Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Marchnata Cymhwysol (Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    10 wythnos

Cofrestrwch
×

CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Marchnata Cymhwysol (Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Cyrsiau Rhan-amser

Disgrifiad o'r Cwrs

I gwblhau cwrs CIM Lefel 4 bydd angen i chi fod mewn rôl farchnata iau mewn sefydliad neu farchnatwr o fewn BBaCh.

Yn y modiwl hwn, byddwch yn dysgu am rôl marchnata yn y sefydliad a'r cysyniadau allweddol sy'n sail i weithgareddau'r marchnatwr. Byddwch yn archwilio’r amgylchedd marchnata, ymddygiad cwsmeriaid yn yr oes ddigidol, ymchwil marchnad a’r broses cynllunio marchnata. Bydd hyn yn cynnwys y cymysgedd marchnata a fframwaith cynllunio tactegol i gynorthwyo effeithiolrwydd marchnata.

Dyma’r manteision o astudio cwrs CIM:

  • Ennill cymhwyster marchnata proffesiynol cydnabyddedig sy'n agor rhagolygon gyrfa a swyddi newydd
  • Ennill sgiliau marchnata newydd
  • Rhoi’r sgiliau newydd ar waith yn eich rôl
  • Adeiladu eich galluoedd marchnata proffesiynol
  • Datblygu sgiliau cyfathrebu gwell gyda'ch cwsmeriaid
  • Mae cyllid 100% ar gael trwy Cyfrif Dysgu Personol (CDP)

Gofynion mynediad

Bydd angen o leiaf blwyddyn o brofiad yn y diwydiant neu gymhwyster Lefel 3 perthnasol i astudio'r Dystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol neu Dystysgrif mewn Marchnata Digidol Proffesiynol.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs hwn yn dechrau ar 16eg Ionawr 2024 ac yn cael ei gyflwyno bob dydd Mawrth o 9.30yb tan 2.30yh am 10 wythnos.

Addysgir y cwrs hwn gan ddefnyddio ystafell ddosbarth ar-lein, gyda mynediad at adnoddau, gwaith grŵp, astudiaeth bersonol a chymorth tiwtor. Rhoddir cefnogaeth i ysgrifennu'r aseiniad i'r rhai sydd angen.

Asesiad

Asesir trwy arholiad amlddewis ar-lein

Dilyniant

  • CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Cynllunio Ymgyrchoedd
  • CIM Dyfarniad Lefel 4 mewn Technegau Marchnata Digidol
  • CIM Tystysgrif Lefel 4 mewn Marchnata Digidol Proffesiynol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth