Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Plant a Phobl Ifanc Lefel 3 (CDP)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    18 mis

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae angen y cymhwyster hwn i weithio mewn swyddi penodol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol fel y nodir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.

Bydd y cymhwyster Lefel 3 mewn Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) yn galluogi dysgwyr i ddatblygu a dangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth, eu hymddygiad, eu sgiliau a'u hymarfer mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol.

Rhaid i'r dysgwyr fod un ai'n gweithio ym maes gofal maeth neu'n gweithio mewn ysgol breswyl neu ganolfan gofal plant arbenigol.

Gofynion mynediad

Cytundeb i weithio o leiaf 16 awr yr wythnos.

Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Sesiynau ar-lein a gynigir yn ystod y dydd neu fin nos i fodloni gofynion eich patrymau gwaith.

Cyfarfodydd ar-lein bob mis gyda'ch asesydd.

Arsylwadau, dysgu uniongyrchol, trafodaethau proffesiynol a thystiolaeth gan y cyflogwr.

Bydd angen cwblhau adfyfyrion ar eich ymarfer gwaith yn ogystal â pharatoi ar gyfer cael eich arsylwi yn eich lleoliad gwaith trwy dasgau strwythuredig.

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth (Defnyddio E-bortffolio Onefile).

  • Gwaith ysgrifenedig, arsylwadau, a thrafodaethau.

  • Arholiad – i gynnwys prawf ar dair astudiaeth achos a phrawf amlddewis ar gyfer y cwrs craidd Lefel 2 ym maes Plant a Phobl Ifanc.

Dilyniant

Cyrsiau eraill a gynigir gan GLLM.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Datblygiad ac Addysg Plant

Datblygiad ac Addysg Plant

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth