Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Parc Menai (Celf a Dylunio), Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Celf a Dylunio Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Parc Menai
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi wedi gwirioni ar gelf a dylunio? Hoffech chi weithio ac astudio yn y maes hwn?

Mae i'r cwrs Lefel 2 hwn gwricwlwm cyffrous sydd wedi'i gynllunio i ddatblygu eich sgiliau a syniadau creadigol yn ogystal â'ch paratoi ar gyfer gweithio yn y diwydiannau creadigol. Mae'n addas i fyfyrwyr sy'n symud ymlaen o gwrs Lefel 1 perthnasol, neu astudiaethau TGAU.

Byddwch yn profi ystod eang o weithgareddau creadigol a all gynnwys ffotograffiaeth, dylunio graffig, ffasiwn a thecstilau, cyfryngau, celfyddyd gain, crefftau dylunio yn ogystal â meysydd eraill. Bydd y cwrs yn eich helpu i ddatblygu eich syniadau creadigol mewn ymateb i'r byd o'ch cwmpas, a defnyddio'r sgiliau hynny i ddatblygu gyrfa. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau busnes defnyddiol, megis mentergarwch a marchnata, sy'n cael eu gwerthfawrogi gan ystod o wahanol gyflogwyr.

Trwy gydol y cwrs caiff creadigrwydd pob myfyriwr ei hybu a'i feithrin mewn amgylchedd cefnogol. Bydd eich tiwtoriaid yn artistiaid a dylunwyr gweithredol a fydd yn eich arwain a'ch cefnogi wrth i chi ddatblygu eich portffolio o waith. Cewch hefyd fanteisio ar gyfleusterau arbenigol sy'n cynnwys stiwdios a gweithdai pwrpasol.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn ddelfrydol i gynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith 1af a Mathemateg, neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi fynychu cyfweliad i roi y cyfle i chi drafod y cwrs.

Dewch â sampl o'ch portffolio i'r cyfweliad. Mae lleoedd ar y rhaglen yn destun cyfweliad a phortffolio.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Gwaith dosbarth
  • Gwaith tiwtorial
  • Ymweliadau addysgol
  • MOODLE (awyrgylch ddysgu rhithiol)
  • Google Classroom

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol/ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Gwaith portffolio
  • Caiff rhai o unedau'r cwrs eu marcio gan aseswyr allanol.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r rhaglen, gall myfyrwyr llwyddiannus fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau yng Nghrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Celf a Dylunio Lefel 3

Gallech hefyd fynd ymlaen i weithio neu ystyried dewisiadau gwahanol o fewn addysg bellach.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau
  • Parc Menai

Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth

Myfyriwr yn gwneud llun