CITB SSSTS (Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Goruchwylwyr Safleoedd)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o Bell, CIST Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 diwrnod
CITB SSSTS (Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Goruchwylwyr Safleoedd)Cyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer rheolwyr llinell gyntaf, fformyn, pen-gweithwyr, arweinwyr tîm, goruchwylwyr a rhai sydd â chyfrifoldebau goruchwylio neu sy'n paratoi at gael cyfrifoldebau o'r fath. Mae'r cwrs SSSTS wedi'i gymeradwyo gan yr United Kingdom Contractors Group fel yr hyfforddiant safonol i oruchwylwyr sy'n gweithio ar safleoedd UKCG.
Dyddiadau Cwrs
CIST-Llangefni
Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni ar 08445 460 460 am wybodaeth bellach.
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
06/12/2023 | 08:30 | Dydd Mercher, Dydd Iau | 14.00 | 1 | £210 | 0 / 12 | D0018350 |
Gofynion mynediad
Cyflwyniad
Caiff y cwrs rhyngweithiol hwn ei gyflwyno drwy gyfrwng astudiaethau achos, trafodaethau yn y dosbarth, gwaith grŵp a chyflwyniadau grŵp.
Asesiad
Ar ddiwedd y cwrs CITB SSSTS bydd gofyn i ymgeiswyr sefyll papur arholiad yn cynnwys 25 cwestiwn. Bydd 4 o'r rhain yn ymwneud â phwysigrwydd diogelwch a byddant angen ateb ysgrifenedig byr. Mae'r cwestiynau amlddewis yn werth 1 pwynt yr un a'r cwestiynau ar bwysigrwydd diogelwch yn werth rhwng 1 a 3 phwynt yr un. Er mwyn llwyddo ar y cwrs, RHAID i'r ymgeiswyr ateb POB cwestiwn ar bwysigrwydd diogelwch yn gywir. Cyfradd basio'r cwrs SMSTS yw 80% (24 allan o 30 cwestiwn).
Dilyniant
Y cam nesaf fyddai cwrs hyfforddi CITB SMSTS (Site Management Safety Training Scheme).
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Cyfrif Dysgu Personol
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
- Iechyd a Diogelwch
Dwyieithog:
n/a