IOSH Rheoli'n Ddiogel Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele, CIST-Llangefni, Parc Menai (Busnes@LlandrilloMenai), Dolgellau - CaMDA (Adeiladu a Pheirianneg)
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 neu 4 diwrnod (Ar gael o bell dan arweiniad tiwtor)
IOSH Rheoli'n Ddiogel Hyfforddiant Iechyd a DiogelwchCyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae Rheoli’n Ddiogel IOSH yn berthnasol i bob diwydiant a sefydliad.
Mae'r cwrs achrededig hwn gan IOSH wedi'i gynllunio ar gyfer pobl ar unrhyw lefel, mewn unrhyw sector. Mae'r cwrs hwn ynglŷn â rhoi sylfaen i bawb mewn hanfodion iechyd a diogelwch.
Rhaglen Cwrs:
Bydd Rheoli'n Ddiogel IOSH yn ymdrin â'r canlynol:
- Cyflwyno gweithio'n ddiogel
- Diffinio perygl a risg
- Nodi peryglon cyffredin
- Gwella perfformiad diogelwch
Erbyn diwedd y cwrs hyfforddi, bydd gan y myfyriwr:
- Ddealltwriaeth gliriach ynglŷn â nodi ac ymdrin â risgiau a pheryglon galwedigaethol, gallu gwella diogelwch i bob golwg yn y gweithle
- Deall sut y gallan nhw wneud gwahaniaeth i'w llesiant, yn ogystal â llesiant eu tîm, drwy ymddygiadau beunyddiol
- Bod yn fwy ymwybodol o gyfrifoldebau a ddeddfwyd i'r cwmnïau
- Meddu ar fwy o ddealltwriaeth ynglŷn â sut i leihau effaith amgylcheddol
Dyfernir Tystysgrif Rheoli’n Ddiogel IOSH i fyfyrwyr llwyddiannus.
Dyddiadau Cwrs
CIST-Llangefni
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
07/05/2024 | 08:30 | Dydd Mawrth, Dydd Mercher, Dydd Iau | 24.00 | 1 | £375 | 0 / 10 | D0018545 |
Coleg Llandrillo, Abergele
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
03/06/2024 | 08:30 | Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher | 24.00 | 1 | £375 | 5 / 8 | D0019601 |
Gofynion mynediad
- Mae angen gwybodaeth sylfaenol am Iechyd a Diogelwch i ddilyn y cwrs hwn.
Cyflwyniad
- Sesiynau addysgu yn y dosbarth.
Asesiad
Ar ddiwedd y sesiwn, bydd rhaid i chi:
- sefyll arholiad 22 cwestiwn
- gyflwyno prosiect ar asesiad risg a gynhaliwyd yn eich gweithle
I dderbyn tystysgrif, rhaid llwyddo yn nwy elfen yr asesiad.
Dilyniant
NEBOSH General
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
- Iechyd a Diogelwch
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Llangefni
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig