Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gradd Sylfaen (FdA) Celf a Dylunio

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Parc Menai (Celf a Dylunio)
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn Amser: 2 flynedd (3 diwrnod yr wythnos); Rhan-amser: 4 flynedd NEU'n fodiwlaidd

  • Cod UCAS:
    WW12
Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaen (FdA) Celf a Dylunio

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Parc Menai

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Parc Menai

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi eisiau gyrfa yn un o'r disgyblaethau eang sy'n gysylltiedig â chelfyddyd gain, celf gymhwysol a dylunio? Ydych chi'n dyheu am fod yn artist neu'n ddylunydd, ac am ddatblygu eich ymarfer creadigol?

P'un ai yw eich ffocws ar eich gyrfa neu ar eich hoff-beth, bydd y Radd Sylfaen hon yn rhoi cyfle delfrydol ichi ddatblygu eich gwybodaeth artistig, eich hyder a'ch ochr greadigol. Byddwch yn ennill cymhwyster Addysg Uwch gwerthfawr, ac yn cael yr opsiwn o symud ymlaen at Lefel 6 i gwblhau gradd Anrhydedd.

Mae modiwlau yn cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

  • Cyd-destun Celf a Dylunio
  • Defnyddiau a Dulliau
  • Celfyddyd Gymhwysol
  • Dylunio a Darlunio Graffig
  • Prosiect Mawr

Modiwlau Lefel 5 (Blwyddyn 2)

  • Cyd-destun Celf a Dylunio
  • Ymarfer Arbenigol
  • Ymarfer Proffesiynol
  • Diwydiant Creadigol
  • Cyd-destun Safle ac Ymarfer
  • Arferion Estynedig

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion ieithyddol:

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Gofynion academaidd:

  • O leiaf 64 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, gan amlaf yn cynnwys gradd llwyddo mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, BTEC, Astudiaethau Sylfaen, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; neu NVQ Lefel 3; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.

Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol.

Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).

Bydd pob ymgeisydd yn cael ei gyfweld a gofynnir iddynt ddangos portffolio o'u gwaith. Bydd ymgeiswyr o dramor yn gallu cyflwyno portffolio electronig.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Seminarau
  • Sesiynau asesu beirniadol
  • Sesiynau tiwtorial
  • Siaradwyr a darlithwyr gwadd

Byddwch yn gweithio mewn cyfleusterau pwrpasol, dan oruchwyliaeth tiwtoriaid sydd wedi cymhwyso'n uchel iawn, llawer ohonynt yn ymarferwyr. Drwy gydol y cwrs, bydd eich Tiwtor Personol yn adolygu eich cynnydd, yn eich helpu i gynllunio aseiniadau i'r dyfodol ac yn trafod datblygiad eich portffolio.

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.

Amserlen

  • Llawn amser: 2 flynedd, 3 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 4.00 pm)
  • Rhan-amser: 4 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 4.00 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Disgwylir i bob myfyriwr gymryd rhan mewn ymweliadau a theithiau astudio a dylid neilltuo tua £250 ar gyfer hyn.
  • Ffi flynyddol o £30 am ddefnyddio'r stiwdio - cyfraniad tuag at gostau nwyddau a deunyddiau hanfodol a phwrpasol a ddefnyddir yn ystod y sesiynau yn y stiwdio.
  • Defnyddiau celf sydd eu hangen ar gyfer astudio’n annibynnol a modiwlau ymarferol - rhennir rhestrau o'r defnyddiau/offer ar ddechrau Bl.1
  • Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig ag arddangos gwaith.
  • Costau cludiant ychwanegol ar gyfer ymweliadau ag Orielau ac Arddangosfeydd

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Ysgoloriaeth Cymhelliant Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ewch i wefan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael gwybod mwy am yr Ysgoloriaeth Cymhelliant.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, neu am gymorth i lenwi’r cais, mae croeso i chi gysylltu â Swyddogion Cangen Grŵp Llandrillo Menai ar – colegcymraeg@gllm.ac.uk

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi fynychu cyfweliad i roi y cyfle i chi drafod y cwrs.

Dewch â sampl o'ch portffolio i'r cyfweliad. Mae lleoedd ar y rhaglen yn destun cyfweliad a phortffolio.

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Miranda Meilleur (Rhaglen Arweinydd): meille1m@gllm.ac.uk

Sera Williams (Gweinyddiaeth): parry3j@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r asesu ffurfiannol yn cael ei wneud ar ffurf:

  • Portffolio
  • Traethawd
  • Blog
  • Cyflwyniad
  • Cynnig/datblygu syniadau
  • Canlyniadau ymarferol


Mae'r asesu crynodol yn cael ei wneud ar ffurf:

  • Portffolio
  • Dyddlyfr Adfyfyriol
  • Blog Adfyfyriol
  • Cyflwyniad
  • Prosiect Sefydlu
  • Llyfr Brasluniau
  • Darn terfynol
  • Ymchwil mewn llyfr brasluniau
  • Gwerthuso
  • Portffolio digidol
  • Cynigion ysgrifenedig
  • Fideo
  • Hunangyhoeddi llyfr

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Bydd cyfle i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau'r cwrs Gradd Sylfaen wneud cais i fynd ymlaen i flwyddyn olaf y cwrs BA (Anrh.) mewn Celf a Dylunio neu'r cwrs BA (Anrh.) mewn Celfyddyd Gain ym Mharc Menai. Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn parhau a'u hastudiaethau ar lefel 5 neu lefel 6 mewn sefydliadau eraill ledled y wlad.

O ran dilyniant creadigol a phroffesiynol, gall y cwrs arwain at nifer o ddewisiadau amrywiol. Yn ogystal â gweithio ar eich liwt eich hun fel dylunydd neu artist, mae swyddi i'w cael yn y diwydiannau creadigol: e.e. ym maes hysbysebu, dylunio gwefannau, teledu, ffilmiau, cyhoeddi, darlunio, crefftau cyfoes animeiddio neu ddylunio cynnyrch. Mae gyrfaoedd posibl eraill yn cynnwys gweithio ym myd addysg, mewn oriel neu amgueddfa, ym myd y theatr neu wneud gwaith sy'n gysylltiedig â gŵyl neu wyliau, gweithio mewn archifdy neu yn y diwydiant argraffu.

Gwybodaeth campws Parc Menai (Celf a Dylunio)

Disgrifiad cwrs

Mae'r Radd Sylfaen mewn Celf a Dylunio (FdA) yn gwrs Addysg Uwch dwy flynedd sydd yn cynnig y cyfle i ddysgwyr i archwilio ystod eang o egwyddorion ac ymarfer Celf a Dylunio drwy ystod amrywiol o brofiadau dysgu gan gynnwys gweithdai arbenigol, seminarau, tiwtorialau a thripiau astudio.

Yn yr ail flwyddyn mae dysgwyr yn canolbwyntio ar ardal arbenigol o fewn Cyfathrebu Graffig, Celfyddyd Gymwysedig neu Celf Gain. Mae dysgwyr yn datblygu eu sgiliau cysylltiedig yn eu maes arbenigol dewisedig, gan adeiladu portffolio o waith. Mae cwrs yn cael ei redeg gydag ein partner Prifysgol Bangor ac mae dysgwyr llwyddiannus yn graddio gyda FdA wedi ei ddyfarnu gan Brifysgol Bangor.

Nodwedd allweddol o'r cwrs yw'r pwyslais ar Ddyfodol Creadigol, entrepreneuriaeth a lleoliad diwydiannol. Mae hyn yn ceisio atgyfnerthu theori a gwaith ymarferol o fewn cyd-destun ehangach diwydiannau creadigol. Mae cysylltiadau diwydiannol yn rhan bwysig o'r cwrs gyda dysgwyr yn gweithio ar friffiau byr wedi eu cyflwyno gan arbenigwyr mewnamgylchedd dwyieithog, creadigol a chefnogol.

Gwybodaeth uned

Mae Celf a Dylunio yn cwmpasu ystod anferth o arbenigeddau yn amrywio o gerameg i ddylunio gwe, er enghraifft.

Ar y cwrs hwn byddwch yn astudio ystod eang o gymwysiadau Celf a Dylunio a fydd yn rhoi sgiliau ymarferol i chi o fewn y meysydd eang o Gyfathrebu Gweledol, Dylunio Graffig, Dylunio Cymwysedig a Chelf Gain. Gan weithio gyda staff arbenigol o fewn meysydd pwnc mae myfyrwyr yn datblygu portffolio o waith addas ar gyfer dilyniant o fewn addysg neu ddiwydiant.

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol, 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Cyd-destun Celf a Dylunio 1 (20 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno dysgwyr i natur hanesyddol a diwylliannol celf a dylunio trwy gyfrwng darlithoedd, cyflwyniadau ac ymweliadau ag arddangosfeydd. (Blog 25%/Cyflwyniad 25%/Traethawd 50%)

Defnyddiau a Dulliau (20 credyd, gorfodol):
Cynhelir gweithdai ar Wneud Printiau, Cerflunio/3D a Chyfryngau Digidol/Seiliedig ar Amser sy'n cyflwyno amryw o brosesau, defnyddiau a thechnegau ac yn rhoi sylw priodol i gyfarwyddiadau iechyd a diogelwch perthnasol. (Portfolio 100%)

Celfyddyd Gymhwysol (30 credyd, gorfodol):
Bydd y modiwl yn galluogi'r dysgwyr i weithio gyda defnyddiau, prosesau a thechnegau mewn meysydd arbenigol sy'n gysylltiedig â Chelfyddyd Gymhwysol. (Portfolio 100%)

Dylunio a Darlunio Graffig (30 credyd, gorfodol):
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r dysgwyr i elfennau hanfodol Dylunio, Darlunio a Chyfryngau Graffig. Bydd yn ehangu gallu'r dysgwyr i werthfawrogi arferion gweithio amrywiol yn y maes hwn, gan y feithrin sgiliau priodol a'r hyder i gyfleu cysyniadau a syniadau sy'n gysylltiedig ag ystod o friffiau. (Portfolio 100%)

Prosiect Mawr (30 credyd, gorfodol):
Yn y modiwl hwn, bydd y dysgwyr yn cadarnhau'r profiadau y maent wedi'u hennill hyd yma ac yn dewis maes diddordeb arbenigol i ganolbwyntio arno, un ai mewn Celfyddyd Gain, Celfyddyd Gymhwysol neu Ddylunio Graffig. (Portfolio 100%)

Modiwlau Lefel 5 (Blwyddyn 2)

Cyd-destun Celf a Dylunio 2 (20 credyd, gorfodol):
Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar y gwaith o edrych ar y cyd-destun hanesyddol a wnaed ar lefel 4. Caiff dulliau cyfoes o ymarfer celfyddyd gain eu harchwilio, eu trafod a'u harddangos. (Portffolio 100%)

Ymarfer Arbenigol (20 credyd, gorfodol):
Yn y modiwl hwn, mae myfyrwyr yn nodi maes ar gyfer datblygiad posibl ac ymchwil ymarferol mewn meysydd pwnc fel Celfyddydau Cymhwysol, Dylunio Graffig neu Gelfyddyd Gain, gan gynhyrchu corff o waith o fewn yr arbenigedd hwnnw. (Portffolio 100%)

Ymarfer Proffesiynol 2 (20 credyd, gorfodol):
Yn y modiwl hwn, astudir nifer o ddulliau gwahanol o ddatblygu portffolios traddodiadol a digidol fel ffordd o drefnu, archifo a chyflwyno gwaith dysgwyr i gynulleidfa benodol. (Portffolio 100%)

Diwydiant Creadigol (20 credyd, gorfodol):
Yn y modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn ymateb i friff byw neu gystadleuaeth sy'n berthnasol i'w harbenigedd. (Portffolio 100%)

Cyd-destun Safle ac Ymarfer 2 (20 credyd, gorfodol):
Wedi ei gynllunio i helpu myfyrwyr i feithrin y sgiliau fydd arnynt eu hangen i weithio'n broffesiynol, mae'r modiwl hwn yn cefnogi myfyrwyr i ehangu eu gwybodaeth o gyd-destun proffesiynol ar gyfer ymarfer Celf a Dylunio. (Blog 50%/Portffolio 50%)

Arferion Estynedig (20 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl hwn yw ymestyn natur hunan-gyfeiriedig gwaith y myfyrwyr. Gan gyfeirio at eu gwaith eu hunain mewn maes arbenigol bydd y myfyrwyr yn dyfnhau a datblygu eu hymchwil i'r defnyddiau a'r sgiliau technegol cysylltiedig a fydd yn llywio a chyfrannu at y modd y byddant yn rhoi cysyniadau creadigol ar waith. Bydd y myfyrwyr yn dynodi themâu a chysyniadau yn eu gwaith eu hunain ac yn ysgrifennu cynnig ar gyfer corff o waith hunangyfeiriedig. (Portffolio 100%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

Mae 33% o’r cwrs ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth

Myfyriwr yn gwneud llun

Sefydliad dyfarnu

DiscoverUni

Cwrs llawn amser


Cwrs rhan amser