Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diploma NEBOSH mewn Rheolaeth Amgylcheddol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    16 wythnos

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae Diploma NEBOSH mewn Rheolaeth Amgylcheddol wedi'i gynllunio ar gyfer unigolion sydd â chyfrifoldeb am Reolaeth Amgylcheddol ac mae'n darparu gwybodaeth arbenigol ar faterion megis systemau rheoli amgylcheddol, cynaliadwyedd ac atal a rheoli llygredd. Mae'n hynod werthfawr i reolwyr sy'n ymgymryd â chyfrifoldebau amgylcheddol a'r rhai sy'n anelu at ddatblygu a gweithredu systemau rheoli amgylcheddol effeithiol yn eu sefydliadau.

⁠Ceir dwy uned:

Uned ED1 - Rheoli Agweddau Amgylcheddol

Cylchredau amgylcheddol allweddol ac effaith gweithgareddau dynol ar yr amgylchedd.

Arweinyddiaeth amgylcheddol.

Systemau rheoli amgylcheddol a chynllunio ar gyfer argyfwng.

Gwerthuso a rheoli risgiau amgylcheddol.

Gwerthuso perfformiad amgylcheddol.

Cynaliadwyedd.

Rheoli gwastraff.

Rheoli allyriadau i'r atmosffer.

Rheoli allyriadau i'r amgylchedd dŵr.

Rheoli sŵn amgylcheddol.

Sylweddau peryglus a thir halogedig.

Defnyddio ynni

Uned EM2 - Rheoleiddio amgylcheddol

Gorfodi deddfwriaeth amgylcheddol.

Atebolrwydd sifil.

Deddfwriaeth atal a rheoli llygredd.

Gofynion mynediad

Mae angen safon dda o Saesneg.

Tystysgrif NEBOSH mewn Rheoli'r Amgylchedd

Mae gofyn hefyd cwblhau ymchwil i faterion amgylcheddol yng ngweithle'r dysgwr.

Cyflwyniad

Darlithoedd ar-lein.

Asesiad

Uned ED1 - arholiad ysgrifenedig 3 awr

Uned EM2 - Adroddiad 800 gair.

Dilyniant

Gall dysgwyr fynd ymlaen i Ddiploma Cenedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Diogelwch

Dwyieithog:

Yn Saesneg yn unig y darperir y cwrs hwn.

Mae NEBOSH yn argymell bod gan fyfyrwyr EAL gymhwyster IELTS ar lefel 7.0 neu uwch

Iechyd a Diogelwch

Dau fyfyriwr yn trafod gwaith ar liniadur