Gradd Sylfaen (FdSc) Gwyddor Hyfforddi a Pherfformio Chwaraeon
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
-
Dull astudio:Rhan amser, Llawn Amser
-
Hyd:
Amser-llawn: 2 flynedd NEU Rhan-amser: 4 blynedd. Hefyd ar gael fel modiwlau.
Dydd Llun a dydd Mawrth, 9am - 5pm
-
Cod UCAS:CX6C
Gradd Sylfaen (FdSc) Gwyddor Hyfforddi a Pherfformio Chwaraeon
Cyrsiau Lefel Prifysgol
Llawn Amser
Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.
Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.
Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.
Rhan Amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r Radd Sylfaen hon yn addas i ddysgwyr sydd am gael gyrfa ym maes chwaraeon sy'n amrywiol iawn ac yn cynnwys hyfforddi chwaraeon, perfformio chwaraeon, a'r diwydiant ffitrwydd.
Bwriad y Radd Sylfaen yw datblygu eich dealltwriaeth o wyddor hyfforddi a pherfformio chwaraeon trwy ddadansoddi egwyddorion, cysyniadau a materion cyfoes a'u rhoi ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn. Wrth ddysgu am wahanol ddisgyblaethau, bydd myfyrwyr yn meithrin gwybodaeth y gallant ei defnyddio mewn amrywiol sefyllfaoedd i'w helpu i wella eu hymgysylltiad â chwaraeon a'u perfformiad ar y maes chwarae.
Mae'r rhan yn cynnwys hyfforddi, ffisioleg, seicoleg, maetheg, cryfder a chyflyru, a datblygu athletaidd.
Mae modiwlau yn cynnwys:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
- Twlcit Hyfforddi
- Addysgeg Hyfforddi
- Anatomeg Weithredol
- Maeth a Pherfformiad ym maes Chwaraeon
- Dulliau Ymchwilio a Sgiliau Astudio
- Ffisioleg Ddynol a sut i'w Hasesu
- Hanfodion Seicoleg Chwaraeon
- Datblygu Hunaniaeth Broffesiynol
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
- Ymarfer Proffesiynol ym maes Chwaraeon
- Dulliau Ymchwilio
- Seicoleg Arweinyddiaeth Hyfforddi
- Optimeiddio Perfformiad Dynol
- Dadansoddi Perfformiad
- Datblygu Athletwyr a Phobl Ifanc
- Cryfder, Cyflyru ac Adferiad Cymhwysol
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.
Gofynion mynediad
Mae graddau sylfaen yn addas i fyfyrwyr sydd ag ystod o alluoedd, gan gynnwys rhai nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol. Ni dderbynnir myfyriwr oni bai ei fod yn debygol o allu cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus a chael budd ohoni.
Derbynnir y rhai nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol ar sail y canlynol, ond nid ar sail y canlynol yn unig:
- Datganiad personol neu CV, asesiad mewn cyfweliad, perfformiad mewn tasgau a osodwyd yn benodol i ddibenion derbyn, profiad gwaith perthnasol a thystlythyrau gan gyflogwyr.
Yn achos unigolion sydd â chymwysterau ffurfiol, mae'r canlynol yn dderbyniol:
- O leiaf 64 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, gan amlaf yn cynnwys gradd llwyddo mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; neu NVQ Lefel 3; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen. Os yw'r amserlen yn caniatáu gellir cynnig cyfleoedd i ailsefyll arholiadau TGAU.
- Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol
Gofynion ieithyddol:
- TGAU mewn Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf, gradd C/4 neu gyfwerth
- Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys a nodir uchod fod wedi'u dysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg/Saesneg
- Yn achos ymgeiswyr tramor sydd am ddechrau ar Lefel 4: IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
- Yn achos ymgeiswyr tramor sydd am ddechrau ar Lefel 5: IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5).
Yn achos lleoliadau allanol, rhaid cael gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd
- Sesiynau ymarferol
- Dysgu cydweithredol
- Ymweliadau allanol
- Lleoliadau Gwaith
- Seminarau
Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.
