Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
16 mis
Diploma Lefel 3 mewn Gwaith ChwaraeCyrsiau Rhan-amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Bwriad y Ddiploma Lefel 3 mewn gwaith Chwarae (QCF) yw rhoi i'r dysgwyr y sgiliau, y wybodaeth a'r gallu sy'n angenrheidiol i weithio mewn rôl oruchwyliol yn y sector Gwaith Chwarae. Felly, wedi iddynt gwblhau'r cymhwyster y llwyddiannus byddant wedi dangos y gallu i roi'r sgiliau sy'n hanfodol i'w cyflogaeth ar waith.
Gofynion mynediad
Rhaid i'r dysgwyr fod mewn gwaith cyflogedig mewn lleoliad gofal plant (ac yn gwneud gwaith chwarae).
O gymharu â Lefel 2, argymhellir y cymhwyster Lefel 3 ar gyfer staff mewn swyddi uwch sydd â chyfrifoldeb am weithgareddau a staff eraill.
Rhaid i chi fod dros 18 oed.
Cyflwyniad
Arsylwadau, dysgu uniongyrchol, trafodaethau proffesiynol a thystiolaeth gan y cyflogwr.
Gall unigolion gwblhau'r cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.
Bydd y gwaith ar e-bortffolio ar Onefile.
Asesiad
Gwaith ysgrifenedig, arsylwadau, trafodaethau ac ati.
Mae angen 18 awr o arsylwadau o leiaf i gwblhau’r cymhwyster Lefel 3.
Dilyniant
Cwblhau cymhwyster lefel 4 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant cyn belled â bod gennych swydd rheoli.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Cyfrif Dysgu Personol
- Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant