Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyrsiau

Fel y coleg mwyaf yng Nghymru, rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd - o gyrsiau galwedigaethol a chyrsiau Lefel A i gyrsiau gradd a chymwysterau proffesiynol. Beth bynnag yw'ch nod, mae gennym gwrs sy'n addas i chi.

Myfyrwyr Gofal Cymdeithasol Iechyd Llangefni mewn ystafell ddosbarth

Cyrsiau Llawn Amser

Rydym yn cynnig cyrsiau mewn dros 20 maes pwnc i bobl ifanc sydd wedi gadael yr ysgol. Drwy ganolbwyntio ar ddarparu addysg o'r radd flaenaf byddwn yn eich helpu chi i feithrin y sgiliau mae cyflogwyr a phrifysgolion yn chwilio amdanynt.

Dewch i wybod mwy...
Tair myfyriwr benywaidd Lefel-A y tu allan i gampws Pwllheli

Lefel A

Cewch ddewis o blith 30 o gyrsiau Lefel A yn ein canolfannau 'Chweched' dosbarth pwrpasol ar gampysau Dolgellau, Llangefni, Pwllheli, Llandrillo-yn-Rhos a'r Rhyl.

Dewch i wybod mwy...
Tri myfyriwr gradd yn dathlu ar ddiwrnod graddio

Graddau

Rydym yn cynnig dewis helaeth o gymwysterau lefel prifysgol, yn cynnwys Graddau Sylfaen a Graddau Anrhydedd.

Dewch i wybod mwy...
Dysgwr prentisiaeth yn gweithio ar fwrdd cylched yn y labordy

Prentisiaethau

Wrth ddilyn prentisiaeth, byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol a meithrin sgiliau a gwybodaeth sy'n berthnasol i'r gwaith.

Dewch i wybod mwy...
Dysgwr sy'n gweithio ym maes gofal plant yn cynorthwyo plentyn ifanc yn yr ystafell ddosbarth

Cymwysterau Proffesiynol

Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau proffesiynol busnes mewn meysydd fel cyfrifeg a chyllid, iechyd a gofal, cwnsela, marchnata, personél a rheolaeth.

Dewch i wybod mwy...
Dysgwyr rhan-amser yn cymryd nodiadau mewn ystafell ddosbarth

Cyrsiau Rhan-amser

Mae rhaglenni rhan amser yn cynnwys amrediad eang o weithgareddau dysgu a chyrsiau sydd wedi trawsnewid bywydau miloedd o oedolion.

Dewch i wybod mwy...
Perchennog busnes yn astudio cwrs o gartref

Hyfforddiant i Gyflogwyr a Busnesau

Mae ein gwasanaeth pwrpasol i gyflogwyr, Busnes@LlandrilloMenai, yn darparu hyfforddiant i fusnesau ledled Gogledd Cymru, gan gynnwys cyrsiau byrion, cymwysterau proffesiynol, prentisiaethau a chyrsiau gradd.

Dewch i wybod mwy...