Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

NPORS Llwythwr Telesgopig (N010)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    5 diwrnod

Disgrifiad o'r Cwrs

Nod y cwrs hwn yw rhoi i ymgeiswyr y wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i weithredu llwythwr telesgopig. Mae’n addas i weithredwyr o bob gallu a'r rhai nad sydd wedi derbyn unrhyw hyfforddiant neu gyfarwyddyd ffurfiol blaenorol.

Ar ddiwedd y cwrs dylai'r holl ddysgwyr fedru:

  • Gweithredu peirianwaith yr offer yn ystod tasgau rwtîn arferol.
  • Asesu prun ai yw llwythi neilltuol yn ddiogel i'w codi
  • Cyflawni gwaith gwasanaethu llwythwr telesgopig rwtîn a gwaith cynnal a chadw offer yn unol â chyfarwyddiadau gweithgynhyrchu.
  • Cyflawni man addasiadau mecanyddol.
  • Paratoi'r cerbyd i yrru ar briffyrdd cyhoeddus yn unol gyda gofynion Rhan II o'r Ddeddf Traffig Ffordd y DU.
  • Deall pwrpas a galluoedd y peiriant ac unrhyw ragofalon diogelwch perthnasol gofynnol ar gyfer ei weithrediadau.
  • Deall sut y mae'r peiriant llwytho telesgopig yn gweithio a'r gwaith cynnal a chadw cysylltiedig.
  • Deall effeithiau llwyth, maint, pwysau, graddfeydd ac amodau daear ar sefydlogrwydd a diogelwch peiriant.
  • Disgrifio'r llwytho, storio a'r cludo o ddeunyddiau cynrychioladol.
  • Disgrifio adeiladwaith sylfaenol paletau.
  • Disgrifio'r llwytho a ganiateir o sgaffaldiau.

Gofynion mynediad

Holl ddysgwyr

  • Prawf sgrin gyffwrdd Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd cyfredol
  • Dealltwriaeth dda o'r Gymraeg a/neu Saesneg yn ofynnol.

Dysgwyr Newydd

  • Nid oes rhaid cael profiad blaenorol.

Profiadol/ Gloywi

  • Un ai 18 mis o brofiad gwaith profadwy a/neu 6 mis o brofiad dyddiol cyson yn y categori hwn.

Cyflwyniad

Dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o addysgu yn y dosbarth a gwaith ymarferol.

Asesiad

4 diwrnod yn dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o addysgu yn y dosbarth a gwaith ymarferol

Asesiad 1 diwrnod - profion technegol NPORS

Dilyniant

Wedi cwblhau'r cwrs hwn, bydd y dysgwr yn derbyn Cerdyn Gweithredwr Wedi ei Hyfforddi Coch NPORS / CSCS.

Bydd hyn yn ddilys am 2 flynedd a bydd yn ofynnol i ddysgwyr i gofrestru am NVQ perthnasol.

Ar ôl cwblhau’r NVQ yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn derbyn y cerdyn Gweithredwr Medrus Glas. Mae hyn yn ddilys am 5 mlynedd Dosberthir llyfr log / cofnod DPP gweithredwr hefyd a ellir ei ddefnyddio i gefnogi hyfforddiant gloywi ac i'r profiadol.

Cynghorir gwneud hyfforddiant gloywi pob 3 blynedd.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'