Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

BA (Anrh) Celf a Dylunio (Atodol)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Parc Menai (Celf a Dylunio)
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn Amser: 1 flwyddyn; Rhan-amser: 2 flynedd

  • Cod UCAS:
    WW13
Gwnewch gais
×

BA (Anrh) Celf a Dylunio (Atodol)

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Parc Menai

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Ni allwch wneud cais am y cwrs hwn drwy UCAS.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Parc Menai

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi eisiau gyrfa yn un o'r disgyblaethau eang sy'n gysylltiedig â chelfyddyd gain, celf gymhwysol a dylunio? Ydych chi'n dyheu am fod yn artist neu'n ddylunydd, ac am ddatblygu eich ymarfer creadigol?

P'un ai yw eich ffocws ar eich gyrfa neu ar eich hoff-beth, bydd y Radd Sylfaen hon yn rhoi cyfle delfrydol ichi ddatblygu eich gwybodaeth artistig, eich hyder a'ch ochr greadigol. Byddwch yn ennill cymhwyster Addysg Uwch gwerthfawr, ac yn cael yr opsiwn o symud ymlaen at Lefel 6 i gwblhau gradd Anrhydedd.

Mae modiwlau yn cynnwys:

  • Lleoli Ymarfer Proffesiynol
  • Ymarfer Estynedig
  • Arddangosf

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion ieithyddol:

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

⁠Gofynion Academaidd i gael mynediad i raglen ar Lefel 6

Bydd dilyniant i lefel 6 yn digwydd yn uniongyrchol yn achos y myfyrwyr hynny sy'n mynd ymlaen o Radd Sylfaen i Radd BA (Anrh.) mewn Celf a Dylunio yn GLlM yn dilyn cwblhau'r radd sylfaen yn llwyddiannus.

Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.

Bydd ymgeiswyr allanol ar gyfer y cwrs lefel 6 yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â pholisi GLlM ynghylch trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi).

Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen ddysgu drwy gyfrwng cyfres o weithgareddau dysgu cyfunol (wyneb yn wyneb ac ar-lein), darlithoedd rhyngweithiol, seminarau, grwpiau trafod, gweithdai, siaradwyr gwadd, ymarferion datrys problemau, datblygiad dan arweiniad, adborth ar asesiadau ac adborth beirniadol (gan diwtoriaid a chyd-fyfyrwyr), gweithgareddau i unigolion a grwpiau a thiwtorialau cysylltiedig. Rhan bwysig o’r cwrs fydd ystyried deunydd a seiliwyd ar astudiaethau achos, erthyglau mewn cyfnodolion ac ymweliadau siaradwyr gwadd sy'n dangos y themâu a drafodir ar waith yn y byd go iawn.

Amserlen

  • Llawn amser: i'w gadarnhau
  • Rhan-amser: i'w gadarnhau

Ffioedd

Ewch i'r dudalen Cymorth Ariannol a Chyllid am fwy o wybodaeth.

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

Cewch deithio am ddim ar fws gwennol i'r prif gampws yn y bore, amser cinio ac ar ddiwedd y dydd.

  • Disgwylir i bob myfyriwr gymryd rhan mewn ymweliadau a theithiau astudio a dylid neilltuo tua £250 ar gyfer hyn.
  • Ffi flynyddol o £30 am ddefnyddio'r stiwdio – cyfraniad tuag at gostau nwyddau a deunyddiau hanfodol a phwrpasol a ddefnyddir yn ystod y sesiynau yn y stiwdio.
  • Deunyddiau celf
  • Costau cludiant ychwanegol ar gyfer ymweliadau ag Orielau ac Arddangosfeydd
  • Costau ychwanegol ar gyfer arddangos

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi fynychu cyfweliad i roi y cyfle i chi drafod y cwrs.

Dewch â sampl o'ch portffolio i'r cyfweliad. Mae lleoedd ar y rhaglen yn destun cyfweliad a phortffolio.

