Tystysgrif Sylfaenol ym Maes Nwy Domestig (MLP)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Rhyddhau am y dydd: 1 diwrnod yr wythnos dros gyfnod o 6 mis
Tystysgrif Sylfaenol ym Maes Nwy Domestig (MLP)Cyrsiau Rhan-amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn i unigolion sydd newydd ddechrau yn y diwydiant ac sydd â'u bryd ar fod yn beirianwyr domestig sy'n gweithio gyda nwy naturiol.
Gofynion mynediad
Rhaid gallu cynhyrchu portffolio o dystiolaeth i ddangos profiad o weithio gyda nwy. Rhaid i'r portffolio hwn gael ei gydlofnodi gan weithiwr sydd ar gofrestr gyfredol Gas Safe.
Cyflwyniad
Rhyddhau am y dydd, 1 diwrnod yr wythnos yn y dosbarth dros gyfnod o 6 mis ar y cyd â phrofiad ymarferol o weithio ar safle (bydd angen i chi drefnu hyn eich hun).
Mae'r hyfforddiant yn ddwyieithog ond yn Saesneg yn unig y cynhelir yr asesiad theori.
Asesiad
Ar ôl cwblhau'r portffolio o dystiolaeth byddwch yn cael asesiad ACS (ymarferol a theori).
Dilyniant
Bydd y dystysgrif yn eich gwneud yn gymwys i fod ar gofrestr Gas Safe ar gyfer CCN1 (peipiau) + 1 dyfais.
Ar ôl bod ar y gofrestr am 12 mis, cewch fynd ymlaen i wneud hyfforddiant pellach ym maes nwy os oes angen cymwysterau ychwanegol arnoch.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Cyfrif Dysgu Personol
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dwyieithog:
n/a
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig