Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Chwaraeon (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff) Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    2 flynedd

Gwnewch gais
×

Chwaraeon (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff) Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llangefni
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Oes gennych chi ddiddordeb mawr mewn chwaraeon, ymarfer corff a ffitrwydd?

Hoffech chi ennill gwybodaeth fanwl am y meysydd hyn?

Bydd eich rhaglen astudio lawn yn cynnwys y cymhwyster Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (sy'n cyfateb i 3 Safon Uwch), ochr yn ochr â chymwysterau ychwanegol a fydd yn cefnogi'ch datblygiad sgiliau ehangach ac yn eich cefnogi i symud ymlaen.

Bydd eich rhaglen wedi'i phersonoli (datblygu proffil gradd) yn cynnwys cyfuniad o'r Fagloriaeth Gymreig (sy'n eich galluogi i ennill pwyntiau UCAS ychwanegol), Llythrennedd, Rhifedd, Cyflogadwyedd a sgiliau Digidol. Mae'r cwrs hwn yn darparu rhaglen amrywiol, sy'n ymdrin â sawl agwedd ar chwaraeon. Yn benodol, byddwch yn ymchwilio i'r wyddoniaeth y tu ôl i berfformiad chwaraeon, hyfforddiant, iechyd a ffitrwydd.

Byddwch hefyd yn dysgu am ddamcaniaethau chwaraeon, gan ganolbwyntio ar sut y gellir eu defnyddio i wella perfformiad pobl chwaraeon yn ymarferol. Bydd eich astudiaethau'n cynnwys agweddau ar anatomeg, anafiadau chwaraeon, tylino, maeth, seicoleg, datblygu sgiliau a hyfforddi. Trwy sesiynau chwaraeon ymarferol, byddwch chi'n gallu profi amrywiaeth o wahanol chwaraeon ac arbenigo os dymunwch.

Mae'r cwrs yn addas os oes gennych ddiddordeb ym mhob agwedd ar chwaraeon, o gyfranogiad gwirioneddol i ddulliau o wella perfformiad a'r cwestiwn o sut y gall chwaraeon fod o fudd i gymdeithas. Trwy gydol y cwrs, byddwch yn elwa o brofiad staff chwaraeon y Grŵp, y mae llawer ohonynt yn ymarferwyr cyfredol yn eu priod feysydd. Bydd hyn yn eich galluogi i roi'r hyn a ddysgwyd yn yr ystafell ddosbarth ar waith.

Byddwch yn datblygu'r wybodaeth, yr hyder a'r sgiliau arwain i ddechrau eich gyrfa, neu i symud ymlaen i Addysg Uwch.

I gael gwybodaeth am ein Academïau Chwaraeon cliciwch yma Academïau Campfa a Chwaraeon

Gofynion mynediad

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon bydd angen un o'r canlynol arnoch:

  • 5 TGAU gradd C neu uwch. Byddai hyn yn ddelfrydol yn cynnwys Cymraeg Iaith 1af neu Saesneg. Rhaid i chi hefyd feddu ar TGAU Mathemateg neu Rifedd gradd D neu uwch.

NEU

  • Diploma Chwaraeon Lefel 2 ac yn ddelfrydol TGAU Saesneg/Cymraeg Iaith 1af a Mathemateg gradd D neu uwch (neu gyfwerth - h.y. Cyfathrebu a Rhif SCA ar Lefel 2)

Os nad ydych chi'n siŵr a oes gennych chi'r proffil gofynion mynediad, neu os oes gennych chi gymwysterau eraill sy'n cyfateb yn eich barn chi, cysylltwch â gwasanaethau dysgwyr trwy'r swyddogaeth sgwrsio neu'n uniongyrchol. Bydd gwasanaethau dysgwyr yn gallu trafod eich proffil a rhoi gwybod i chi am opsiynau cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen trwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Gweithgareddau ymarferol ac awyr agored
  • Trafodaeth ystafell ddosbarth
  • Darlithoedd ffurfiol
  • Siaradwyr gwadd
  • Ymchwil unigol
  • Gwaith grŵp
  • Cefnogaeth ac adnoddau ar-lein

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios gwaith
  • Perfformio ac arsylwi
  • Asesiadau dan reolaeth
  • Arholiadau allanol

Dilyniant

Ar ôl cwblhau dwy flynedd y cwrs, bydd gennych amryw o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Gradd Sylfaen (FdSc) Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym maes Chwaraeon)
  • Gradd Sylfaen (FdSc) Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Hamdden Awyr Agored)

Gellwch hefyd wneud cais i sefydliadau eraill i astudio am Raddau, Graddau Sylfaen neu HNDs mewn pynciau Awyr Agored, Gwyddor Chwaraeon, Datblygu Chwaraeon, Ffisiotherapi, Therapi Chwaraeon, Nyrsio, Ymarfer Dysgu, Busnes a Chyfrifiadura, i enwi ond ychydig.

Gallech ymuno â'r diwydiant mewn meysydd megis datblygu chwaraeon, hyfforddi a hyfforddi personol. Gallech ymgeisio am swyddi gydag Awdurdodau Lleol ar raglenni iechyd a lles neu gallech ymuno â'r lluoedd arfog neu'r gwasanaethau argyfwng.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • International
  • Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • Llangefni

Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Myfyriwr yn chwarae rygbi