Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant Lefel 2 (CDP)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    18 months

Cofrestrwch
×

Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant Lefel 2 (CDP)

Cyrsiau Rhan-amser

Disgrifiad o'r Cwrs

Bwriad y cwrs hwn yw rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i unigolion sydd un ai'n gweithio neu am weithio yn y sector gofal plant.

Mae dwy ran i'r cwrs, sef yr elfen Graidd sy'n seiliedig ar theori a'r cymhwyster Ymarferol. Mae'n bosibl cwblhau'r elfen graidd os nad yw'r unigolyn yn gweithio mewn amgylchedd gofal plant.

Gofynion mynediad

Bod yn gyflogedig yn y sector Gofal Plant am o leiaf 16 awr yr wythnos.

Mae pob lle yn amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Darperir mwyafrif yr hyfforddiant yn y gweithle/Ar-lein

Rhoddir portffolio electronig i chi a bydd aseswr yn eich cefnogi unwaith y mis naill ai drwy ymweliad â'ch gweithle neu drwy alwad fideo.

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth (Defnyddio E-bortffolio Onefile).

  • Bydd eich aseswr yn trefnu i ymweld â'ch gweithle i asesu eich gallu i gefnogi disgyblion gyda thasgau llythrennedd, rhifedd a TGCh. Bydd angen i chi hefyd ddangos eich gallu i annog ymddygiad cadarnhaol, cadw at bolisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch, a dangos cefnogaeth effeithiol a sgiliau cyfathrebu gyda disgyblion ac aelodau o'r tîm.

Cymhwyster Craidd - 2 arholiad a phortffolio gwaith manwl sy'n cynnwys adfyfyriadau.

Cymhwyster Ymarfer – mae angen o leiaf 6 arsylwad a fydd yn golygu cynllunio, cael eich arsylwi ac adfyfyrio ar eich gwaith.

Bydd y cymhwyster yn cael ei farcio gan aseswr gweithle a'i safoni gan y swyddog sicrhau ansawdd mewnol.

Dilyniant

Os yw rôl eich swydd yn caniatáu gallwch symud ymlaen i gymhwyster GCDDP Lefel 3.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Datblygiad ac Addysg Plant

Datblygiad ac Addysg Plant

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Datblygiad ac Addysg Plant

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth