Awyr Agored, fel Mynydda, Canŵio mewn Cwch Agored, Dringo Creigiau, Arforgampau, a llawer mwy, i ddysgu sgiliau ymarferol o safon.
  • Yn ystod y ddwy flynedd, cynhelir hirdeithiau yn lleol a ledled gwledydd Prydain, yn amrywio o Ardal y Llynnoedd i Barc Cenedlaethol Cairngorm.
  • Mae lluniau a gwybodaeth i'w gweld ar ein tudalen Instagram (gllm_awyragored_outdoor) ac ar Facebook (Sport Outdoor: Coleg Menai)

Gwybodaeth campws Dolgellau

Yn Nolgellau, mae digonedd o lefydd i’r myfyrwyr ymgymryd â'u hastudiaethau ymarferol a’u gweithgareddau awyr agored! Mae llawer o nodweddion naturiol Parc Cenedlaethol Eryri o fewn cylch o ddeng milltir i'r coleg, felly gall y myfyrwyr gerdded ar Gader Idris, caiacio yn aber afon Mawddach, beicio mynydd drwy Goed y Brenin neu fynd am dro ar lefel is ar hyd lwybr Foel Isbri.

Gwna hyn Ddolgellau'n lle unigryw, arbennig a chyffrous i astudio at gymhwyster Lefel 3 mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored. Os oes gennych ddiddordeb mewn chwaraeon, fel pêl-droed, pêl-rwyd a rygbi, neu mewn Gweithgareddau Awyr Agored, mae'r cwrs yn addas i chi. Fel y gwelwch o'r teitl, mae'n cwmpasu'r ddau lwybr gyrfa! Felly, er enghraifft, yn eich aseiniadau Iechyd a Diogelwch, gallwch ymchwilio i'r Ganolfan Hamdden Leol, sef Canolfan Glan Wnion, neu i ddarparwr gweithgareddau awyr agored lleol fel Glan-llyn.

Mae gan y cwrs gysylltiadau cryf â Glan-llyn, Canolfan Weithgareddau Awyr Agored Genedlaethol yr Urdd, sy'n un o ganolfannau awyr agored mwyaf Cymru. Caiff y myfyrwyr aros yn y ganolfan ddwywaith y flwyddyn, gan ganolbwyntio ar Chwaraeon Dŵr yn ystod un arhosiad ac ar weithgareddau ar y tir yn ystod yr arhosiad arall. Daw gweithwyr proffesiynol eraill i'r coleg yn rheolaidd i arwain dyddiau ymarferol, gan fanteisio ar atyniadau lleol fel creigiau'r Bermo i ddringo a'r Afon Wnion i gerdded ceunentydd.

Uchafbwynt yr ail flwyddyn yw taith bum niwrnod yng Nghymru, gyda'r myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn trefnu a chynllunio’r daith. Bu'r her o deithio o Aberhonddu i Fae Caerdydd yn un boblogaidd iawn. Golygodd hyn gerdded 55 milltir ar hyd Fannau Brycheiniog, yna ar hyd Lwybr Afon Taf drwy gymoedd y De, gan fynd heibio llefydd o bwys cenedlaethol fel Aberfan, hyd nes cyrraedd Bae tangnefeddus Caerdydd.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, caiff y myfyrwyr bythefnos o brofiad gwaith. Gallant ddewis gweithio mewn Cyfleuster Chwaraeon neu mewn Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored. Bu cyn-fyfyrwyr a oedd yn ymddiddori mewn chwaraeon ar brofiad gwaith mewn Canolfannau Hamdden, neu aeth rhai a oedd am gael profiad ym maes gweithgareddau awyr agored i amrywiol Ganolfannau Gweithgareddau Awyr Agored lleol.

Beth allwch chi ei wneud ar ôl dilyn y cwrs? Yn aml, ar ôl cwblhau'r cwrs BTEC yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn dilyn un o dri llwybr gyrfa, sef:

  • Dilyn cwrs Addysg Uwch mewn prifysgol fel Caerdydd, Bangor ac ati
  • Dilyn cwrs Gradd Sylfaen, a ddilyswyd gan Brifysgol Bangor, yn Nolgellau. Yna, gallant ddilyn cwrs atodol y Mangor am flwyddyn er mwyn ennill gradd lawn.
  • Neu ymuno â chynllun prentisiaeth blwyddyn neu ddwy flynedd mewn canolfan awyr agored leol. Mae llawer wedi dilyn y llwybr hwn yng Nglan-llyn.

Yn ogystal, gallant ymgeisio am waith yn lleol.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mae'r cwrs yn defnyddio harbwr a chyfleusterau dringo'r Conway Centre, un o ganolfannau Addysg Awyr Agored gorau'r DU. Byddwch yn treulio diwrnod yr wythnos yma drwy gydol y ddwy flynedd.

Mae yna dair taith byr penwythnos ar gyfer pob blwyddyn. Ar ben hyn, ym Mlwyddyn 1, mae alldaith wythnos i'r Peak District a lleoliad gwaith wythnos.

Ym Mlwyddyn 2, mae alldaith aeaf yn yr Alban am wythnos o hyd ac yna yr Alldaith Derfynol ble mae'n rhaid i'r myfyrwyr eu hunain ei gynllunio.

Fel rhan o'r cwrs, mae'r mwyafrif o fyfyrwyr hefyd yn cyflawni cymwysterau Canŵio Prydain, RYA, Powerboat, DofE Silver a Chymorth Cyntaf.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • Dolgellau

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau

Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Myfyriwr yn chwarae rygbi