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Miranda Meilleur (Rhaglen Arweinydd): meille1m@gllm.ac.uk

Sera Williams (Gweinyddiaeth): parry3j@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r asesu ffurfiannol yn cael ei wneud ar ffurf:

  • Tiwtorialau unigol/grŵp
  • Hunanasesu
  • Asesiad gan gyd-fyfyrwyr
  • Trafodaeth feirniadol mewn grŵp

Mae'r asesu crynodol yn cael ei wneud ar ffurf:

  • Portffolio
  • Dyddlyfr Adfyfyriol
  • Blog Adfyfyriol
  • Cyflwyniad
  • Prosiect Sefydlu
  • Llyfr Brasluniau
  • Darn terfynol
  • Ymchwil mewn llyfr brasluniau
  • Gwerthuso
  • Portffolio digidol
  • Cynigion ysgrifenedig
  • Fideo
  • Hunangyhoeddi llyfr

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

O ran dilyniant creadigol a phroffesiynol, gall y cwrs arwain at nifer o ddewisiadau amrywiol. Yn ogystal â gweithio ar eich liwt eich hun fel dylunydd neu artist, mae swyddi i'w cael yn y diwydiannau creadigol: e.e. ym maes hysbysebu, dylunio gwefannau, teledu, ffilmiau, cyhoeddi, darlunio, crefftau cyfoes, animeiddio neu ddylunio cynnyrch. Mae gyrfaoedd posibl eraill yn cynnwys gweithio ym myd addysg, mewn oriel neu amgueddfa, ym myd y theatr neu wneud gwaith sy'n gysylltiedig â gŵyl neu wyliau, gweithio mewn archifdy neu yn y diwydiant argraffu.

Mae paratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith yn y sector creadigol yn rhan greiddiol o'r cwrs. Credwn fod Profiad Gwaith Ystyrlon yn wirioneddol werthfawr i'n myfyrwyr, ac mae llawer ohonynt wedi cael Profiad Gwaith sydd wedi bod yn ganolog i'w datblygiad fel artistiaid a dylunwyr. Mae sefydliadau creadigol lleol fel Cwmni Da (cynhyrchu ar gyfer y cyfryngau Cymraeg) a View Creative (dylunio graffig) wedi cynnig lleoliadau gwaith i'n myfyrwyr yn ogystal â sefydliadau creadigol cenedlaethol a chanddynt arbenigeddau amrywiol.

Mae llawer o'n cyn-fyfyrwyr bellach yn gweithio yn y Diwydiannau Creadigol mewn swyddi fel:

  • Gweinyddu ym maes y Celfyddydau
  • Addysgu
  • Y Celfyddydau ym maes Iechyd
  • Marchnata drwy'r Cyfryngau Cymdeithasol
  • Manwerthu

Yn hunangyflogedig neu'n gweithio ar eu liwt eu hunain ym maes Celf a Dylunio.

Gwybodaeth campws Parc Menai (Celf a Dylunio)

Blwyddyn 1 (Lefel 6)

Traethawd Hir/Amgueddfa Ddychmygol (20 credyd, craidd):
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ymchwil drwyadl, meddwl yn feirniadol ac adfyfyrio ar gwestiynau a materion sy'n deillio o ymarfer y myfyrwyr eu hunain ac sy'n berthnasol i'w disgyblaeth. (Traethawd Hir 100%)

Lleoli Ymarfer Proffesiynol (20 credyd, gorfodol)
Students develop their exhibition skills and extend their ability to document and communicate their work in a way that is fitting to their individual professional goals. (Portfolio 75%, Presentation 25%)

Ymarfer Estynedig 2 (40 credyd, craidd)
Bydd y modiwl hwn yn galluogi dysgwyr i ymchwilio i'w disgyblaeth a chanfod llwybr arbenigol i gyflawni gwaith newydd drwy drefnu eu gweithgareddau eu hunain. (Portffolio 100%)

Arddangosfa (40 credyd, gorfodol)
Dyma ran allweddol o'r asesiad terfynol ac mae'n gyfle i'r dysgwyr ddangos eu sgiliau dylunio creadigol a'u sgiliau cynhyrchu. Bydd y rhain yn cael eu llywio drwy archwilio'r broses, dealltwriaeth feirniadol, defnydd o theori a rhoi ymarfer ar waith. (Cyflwyniad sy'n amlinellu'r gwaith sy'n cael ei gynnig DD1. 10%/Portffolio o'r gwaith a ddatblygwyd DD2. 60%/Cyflwyno'r arddangosfa DD3. 20%/Arholiad llafar DD4. 10%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth

Myfyriwr yn gwneud llun

Sefydliad dyfarnu