Amserlen
2 ddiwrnod yr wythnos (9am-4:30pm fel arfer)
- Blwyddyn 1: Dydd Llun a dydd Mawrth
- Blwyddyn 2: Dydd Iau a dydd Gwener
Yn nodweddiadol bydd pob modiwl 10 credyd yn cymryd tua 100 o oriau dysgu tybiannol, gyda thua 30% yn ddysgu wedi'i amserlennu a gweithgaredd dan arweiniad a 70% yn astudio annibynnol. Gall y dysgu wedi'i amserlennu amrywio fesul modiwl yn dibynnu ar y dull cyflwyno a gofynion cynnwys y pwnc a gall yr astudio annibynnol amrywio'n ôl datblygiad myfyrwyr unigol. Y canllaw i fyfyrwyr yw cynllunio ar gyfer 1200 o oriau dysgu tybiannol y flwyddyn, gyda thua 360 o oriau dysgu wedi’u hamserlennu (dros 30 wythnos fel arfer), sy'n cynnwys oriau ar yr amserlen, lleoliad gwaith, dysgu seiliedig ar gyflogadwyedd a gweithgaredd dan arweiniad, a thua 840 awr o oriau astudio annibynnol yn ystod y flwyddyn astudio.
Yn rhan o raglen y radd sylfaen bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag o leiaf 150 awr o brofiad gwaith ar lefel 4 a lefel 5 mewn sector galwedigaethol perthnasol.
Defnyddir y log oriau ac adfyfyrio yn y canllawiau i fyfyrwyr/cyflogwyr i ddangos yr oriau a gwblhawyd a'r gwaith adfyfyrio. Bydd hwn yn rhan o'r asesiad crynodol (llwyddo/methu) ar lefel 4 a lefel 5 y radd sylfaen. Bydd angen i fyfyrwyr ganfod a chytuno ar brofiad gwaith i'w gwblhau. Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi gan y tîm addysgu i ymchwilio i weithleoedd addas ar gyfer lleoliadau gwaith, eu trafod, gwneud ceisiadau amdanynt, a deall sut y gall hyn gefnogi eu deilliannau dysgu. Cyn dechrau ar y profiad gwaith bydd angen i fyfyrwyr wirio beth yw gofynion y lleoliad(au) profiad gwaith gan fod angen gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) mewn rhai sectorau. Gall y Gwasanaethau i Ddysgwyr eich cefnogi gyda'r broses hon.
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Costau ychwanegol
Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:
- Dillad chwaraeon GLlM (dewisol: £20-£40)
- Argraffu poster academaidd (£5)
- Hyfforddiant galwedigaethol a phroffesiynol yn y diwydiant (dewisol: Enghraifft - Dyfarniad i Arweinwyr Pêl-droed £70)
- Tripiau Allanol (dewisol: e.e. Cynhadledd ym Mhrifysgol Middlesex i Fyfyrwyr Chwaraeon a Hyfforddi £25)
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Cyswllt
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
Steve Kehoe (Rhaglen Arweinydd): kehoe1s@gllm.ac.uk
Sian Backhouse (Gweinyddiaeth): backho1s@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Traethodau
- Adroddiadau
- Asesiadau Ymarferol
- Cyflwyniadau (Grŵp ac Unigol)
- Arholiad
- Portffolio
- Ysgrifennu Adfyfyriol
- Astudiaethau Achos
- Podlediadau
- Datblygu Cynllun Hyfforddi
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
Ar ôl dilyn y cwrs, bydd nifer o ddewisiadau o ran dilyniant proffesiynol ac addysgol ar gael i chi. Bydd llawer o fyfyrwyr yn dewis mynd ymlaen i astudio ar Lefel 6, gan dreulio blwyddyn arall yn astudio at radd BSc (Anrh). Wedyn, gallant ddilyn cwrs TAR er mwyn bod yn athro/athrawes Addysg Gorfforol.
Gall y Radd Sylfaen hefyd fod yn fodd i gael gwaith yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat. Gallech weithio fel hyfforddwr neu reolwr hyfforddi, neu weithio i wasanaeth cefnogi ym maes gwyddor chwaraeon neu ym maes datblygu chwaraeon. Dewis arall fyddai dilyn gyrfa ym maes iechyd neu wyddoniaeth, lle bydd eich profiad o ymchwilio'n uniongyrchol berthnasol.
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Gwybodaeth am yr Uned
Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.
Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau a ganlyn:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Twlcit Hyfforddi (10 credyd)
Nod y modiwl hwn yw darparu'r sgiliau hyfforddi sylfaenol sydd eu hangen i gynllunio a chyflwyno sesiynau hyfforddi mewn ffordd ddiogel, gynhwysol ac effeithiol. Bydd myfyrwyr yn ennill profiad hyfforddi ymarferol ac yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau.
- Asesiad 1: Cynllunio Sesiwn 30%
- Asesiad 2: Cyflwyno Sesiwn Hyfforddi 70%
Addysgeg Hyfforddi (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno cysyniadau damcaniaethol ynghylch y broses hyfforddi mewn modd ymarferol, gan roi profiad i fyfyrwyr o ddefnyddio gwahanol dechnegau hyfforddi mewn amrywiol sefyllfaoedd ym maes chwaraeon. Caiff myfyrwyr gyfle hefyd i gynllunio, i gynnal ac i werthuso eu sesiynau hyfforddi eu hunain.
- Asesiad 1: Sesiwn Hyfforddi Ymarferol 50%
- Asesiad 2: Adolygiad Ysgrifenedig o'r Sesiwn Hyfforddi 50%
Anatomeg Weithredol (10 credyd)
Nod y modiwl hwn yw dysgu am y cysyniadau anatomegol sylfaenol sydd wrth wraidd gallu pobl i weithredu a'u perthynas ag egwyddorion cinesioleg.
- Asesiad 1: Arholiad 50%
- Asesiad 2: Cyflwyniad ar Sgiliau Symud 50%
Maeth a Pherfformiad ym maes Chwaraeon (20 credyd)
Pwrpas y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr gyflwyniad i faeth ym maes chwaraeon, y rôl y mae maeth yn ei chwarae o ran gwella iechyd a pherfformiad a sut y gellir cynnwys ychwanegion dietegol (cymorth ergogenig) mewn poblogaethau o athletwyr.
- Asesiad 1: Dadansoddiad Dietegol 60%
- Asesiad 2: Cyflwyniad Grŵp: Cymorth Ergogenig i Wella Perfformiad 40%
Dulliau Ymchwilio a Sgiliau Astudio (10 credyd)
Nod y modiwl hwn yw datblygu gallu'r myfyriwr i ddefnyddio amrediad o sgiliau academaidd yn gywir mewn disgyblaeth benodol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau o ran deall sut i ymchwilio'n briodol, defnyddio confensiynau academaidd, ysgrifennu academaidd a rheoli a threfnu eu gwaith. Bydd y modiwl hefyd yn eu cyflwyno i'r cysyniadau sylfaenol sy'n gysylltiedig â thrin a dadansoddi data.
- Asesiad 1: Portffolio 100%
- Rhan 1 - Tystiolaeth o ddatblygu sgiliau astudio (50%)
- Rhan 2 - Darn o ysgrifennu academaidd - amlinelliad o ddatblygiad cwestiwn ymchwil. (50%)
Ffisioleg Ddynol a sut i'w Hasesu (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw dysgu rhagor am anatomeg ddynol a chyflwyno'r agweddau ffisiolegol ar wahanol systemau'r corff a sut y gellir asesu'r rhain. Bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo â thechnegau a phrotocolau profi, gan feithrin sgiliau ymarferol, trin data a chysyniadau pwysig ym maes ffisioleg ddynol. Bydd myfyrwyr yn magu profiad ymarferol hefyd mewn perthynas â chod ymddygiad ac ystyriaethau moesegol a moesol.
- Asesiad 1: Profi Ffisioleg Ddynol 50%
- Asesiad 2: Adborth y Cleient ar Ganlyniadau Profion 50%
Hanfodion Seicoleg Chwaraeon (10 credyd)
Pwrpas y modiwl hwn yw edrych ar fodelau damcaniaethol sylfaenol sy'n rhan hanfodol o broses seicoleg chwaraeon ynghyd â'u perthynas â pherfformiad. Bydd y modiwl yn gyflwyniad i egwyddorion seicoleg chwaraeon.
- Asesiad 1: Cyflwyniad ar Gymhwyso Seicoleg Chwaraeon yn Ymarferol 50%
- Asesiad 2: Adfyfyrdod Ysgrifenedig 50%
Datblygu Hunaniaeth Broffesiynol (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw cefnogi myfyrwyr i archwilio amrywiaeth o brofiadau yn yr amgylchedd gwaith er mwyn eu helpu i gynllunio gyrfa ac i ystyried sut mae theori'n cael ei roi ar waith yn y byd go iawn. Trefnir hyn ar y cyd â chyflogwyr lleol/lleoliadau diwydiannol i'w helpu i ddilyn cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol.
- Asesiad 1: Adfyfyrion ar y Lleoliad Gwaith 50%
- Asesiad 2: Profiad a Datblygiad Proffesiynol yn y Lleoliad Gwaith 50%
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Ymarfer Proffesiynol ym maes Chwaraeon (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i'r dysgwyr ddadansoddi gwerth eu dysgu mewn cyd-destunau galwedigaethol a gwaith-benodol. Bydd prif ffocws y modiwl hwn yn ymwneud â phwysigrwydd ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a'r ffordd y caiff ei roi ar waith yn y gweithle. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn parhau i adeiladu eu sgiliau adfyfyriol mewn DPP sy'n gysylltiedig â chymwyseddau yn y byd chwaraeon.
- Asesiad 1: Ymyriadau (Adfyfyrdod Ysgrifenedig) 60%
- Asesiad 2: Cynllun Datblygu Personol 40%
Dulliau Ymchwilio (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw cadarnhau, datblygu ymhellach ac ymestyn gallu'r myfyriwr i ddefnyddio amrediad o sgiliau academaidd yn gywir mewn disgyblaeth benodol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i wella eu sgiliau ysgrifennu academaidd a'u sgiliau ymchwilio, datblygu damcaniaethau y gellir eu cyfiawnhau, defnyddio methodolegau ymchwilio a pharatoi yn y pen draw ar gyfer ysgrifennu traethawd hir.
- Asesiad 1: Cyflwyno cynnig ar gyfer prosiect ymchwil 30%
- Asesiad 2: Prosiect Adroddiad Ysgrifenedig 70%
Seicoleg Arweinyddiaeth Hyfforddi (10 credyd)
Prif nod y modiwl hwn yw gwella sgiliau hyfforddi ymarferol ac edrych ar y prif gysyniadau sy'n dylanwadu ar yr amgylchedd hyfforddi a dysgu presennol. Gan ddefnyddio seicoleg, bydd myfyrwyr yn archwilio agweddau allweddol ar sut y gall arweinyddiaeth hyfforddwyr effeithio ar yr amgylchedd dysgu a sut y gellir cymhwyso gwahanol fodelau arweinyddiaeth.
- Asesiad 1: Cynllun Hyfforddi wedi'i Anodi 40%
- Asesiad 2: Sgiliau Arweinyddiaeth (Cyflwyniad Ymarferol) 60%
Optimeiddio Perfformiad Dynol (20 credyd)
Prif nod y modiwl hwn yw adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd eisoes am ffisioleg a maeth, gan alluogi myfyrwyr i roi'r wybodaeth hon ar waith o safbwynt gwyddor chwaraeon, gyda'r bwriad o wella perfformiad athletwyr. Bydd myfyrwyr yn archwilio meysydd perfformiad allweddol mewn gwahanol senarios a strategaethau seiliedig ar dystiolaeth y gellir eu defnyddio cyn, yn ystod ac ar ôl ymarfer i ddarparu enillion ymylol ac i helpu i berfformio ar y lefel uchaf bosibl.
- Asesiad 1: Traethawd ar Ddulliau Adfer 50%
- Asesiad 2: Strategaethau Cynnydd (Podcast Chwaraeon) 50%
Datblygu Athletwyr a Phobl Ifanc (20 credyd)
Prif nod y modiwl hwn yw adeiladu ar ddamcaniaeth hyfforddi a'i datblygu i feithrin amgylchedd hyfforddi lle gall athletwyr a phobl ifanc ddatblygu'n gorfforol ac yn emosiynol. Bydd myfyrwyr yn archwilio'r berthynas rhwng amgylchedd hyfforddi a lles cyfranogwyr, tra hefyd yn cydnabod yr angen am ddatblygiad technegol, tactegol, corfforol a seicogymdeithasol.
- Asesiad 1: Datblygu Athletiaeth (Prawf Ymarferol) 60%
- Asesiad 2: Traethawd ar Lesiant Athletwyr 40%
Dadansoddi Perfformiad (10 credyd)
Nod y modiwl hwn yw meithrin gwybodaeth am ddulliau gwahanol o ddadansoddi perfformiad, gan eu rhoi ar waith mewn amrywiol gyd-destunau chwaraeon, a chan ddadansoddi eu heffeithiolrwydd a rhoi i fyfyrwyr sgiliau ymarferol.
- Asesiad 1: Dadansoddi Perfformiad (Astudiaeth Achos) 100%
- Adran 1: Casglu a dadansoddi data - 70%
- Adran 2: Adborth i berfformwyr - 30%
Cryfder, Cyflyru ac Adferiad Cymhwysol (20 credyd)
Pwrpas y modiwl hwn yw rhoi sgiliau ymarferol i fyfyrwyr allu hyfforddi ystod o dechnegau ymarfer corff sy'n gysylltiedig â chryfder a chyflyru. Bydd myfyrwyr hefyd yn dod i ddeall sut i gynllunio a thargedu rhaglenni cryfder a chyflyru a sut y gellir cymhwyso'r egwyddorion hyn er mwyn atal anafiadau.
- Asesiad 1: Cyflwyno Technegau Ymarfer Corff 40%
- Asesiad 2: Cynllun Hyfforddi 30%
- Asesiad 3: Addasu Dulliau Hyfforddi (Arholiad Llafar) 30%
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol
Lefel:
4+5
Maes rhaglen:
- Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored
Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor
Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Sefydliad dyfarnu
