Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lefel 4 Paratoi ar Gyfer Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Ar-lein
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    20 mis

Cofrestru
×

Lefel 4 Paratoi ar Gyfer Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Oedolion a Rhan-amser

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae hwn yn gymhwyster seiliedig ar wybodaeth ar gyfer dysgwyr a gyflogir yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi cyfle 'carreg gamu' i ddysgwyr sydd am symud ymlaen i gymhwyster Lefel 5. Mae'r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer y rheini mewn cyflogaeth â thâl neu ddi-dâl neu sydd â mynediad at leoliad gwaith, mewn lleoliadau gofal plant a reoleiddir gyda theuluoedd a phlant o dan 8 oed, a gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0 – 19. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio i ddysgwyr ddatblygu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth allweddol sy'n sail i arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (CCPLD).

Mae cyrsiau'n dechrau bob mis drwy gydol y flwyddyn. Cliciwch ar gofrestru nawr i gofrestru eich diddordeb a gwirio cymhwysedd.

Gofynion mynediad

Rhaid cael cymhwyster Lefel 3 mewn Gofal Plant

Cyflwyniad

Bydd asesydd yn cael ei ddynodi i chwi

  • OneFile (portffolio electronig)
  • Gweithdai

Asesiad

  • Gwaith cwrs
  • Asesiad mewnol
  • Asesiad allanol gan y corff dyfarnu

Dilyniant

Cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 5

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser, Hyfforddiant rhan-amser

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Datblygiad ac Addysg Plant

Dwyieithog:

n/a

Datblygiad ac Addysg Plant

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Datblygiad ac Addysg Plant

Dwy fyfyriwr yn trafod gwaith