Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

CIPD Tystysgrif Sylfaen mewn Ymwneud â Phobl

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Ar-lein
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Dystysgrif mewn Ymwneud â phobl yn gymhwyster newydd a gynigir gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu y gallwch ei ddilyn ar-lein drwy Grŵp Llandrillo Menai. Mae'n addas i rai sydd eisoes yn gweithio ym maes Adnoddau Dynol neu sy'n gobeithio gwneud hynny. Mae'r cwrs, sydd wedi'i anelu'n benodol at weinyddwyr ac ymgynghorwyr AD, yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau unigolion mewn pynciau cyfoes sy'n ymwneud ag adnoddau dynol.

Rhoddir pwyslais ar rôl AD fel partner busnes i reolwyr llinell, ac edrychir ar sut y mae AD yn chwarae rhan bwysig yn y broses o lunio gweledigaeth sefydliad. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn y Dystysgrif mewn Ymwneud a Phobl.

Bydd astudio at gymhwyster CIPD ar lefel sylfaen yn rhoi i chi'r wybodaeth sydd ei hangen i ddod yn Aelod Cyswllt newydd o CIPD ar lefel broffesiynol. Os bydd gennych y profiad perthnasol, gallwch wneud cais i gael eich asesu ar gyfer aelodaeth (asesiad o'ch gweithgareddau a'ch ymddygiadau yn y gweithle). Os llwyddwch yn yr asesiad, cewch ddyrchafiad i fod yn Aelod Cyswllt newydd.

Yn ogystal â'r cymwysterau ffurfiol, byddwch wedi cael profiad amhrisiadwy o weithio ym maes AD ac wedi dysgu llawer gan eraill a fu'n dilyn y cwrs gyda chi.

Yn ystod y flwyddyn, byddwch yn astudio'r pynciau a ganlyn. Mae pob pwnc yn cynnwys llawer o drafod yn y dosbarth a rhyngweithio ymysg myfyrwyr, er bod y gwersi ar-lein. Caiff yr holl fodiwlau eu dysgu gan staff profiadol sydd â phrofiad helaeth o weithio yn eu maes.

  • 3C001 Busnes, Diwylliant a Newid yn ei gyd-destun.

  • 3C002 Egwyddorion Dadansoddeg

  • 3C003 Ymddygiad Craidd Pobl Broffesiynol

  • 3C004 Hanfodion Ymwneud â Phobl

Mae cymorth cyllid ariannol SEE (Sgiliau i Gyflogwyr a Gweithwyr) ar gael i cyrsiau sydd yn darfod erbyn 31/05/23. Am rhagor o fanylion gan gynnwys gwybodaeth cymhwysedd, cysylltwch gyda ni. *Nid yw hyn yn effeithio ar gytundebau ariannu sydd eisoes yn bodoli.


Prentisiaeth

Gallwch hefyd astudio'r cyrsiau hyn fel rhan o'r brentisiaeth rheoli adnoddau dynol.

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs. Fodd bynnag, bydd gofyn cael cadarnhad bod gan y myfyrwyr y sgiliau sylfaenol angenrheidiol a'u bod yn gallu bodloni gofynion y cwrs o ran asesu.

Yn ogystal, bydd gofyn i chi fod yn aelod o CIPD trwy gydol y cwrs. Mae'n bosibl y bydd gofyn i chi fod yn aelod am ail flwyddyn. Ar hyn o bryd, mae'n costio £165 i ymaelodi am flwyddyn (ond gall CIPD newid y gost). Mae hyn ar ben eich ffioedd cwrs.

Mae Grŵp Llandrillo Menai'n deall ei bod yn bosib nad yw rhai myfyrwyr wedi astudio ers tro, ac felly cynigir cefnogaeth bersonol i fyfyrwyr newydd.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Defnyddir amrediad eang o ddulliau dysgu i gyflwyno cwrs y Dystysgrif Sylfaenol mewn Ymwneud â Phobl ac fe gyflwynir y cyfan ar-lein.

Asesiad

Ym mhob pwnc, cewch eich asesu drwy gyfrwng aseiniad ffurfiannol. Nid oes arholiadau ffurfiol.

Dilyniant

Diploma Cysylltiol CIPD mewn Rheoli Pobl

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth