Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

PRINCE2® 7fed Argraffiad (2023) Sylfaen ac Ymarferydd - Hybrid

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele, Ar-lein
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    6 diwrnod

Cofrestrwch
×

PRINCE2® 7fed Argraffiad (2023) Sylfaen ac Ymarferydd - Hybrid

Cyrsiau Rhan-amser

Disgrifiad o'r Cwrs

A yw'r cwrs PRINCE2 yn addas i mi?

Mae’r pecyn hwn yn cynnwys lefelau Sylfaen ac Ymarferydd PRINCE2 (a’u harholiadau priodol) a byddai’n ddelfrydol ar gyfer rhywun sydd am ennill gwybodaeth a sgiliau rheoli prosiect o’r radd flaenaf, gwella cyfleoedd cyflogaeth a datblygu gyrfa ym maes rheoli prosiectau.

Mae pynciau’r cwrs yn cynnwys:

  • Egwyddorion, sy'n llywio penderfyniadau a gweithredoedd.
  • Prosesau, y dull cam wrth gam ar gyfer rheoli prosiect.
  • Arferion, yr agweddau ar brosiect y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt yn ystod cylch oes prosiect.
  • Rheoli Pobl, mae'r 7fed argraffiad yn cynnwys yr agwedd hanfodol bwysig hon wrth reoli prosiectau.
  • Rheoli a chyfathrebu digidol, gan ddefnyddio offer cyfredol i ymgysylltu â'r holl randdeiliaid.

Mae'r cwrs sylfaen wedi ei gyflwyno dros dridiau gydag arholiad ar y diwedd. Mae'r cwrs ymarferydd yn dilyn yr un fformat - cael ei gyflwyno dros dridiau gyda'r arholiad ar y diwrnod olaf.

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu at Reolwyr Prosiect a darpar Reolwyr Prosiect. Mae’r cwrs hefyd yn berthnasol i staff eraill sy’n ymwneud â dylunio, datblygu a chyflawni prosiectau, gan gynnwys: Aelodau'r Bwrdd Prosiect, Rheolwyr Tîm, staff Sicrwydd Prosiect, staff Cymorth a Chefnogaeth Prosiect a rheolwyr llinell/staff gweithredol.

Mae'r cwrs yn un dwys ac mae angen darllen deunydd y cwrs ymlaen llaw, fydd yn cymryd oddeutu 6 awr. Bydd gwaith cartref yn cael ei osod ar gyfer pob un o'r nosweithiau a'r penwythnos, sef cyfanswm o tua 1.5 awr y nos/dydd.

Mae gofyn i chi gadw eich cymwysterau PRINCE2 yn gyfredol trwy ail-ddilysu ar ôl 3 blynedd, neu drwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus fel aelod AEXLOS.

Gofynion mynediad

Nid oes unrhyw feini prawf ffurfiol ar gyfer astudio ar lefel Sylfaen, fodd bynnag mae gwir ddiddordeb neu brofiad o Reoli Prosiect yn hanfodol.

I sefyll yr arholiad Ymarferwr mae'n rhaid eich bod wedi llwyddo yn un o'r canlynol:

  • Tystysgrif PRINCE2 Sylfaen (5ed neu 6ed Argraffiad) ⁠ ⁠⁠ ⁠
  • PMP (Project Management Professional)
  • CAPM (Certified Associate in Project Management)
  • Cymhwyster IMPA Lefel A, B, C, neu D

Cyflwyniad

Cyflwyno wyneb yn wyneb ynghyd â chyflwyno arlein, 09.15-16.30 (yn fras) - ar y 3ydd a'r 6ed diwrnod yr amser gorffen fydd 17.00 oherwydd yr arholiadau ar y dyddiau hynny. Argymhellwn eich bod yn dod i'r sesiynau wyneb yn wyneb os yw'n bosibl. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gall hynny fod yn ddefnyddiol ar gyfer y cwrs hwn.

Asesiad

Yr arholiad SYLFAEN:

Cwestiynau ag atebion amlddewis, 60 cwestiwn, angen 36/60 i lwyddo - 60%, 1 awr o hyd, llyfr caeedig.

Yr arholiad YMARFERYDD:

Mae'n rhaid i chi lwyddo yn yr arholiad Sylfaen i ddilyn y cwrs Ymarferydd.

Cwestiynau ag atebion amlddewis, 70 cwestiwn, angen 42/70 i lwyddo - 60%, 2½ awr o hyd, llyfr agored.

Mae cost yr arholiad wedi'i gynnwys yn ffi’r cwrs.

Dilyniant

Pa swyddi alla i ymgeisio amdanynt ar ôl cwblhau fy hyfforddiant PRINCE2?

Enghreifftiau o swyddi a chyflogau bras.

PRINCE2 Sylfaen

  • Gweinyddwr Prosiectau - £22k
  • Dadansoddwr ym maes Rheoli Prosiectau - £28k
  • Rheolwr Prosiectau Iau - £29k
  • Darparydd Cymorth ym maes Rheoli Prosiectau - £30k

Ymarferydd PRINCE2

  • Dadansoddwr Iau ym maes Busnes - £28k
  • Rheolydd Prosiectau - £34k
  • Uwch Ddadansoddwr Prosiectau - £36k
  • Rheolwr Prosiectau - £42.5k

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth