CITB Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o Bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 diwrnod
CITB Ymwybyddiaeth o Iechyd a DiogelwchCyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs CITB Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch yn addas ar gyfer pobl sydd eisiau gweithio neu sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant adeiladu a pheirianneg sifil. Mae'r cwrs ychwanegol ar ddiogelwch ar safle yn rhoi gwybodaeth a chrynodeb ymarferol o iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr a'r cyhoedd.
Mae'r cwrs yn trafod eu cyfrifoldebau a'u dyletswyddau a'r hyn dylen nhw ei wneud os bydd perygl i iechyd a diogelwch unigolyn.
Amcanion y cwrs:
Ar ddiwedd y cwrs Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch bydd myfyrwyr llwyddiannus yn deall:
- Y rheswm dros gyflawni dyletswyddau penodol
- Yr hyn a ddisgwylir ganddynt yn eu rôl
- Sut y dylent gyfrannu at iechyd a diogelwch yn y gweithle
Trosolwg o'r Cwrs:
Bydd y cwrs CITB Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch yn trafod yr isod: -
- Yr angen i rwystro damweiniau
- Dealltwriaeth gyfreithiol o iechyd a diogelwch
- Adnabod cyfraniad rôl pob gweithiwr i reolaeth a gwaith rheoli safle
- Deall yr angen am asesiadau risg a datganiadau dull
- Dealltwriaeth o'r angen i weithio'n ddiogel ac i aros a gofyn am gyngor pan fydd angen gwneud hynny
- Y ddyletswydd i adrodd am weithredoedd peryglus er mwyn rhwystro damwain
Dyddiadau Cwrs
86B Bowen Court, St Asaph Business Park
Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni ar 08445 460 460 am wybodaeth bellach.
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
22/11/2023 | 09:00 | Dydd Mercher | 7.00 | 1 | £110 | 0 / 12 | D0016279 |
CIST-Llangefni
Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni ar 08445 460 460 am wybodaeth bellach.
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
14/12/2023 | 08:00 | Dydd Iau | 7.00 | 1 | £110 | 0 / 12 | D0016273 |
Dysgu o Bell
Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni ar 08445 460 460 am wybodaeth bellach.
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
20/10/2023 | 09:00 | Dydd Gwener | 7.00 | 1 | £110 | 0 / 12 | D0016276 |
Gofynion mynediad
Cyflwyniad
Byddwch yn dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o addysgu ac ymarferion ymarferol yn y dosbarth.
Asesiad
Bydd asesiad y cwrs yn cynnwys 25 o gwestiynau amlddewis, 3 yn canolbwyntio ar ddiogelwch. Gofynnir am leiafswm o 86% i gael cymhwyster (20 o 25) a rhaid ateb pob un o'r cwestiynau diogelwch yn gywir.
Dilyniant
Gallech ddewis un o blith amryw o gyrsiau gwahanol sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Cyfrif Dysgu Personol
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
- Iechyd a Diogelwch
Dwyieithog:
n/a