EAL Dyfarniad Lefel 3 mewn Gosod a Chynnal a Chadw Systemau Ffotofoltaidd Solar ar Raddfa Fach
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) - Llangefni
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
3.5 diwrnod yn cynnwys arholiad
EAL Dyfarniad Lefel 3 mewn Gosod a Chynnal a Chadw Systemau Ffotofoltaidd Solar ar Raddfa Fach
Oedolion a rhan-amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Trydanwyr cymwys sy'n dymuno bod yn hyfedr mewn gosod Systemau Ffotofoltaidd Solar ar raddfa fach ac sy'n dymuno defnyddio'r cymhwyster i fynd ymlaen i gael cydnabyddiaeth ffurfiol o'u cymhwysedd trwy gyfrwng cynllun/sefydliad cydnabyddedig y diwydiant.
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys unedau gwybodaeth a dealltwriaeth ac unedau perfformiad, sy'n cwmpasu'r sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sy'n ofynnol i osod Systemau Ffotofoltaidd Solar ar raddfa fach e.e. gosod systemau paneli solar mewn cartrefi.
Canlyniadau Dysgu:
1. Gwybod am y risgiau iechyd a diogelwch a'r systemau diogel o weithio sy'n gysylltiedig â gwaith gosod Systemau Ffotofoltaidd Solar
2. Gwybod gofynion y rheoliadau/safonau perthnasol sy'n berthnasol i weithgareddau gosod, profi a chomisiynu Systemau Ffotofoltaidd Solar
3. Gwybod y gwahaniaethau sylfaenol rhwng cylchedau cerrynt eiledol (AC) a chylchedau cerrynt di-dor (DC) mewn Systemau Ffotofoltaidd Solar
4. Deall pwrpas cydrannau System Ffotofoltaidd Solar
5. Gwybod y mathau, nodweddion silicon ac effeithlonrwydd trosi nodweddiadol modiwlau ffotofoltaidd
6. Gwybod am yr egwyddorion dylunio sylfaenol a ddefnyddir i benderfynu ar faint y paneli solar ffotofoltaidd a'u gofynion lleoli
7. Gwybod am y gwaith paratoi sy'n ofynnol cyn gwneud gwaith gosod Systemau Ffotofoltaidd Solar
8. Gwybod am y cynllun gosod a'r gofynion gosod paneli modiwl ffotofoltaidd solar
9. Gwybod am gynllun gosod cylchedau AC a DC mewn systemau ffotofoltaidd solar yn unol â'r argymhelliad peirianneg perthnasol i systemau sy'n gysylltiedig â'r grid
10. Gwybod am dechnegau a chydrannau diogelu System Ffotofoltaidd Solar
11. Gwybod am ofynion profi a chomisiynu systemau ffotofoltaidd solar
12. Gwybod am ofynion trosglwyddo systemau ffotofoltaidd solar
13. Cynllunio a pharatoi ar gyfer gosod System Ffotofoltaidd Solar
14. Gosod cydrannau System Ffotofoltaidd Solar
15. Archwilio a phrofi gosodiad System Ffotofoltaidd Solar newydd
16. Archwilio a phrofi gosodiad System Ffotofoltaidd Solar newydd
17. Trosglwyddo gosodiad System Ffotofoltaidd Solar newydd
Dyddiadau Cwrs
CIST-Llangefni
Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni am wybodaeth bellach.
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
24/07/2025 | 08:30 | Hyblyg | 7.00 | 4 | £660 | 0 / 6 | D0023885 |
Gofynion mynediad
1. GOFYNNOL dyfarniad Rheoliadau Weirio yr IET 18fed Argraffiad (e.e. C&G cyfres 2380 neu EAL 603/3298/0) a
2. GOFYNNOL Lefel 3 Archwilio a Profi (e.e C&G 2391 neu cyfatebol) a
3. GOFYNNOL NVQ Electrodechnegol Lefel 3 neu gymhwyster tebyg (Dyfarniadau blaenorol fel C&G 236 Rhan 2 neu Dystysgrif "B")
Cyflwyniad
Cymysgedd o gyflwyno'r agweddau theori yn yr ystafell ddosbarth, gwaith grŵp a gweithgareddau ymarferol
Asesiad
Arholiad ar-lein ac asesiad ymarferol
Dilyniant
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Oedolion a rhan-amser
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Cyfrif Dysgu Personol
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dwyieithog:
Na
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
