Systemau Pwmpio Gwres mewn Tai
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
hyd at 7 diwrnod yn dibynnu ar y llwybr
Systemau Pwmpio Gwres mewn TaiCyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Byddwch yn magu'r hyder i ddewis, gosod a chynnal a chadw systemau gwresogi pwmp.
Gofynion mynediad
NVQ/SVQ Lefel 2/3 Plymwaith neu Wresogi Domestig neu Wresogi Diwydiannol a Masnachol ac Awyru neu dystysgrif gyfatebol gynharach sy'n rhoi tystiolaeth cymhwysedd neu
NVQ/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwasanaethau Technegol wedi'u tanio ag olew neu dystysgrif gyfatebol gynharach sy'n rhoi tystiolaeth cymhwysedd neu
NVQ/SVQ Lefel 2/3 mewn Gosod Offer Nwy a Chynnal a Chadw neu dystysgrif gyfatebol gynharach sy'n rhoi tystiolaeth cymhwysedd neu
Yn ychwanegol, os nad yw'n gynwysedig yn yr uchod, tystysgrif gyfredol o ran:
Rheoliadau Dŵr/Is-ddeddfau Dŵr.
Effeithlonrwydd Ynni – Gwresogi Domestig.
Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig heb Dyllau Aer
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs dros 4 diwrnod gan hyfforddwyr cymwysedig sy'n defnyddio deunyddiau dysgu arbennig y BPEC yn Llandrillo-yn-Rhos a NICEIC yn Llangefni. Ar y 4ydd dydd, cynhelir asesiadau gan ddefnyddio rigiau pwrpasol.
Asesiad
Cynlluniwyd yr asesiadau mewn modd sy'n sicrhau bod pob ymgeisydd drwy'r wlad yn cael ei drin yn deg a chyfartal.Mae hyn yn sicrhau bod cyflogwyr a chwsmeriaid yn gallu bod yn hyderus bod gweithwyr a aseswyd mewn canolfan asesu a gymeradwywyd gan BPEC Ltd/NICEIC yn gymwys i weithio'n ddiogel.
Dilyniant
- Gallech symud ymlaen i nifer o gyrsiau gwahanol yng Ngrŵp Llandrillo Menai
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Cyfrif Dysgu Personol
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- CIST Llangefni
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig