Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Pwllheli
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    2 flynedd

Gwnewch gais
×

Chwaraeon Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Pwllheli

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa yn y diwydiant addysg awyr agored neu'r gwasanaethau cyhoeddus, milwrol neu sifil?

Ydych chi'n chwilio am lwybr ymarferol i Addysg Uwch?

Mae'r cwrs hwn yn rhoi'r hyn sy'n cyfateb i chi hyd at dair Lefel A. Byddwch hefyd yn cwblhau profiad gwaith, ac yn cael cyfle i gyflawni amrywiaeth o gymwysterau personol a gwobrau corff llywodraethu cenedlaethol. Bydd eich rhaglen astudio lawn yn cynnwys y cymhwyster Chwaraeon Awyr Agored, ochr yn ochr â chymwysterau ychwanegol a fydd yn cefnogi eich datblygiad sgiliau ehangach ac yn eich cefnogi i symud ymlaen.

Bydd eich rhaglen wedi'i phersonoli (datblygu proffil gradd) yn cynnwys cyfuniad o'r Fagloriaeth Gymreig (sy'n eich galluogi i ennill pwyntiau UCAS ychwanegol), Llythrennedd, Rhifedd, Cyflogadwyedd a sgiliau Digidol.

I gael gwybodaeth am ein Academïau Chwaraeon cliciwch yma Academïau Campfa a Chwaraeon.

Mae rhagor o wybodaeth am Academi Pêl-droed Coleg Llandrillo ar gael yma

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af). Rhaid i chi hefyd feddu ar TGAU Mathemateg neu Rifedd gradd D neu uwch.
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Bydd angen hefyd i chi fod wedi cael presenoldeb o 86% yn eich blwyddyn astudio flaenorol.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen trwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Gweithgareddau ymarferol ac awyr agored
  • Trafodaeth ystafell ddosbarth
  • Darlithoedd ffurfiol
  • Siaradwyr gwadd
  • Ymchwil unigol
  • Gwaith grŵp
  • Prosiectau
  • Cefnogaeth ac adnoddau ar-lein

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios gwaith
  • Perfformio ac arsylwi

Mae'n bosib y bydd rhai profion allanol hefyd.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych amryw o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Gradd Sylfaen (FdSc) Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym maes Chwaraeon)
  • Gradd Sylfaen (FdSc) Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Hamdden Awyr Agored)

Gellwch hefyd wneud cais i sefydliadau eraill i astudio am Raddau, Graddau Sylfaen neu HNDs mewn pynciau Awyr Agored, Gwyddor Chwaraeon, Datblygu Chwaraeon, Daearyddiaeth, Nyrsio, Ymarfer Dysgu, Busnes a Chyfrifiadura, i enwi ond ychydig.

Gallech hefyd fynd ymlaen i gyflogaeth, un ai'n uniongyrchol neu ar ôl astudiaethau pellach.Mae cyn-fyfyrwyr wedi sicrhau gwaith mewn canolfannau awyr agored a chanolfannau hamdden a chwaraeon fel hyfforddwyr, goruchwylwyr a rheolwyr. Mae eraill wedi cael eu derbyn i'r Heddlu, y Fyddin a'r Llynges Frenhinol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Pwllheli

Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Myfyriwr yn chwarae rygbi