Hyfforddiant Haciwr Moesegol Ardystiedig (Certified Ethical Hacker)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Ar-lein
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
5 diwrnod llawn
Hyfforddiant Haciwr Moesegol Ardystiedig (Certified Ethical Hacker)Cyrsiau Rhan-amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs Haciwr Moesegol Ardystiedig yn lle gwych i ddechrau gyrfa mewn Seiberddiogelwch, ond argymhellir bod gan ddysgwyr o leiaf ddwy flynedd o brofiad Diogelwch TG cyn rhoi cynnig ar y cymhwyster hwn.
Mae’r wybodaeth a’r sgiliau a ddysgir drwy’r rhaglen hon heb eu hail, gan gwmpasu’r set ehangaf bosibl o barthau seiberddiogelwch.
https://www.e-careers.com/courses/certified-ethical-hacker-ceh-training?q=CEH
Gofynion mynediad
Argymhellir dwy flynedd o brofiad yn ymwneud â diogelwch a gwybodaeth ymarferol gref o ddefnyddio Protocol Rheoli Trosglwyddo / Protocol Rhyngrwyd.
Cyflwyniad
Wedi'i gyflwyno ar-lein fel ystafell ddosbarth rithwir
Cyflwynir y cwrs hwn gan ein partner, eCareers
Asesiad
Arholiadau ar-lein swyddogol sy'n cael eu goruchwylio
Dilyniant
Mae’r diwydiant Seiberddiogelwch yn cynnig cyflogau uwch na’r cyfartaledd a chyfleoedd gyrfa rhagorol, sy’n ei wneud yn ddewis gyrfa rhagorol.
Unwaith y byddwch wedi ennill eich tystysgrif, gallwch wneud cais am amrywiaeth o swyddi Seiberddiogelwch, gan gynnwys:
- Triniwr Digwyddiadau (£30k)
- Profwr Gwe-raglenni (£42k)
- Gweinyddwr Rhwydwaith (£44k)
- Dadansoddwr Seiberddiogelwch (£55k)
- Profwr Treiddiad (£60k)
- Haciwr Moesegol (£67k)
(Ffynhonnell: ITJobsWatch)
Tra bod y cyflogau uchod yn dangos y cyfartaledd yn y Deyrnas Unedig, mae yna gyfle i chi fynd i fyny'r ysgol yrfa ac i swyddi sy'n cynnig cyflogau rhwng £100k a £150k. Y dewis arall yw penderfynu gweithio i chi'ch hun fel Haciwr Moesegol neu ymgynghorydd llawrydd, lle cewch gyfle i ennill miliynau o bunnoedd y flwyddyn, fel Haciwr Moesegol yr Alban, Mark Litchfield
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Cyfrif Dysgu Personol
- Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau