Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dyfarniad Lefel 4 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    8 sesiynau

Gwnewch gais
×

Dyfarniad Lefel 4 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Proffesiynol

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Dyfarniad Lefel 4 mewn Arwain a Rheoli'n addas i rai sydd newydd gael neu'n gobeithio cael gwaith fel rheolwyr canol. Mae'r cymhwyster yn helpu dysgwyr i ddeall rôl y rheolwr canol, i gael gwybodaeth am faes busnes ac i feithrin y sgiliau technegol y mae gofyn iddynt eu cael i arwain yn effeithiol ar y lefel hon.

Mae'n cefnogi yn arbennig rheolwyr canol newydd sy'n ymarfer sydd yn ceisio datblygu'r gallu a'r ymwybyddiaeth bersonol sydd eu hangen arnoch i fod yn arweinydd, ac i reolwyr y mae gofyn iddynt arwain pobl drwy newid sefydliadol, toriadau cyllidebol neu sefyllfaoedd anodd eraill.

O'ch safbwynt chi, manteision dilyn y cwrs hwn yw:

  • Dysgu amrywiaeth o sgiliau arwain a rheoli allweddol
  • Rhoi sgiliau newydd ar waith yn eich rôl eich hun
  • Gwella'ch gallu i arwain
  • Cymell ac ennyn diddordeb timau, a rheoli cysylltiadau'n hyderus
  • Datblygu'ch sgiliau arwain gan ddefnyddio'ch gwybodaeth, eich gwerthoedd a'ch cymhellion eich hun
  • Cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant i arweinwyr timau a darpar reolwyr

O safbwynt eich cyflogwr, manteision dilyn y cwrs hwn yw:

  • Rheolwyr effeithiol a hyderus
  • Rheolwyr canol gyda dealltwriaeth uwch am eu rôl a'u swyddogaeth o fewn eich sefydliad
  • Rheolwyr sy'n gallu asesu a gwella eu steil a'u hymddygiad wrth arwain
  • Canlyniadau mesuradwy: mae'r asesu yn y gweithle'n sicrhau y caiff y sgiliau newydd eu trosglwyddo'n effeithiol i'ch busnes.

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond bydd y rhai a fydd yn dilyn y rhaglen yn:

  • Bod yn gweithio fel rheolwr ac yn ceisio atgyfnerthu eich sgiliau a phrofiad rheoli prosiect neu yn ddiweddar wedi eich dyrchafu i fod yn rheolwr canol.
  • Meddu ar lefel hyfedr o Sgiliau Sylfaenol, Llythrennedd a Rhifedd digonol er mwyn gallu elwa i'r eithaf o'r rhaglen.
  • Cael cefnogaeth eu cyflogwyr, gyda neu heb nawdd

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Cynhelir y cyrsiau ar ddiwrnod penodedig bob wythnos, a darperir dosbarthiadau rhwng 9.30am a 2.30pm.

Cyflwynir y cwrs ar-lein, defnyddio llwyfannau Google Meet neu Zoom, mae wedi ei arwain gan diwtor drwy gyfuniad o sesiynau wedi eu hamserlennu yn cynnwys y canlynol:

  • Setiau dysgu gweithredol (grŵp ac unigolyn).
  • Trafodaethau proffesiynol
  • Astudiaethau achos
  • Cwisiau
  • Cyflwyniadau
  • Astudio personol dan gyfarwyddyd
  • Sesiynau Tiwtorial personol

* Cewch hefyd ddefnyddio cyfleusterau amgylchedd ddysgu rhith-wirionedd lle y ceir eich holl adnoddau dysgu, a fydd yn eich cefnogi'n llawn drwy gydol eich astudiaethau,

** Dylid nodi fod gliniadur/cyfrifiadur, meicroffon, camera a mynediad i'r rhyngrwyd yn ofynnol ar gyfer y rhaglen hon. Nid yw ffonau symudol a PDA's yn addas ac ni fyddant yn darparu profiad dysgu da.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Aseiniadau seiliedig ar waith
  • Cyflwyniadau llafar
  • Adolygiadau adfyfyriol

Dilyniant

Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch fynd ymlaen i ddilyn cwrs pellach neu i wneud cynnydd yn eich gwaith. Os ydych eisoes yn rheolwr, bydd y cwrs yn eich helpu i fod yn rheolwr effeithiol ac effeithlon. Byddwch yn datblygu'ch arferion proffesiynol ac mae'n bosib y gallwch anelu at gael dyrchafiad yn rheolwr canol.

Yn addysgol, y cam rhesymegol nesaf fyddai cwblhau Tystysgrif a Diploma Lefel 4 yr ILM mewn Arwain a Rheoli.

Wrth i chi ddatblygu yn eich gyrfa, gallwch fynd ymlaen i astudio ar gyfer Dyfarniad Lefel 5 yr ILM mewn Arwain a Rheoli. Bydd y dyfarniad hwn yn eich paratoi i ysgwyddo cyfrifoldebau rheolwr canol.

Ar ddiwedd y cwrs, bydd eich tiwtor cwrs yn cael trafodaeth gyda chi am y camau nesaf priodol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth