Cyfrifon Dysgu Personol
Ail-ysgrifennwch eich gyrfa gyda Chyfrif Dysgu Personol.
Beth yw Cyfrif Dysgu Personol?
Mae Cyfrif Dysgu Personol yn ffordd hyblyg o gael hyfforddiant am ddim mewn amrywiaeth eang o feysydd.
Mae'r cyrsiau hyn yn rhoi cyfle i chi feithrin sgiliau newydd a chael y cymwysterau y mae ar gyflogwyr eu hangen – gan eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa bresennol neu chwilio am gyfleoedd newydd.
Gallwch gyfuno'r cyrsiau hyn â'ch swydd bresennol a'ch cyfrifoldebau teuluol ac mae gennym ddewis helaeth o leoliadau a dyddiadau ar gael.
Ydw i'n gymwys?
I fod yn gymwys am hyfforddiant drwy Gyfrif Dysgu Personol, mae'n rhaid i chi fodloni o leiaf un o'r meini prawf canlynol, a bod:
- yn gyflogedig (neu'n hunangyflogedig) ac yn ennill llai na £30,596 y flwyddyn, neu
- at gontract dim oriau, neu
- staff asiantaeth, neu
- mewn perygl o gael eich gwneud yn ddi-waith
Rhaid i chi hefyd fod dros 19 oed, yn byw yng Nghymru, a gyda’r gallu i deithio i safle'r coleg os oes angen.
Ni fyddwch yn gymwys os byddwch (ar adeg gwneud y cais):
- o dan 19 oed, neu'n
- ddisgybl neu'n fyfyriwr llawn amser mewn ysgol neu goleg, neu
- mewn addysg uwch llawn amser, neu'n
- cael eich ariannu gan Lywodraeth Cymru i wneud cwrs Dysgu Seiliedig ar Waith, neu'n
- ddinesydd tramor anghymwys, neu'n
- derbyn Grant Dysgu'r Cynulliad neu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, neu'n ddi-waith, h.y. nid oes gennych gontract cyflogaeth
Sylwer: Mae gennym bellach amrywiaeth o gyrsiau 'Digidol' a 'Net Zero' ar gael nad oes ganddynt feini prawf cymhwyster uchafswm cyflog.
Faint fydd yr hyfforddiant yn ei gostio?
Dim. Bydd Llywodraeth Cymru'n talu holl gostau'r hyfforddiant. Fodd bynnag, bydd rhaid i chi dalu eich costau teithio eich hun a sicrhau eich bod yn gallu ymroi digon o amser i fynychu a chwblhau'r cwrs.
Oes angen unrhyw sgiliau neu gymwysterau blaenorol arnaf?
Mae rhai cyrsiau yn gofyn bod gennych rai sgiliau neu gymwysterau blaenorol, amlygir hyn yn yr wybodaeth am gyrsiau unigol isod.
Anelir y rhaglen at unigolion sydd â'u bryd ar newid eu gyrfa, felly nid oes angen sgiliau na chymwysterau penodol ar gyfer mwyafrif y cyrsiau. Cewch gyfle i drafod gofynion y cwrs gyda'r coleg pan gewch eich asesiad cychwynnol.
Alla i ddilyn mwy nag un cwrs?
Gallwch, ond nodwch os gwelwch yn dda - gallwch gofrestru ar un cwrs PLA ar y tro yn unig. Os ydych yn cyflwyno mwy nag un cais, byddem yn cysylltu â chi i gadarnhau pa gwrs ydi eich dewis cyntaf.
Pa gyrsiau sydd ar gael? Pryd maen nhw'n dechrau?
Mae gennym amrediad eang o gyrsiau sy'n cwmpasu amrywiaeth o wahanol sectorau:
Ochr yn ochr â'r cyrsiau a addysgir yn y coleg, rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar-lein. Gall y rhain fod yn gymysgedd o waith ar-lein a gwaith ymarferol a wneir drwy gadw pellter cymdeithasol. Mae'n bosibl dechrau rhai o'r cyrsiau hyn ar unrhyw adeg.
Rydym yn ychwanegu cyrsiau newydd drwy'r adeg, felly nodwch y dudalen a chwiliwch am gyfleoedd arni'n gyson.
Cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
- Nwy Naturiol (ACS)
- CITB SSSTS (Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Goruchwylwyr Safleoedd) (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
- CITB Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
- Dyluniad Systemau Chwistrellu Tân Awtomatig mewn Anheddau Preswyl
- Gosod a Chynnal a Chadw Systemau Chwistrellu Tân Awtomatig mewn Anheddau Preswyl a Safonau Chwistrellu BS9251 (Agored Cymru)
- Gosod Systemau Gwresogi â Thanwydd Solet (Tystysgrif BPEC)
- Gweithio ar Uchder - PASMA
- EAL Gwobr Level 3 Archwilio, Profi, Ardystio ac Adrodd ar Osodiadau Trydan
- RTITB Hyfforddiant Gwrthbwyso Wagen Fforch Godi Codau B1, (Profiadol)
- CWRS TROSI RTITB MEWN DEFNYDDIO PEIRIANT CODI TELESGOPIG AR DIR GARW;
- Tystysgrif Sylfaenol ym Maes Nwy Domestig (MLP)
- NPORS Llwythwr Telesgopig (N010)
- NPORS Rholiwr Ffyrdd (N214)
- NPORS Dadlwythwr Tipio Ymlaen (N204)
- NPORS Peiriant Turio 360° dros 10 tunnell (N202)
- Cyrsiau Hyfforddi i Weithwyr ym maes Adeiladu (CIRS)
- RTITB Defnyddiwr PEIRIANT CODI TELESGOPIG (Profiadol) Codau ABA J2 a J3 Achredwyd gan RTITB
- Hyfforddiant Gwrthbwyso Wagen Fforch Godi Codau ABA B1, (Dechreuwyr)
- RTITB Hyfforddiant Ar Gerbydau Estyn I Ddefnyddwyr Profiadol
- RTITB Hyfforddiant Tryc Estyn (Dechreuwyr)
- RTITB Estyn A Gwrthbwyso / Gwrthbwyso Ac Estyn: Cwrs cyfnewid
- CITB SSP SEATS, Cynllun Hyfforddi Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Safle
- CWRS GLOYWI - 18fed Argraffiad rheoliadau weirio, Ail Ddiwygiad - Deall gofynion Rheoliadau Gwifro (BS 7671:2018) (Mawrth 2022)
Cyfrifydda
- AAT – Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifydda: Tystysgrif Lefel 2 yr AAT mewn Cyfrifydda
- AAT – Diploma Lefel 3 Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifydda (AAT) mewn Cyfrifyddu
- AAT – Diploma Lefel 4 Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifydda (AAT) mewn Cyfrifyddu
- Diploma Cysylltiol CIPD mewn Rheoli Pobl
- CIPD Tystysgrif Sylfaen mewn Ymwneud â Phobl
- CIPS Level 4 Diploma in Procurement and Supply
- CIPS Level 5 Advanced Diploma in Procurement and Supply
- Dyfarniad Lefel 2 ILM mewn Sgiliau Arwain a Gweithio mewn Tîm (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
- Tystysgrif Lefel 2 ILM mewn Sgiliau Arwain a Gweithio mewn Tîm (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
- CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Marchnata Cymhwysol (Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
- CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Technegau Marchnata Digidol (Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
- CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Cynllunio Ymgyrchoedd (Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
- Dyfarniad Lefel 4 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
- Dyfarniad Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
- Tystysgrif Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
- PRINCE2® 7fed Argraffiad (2017) Sylfaen ac Ymarferydd - Hybrid
Diwydiant Adeiladu
- Cwrs Sylfaen ym maes Nwy Domestig
- Nwy LPG (ACS)
- Systemau Casglu Dŵr Glaw ac Ailgylchu Dŵr Llwyd
- Systemau Pwmpio Gwres mewn Tai
- Oftec 50
Iechyd a Diogelwch
- Cwrs Gloywi – Cerbydau Estyn
- Estyn A Gwrthbwyso / Gwrthbwyso Ac Estyn: Cwrs cyfnewid
- Hyfforddiant Ar Gerbydau Estyn I Ddefnyddwyr Profiadol
- Hyfforddiant Tryc Estyn (Dechreuwyr)
- Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
- Tystysgrif NEBOSH mewn Diogelwch Tân a Rheoli Risg (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
- Tystysgrif NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch ym maes Adeiladu (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
- Gweithio ym maes Lles (NEBOSH)
- Cymhwyster NEBOSH mewn Ymwybyddiaeth Amgylcheddol yn y Gweithle
- Tystysgrif NEBOSH mewn Rheoli'r Amgylchedd
- IOSH Rheoli'n Ddiogel Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor neu mewn dosbarth dibynnu ar campws)
Iechyd a Gofal
- Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant Lefel 2 (CDP)
- Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant Lefel 3 (CDP)
- Plant a Phobl Ifanc Lefel 3 (CDP)
- Diploma Lefel 2 mewn Gwaith Chwarae
- Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae
- Lefel 4 Paratoi ar Gyfer Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Peirianneg
- Diploma Lefel 2 yr IMI mewn Sgiliau Paentio Cerbyd ar ôl Damwain
- Dyfarniad Lefel 3 yr IMI - Gwaith Trwsio ac Amnewid mewn Cerbydau Trydan Hybrid
- Dyfarniad Lefel 3 yr IMI mewn Rheoli Canolfan Brofi MOT
- Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Diagnosis, Trín ac Ailgalibrad o Systemau Cynorthwyo Gyrrwyr Datblygedig
Dysgu:
Cyrsiau Digidol:
Nid oes meini prawf cymhwyster uchafswm cyflog gyda'r cyrsiau canlynol.
Cyrsiau Net Zero:
Nid oes meini prawf cymhwyster uchafswm cyflog gyda'r cyrsiau canlynol.
- Dyfarniad Lefel 2 City & Guilds mewn Weldio ARC
- Dyfarniad Lefel 2 City & Guilds mewn Weldio MIG/MAG
- Dyfarniad Lefel 2 City & Guilds mewn Weldio TIG
- Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig heb Dyllau Aer
- Rheoliadau Dŵr
- Systemau Dŵr Poeth Solar i Wresogi Tai
- Systemau Pwmpio Gwres mewn Tai
- Tystysgrif NEBOSH mewn Rheoli'r Amgylchedd
- Tystysgrif mewn Gosod a Phrofi Systemau Ffotofoltaidd
- Gwefru Cerbydau Trydan
- Effeithlonrwydd Ynni - Gwresogi Domestig
- Cymhwyster NEBOSH mewn Ymwybyddiaeth Amgylcheddol yn y Gweithle
- System Storio Ynni Trydanol
- EAL EV3/01 Deall Gofynion Gosod Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan.
- CITB SSP SEATS, Cynllun Hyfforddi Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Safle
- EAL EV3/01 Deall Gofynion Gosod Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan
- Diploma NEBOSH mewn Rheolaeth Amgylcheddol
- Systemau Casglu Dŵr Glaw ac Ailgylchu Dŵr Llwyd
- Dŵr Poeth Tymheredd Isel
- Systemau Awyru Cartrefi
-------------------
Mae GLLM wedi partneru ag e-Gyrfaoedd i gynnig ystod eang o gyrsiau i chi.
Mae e-Gyrfaoedd yn sefydliad hyfforddi proffesiynol sy'n darparu cyrsiau achrededig trwy e-ddysgu neu drwy Virtual Classrooms.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cais PLA neu gofrestru gyda ni, bydd y tîm yn e-Gyrfaoedd yn rheoli cyflwyniad eich cwrs. I gael rhagor o wybodaeth am e-Gyrfaoedd, ewch i www.e-careers.com
- Hyfforddiant Haciwr Moesegol Ardystiedig (Certified Ethical Hacker)
- CompTIA Network+
- CompTIA Security+
- CompTIA A+
- CompTIA CASP+
- CompTIA CySA+
-------------------
Unrhyw gwestiynau?
Ebost pla@gllm.ac.uk