Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif NEBOSH mewn Diogelwch Tân a Rheoli Risg

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    10 diwrnod dros 10 wythnos

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae Tystysgrif NEBOSH mewn Diogelwch Tân yn addas i unrhyw un sydd yn gyfrifol am ddiogelwch tân mewn sefydliad mawr i ganolig.

Cynigir gwybodaeth a dealltwriaeth a fydd yn galluogi dysgwyr i feithrin sgiliau o ran diogelwch tân a fydd yn diogelu pobl, eiddo a busnesau rhag y niwed y gall tân ei achosi.

Mae Tystysgrif NEBOSH mewn Diogelwch Tân yn addas i'r rhai hynny sy'n gyfrifol am ddiogelwch tân mewn gweithleoedd risg isel a chanolig, rheolwyr iechyd a diogelwch, rheolwyr cyfleusterau a chynrychiolwyr iechyd a diogelwch mewn busnesau.

Wedi cwblhau'r Dystysgrif NEBOSH mewn Diogelwch Tân bydd gennych y wybodaeth a'r sgiliau i:

  • Ddeall egwyddorion diogelu ac atal tân a ffrwydradau
  • Cynnal asesiad risg tân effeithiol mewn gweithle risg isel a risg canolig.

Dyddiadau Cwrs

Busnes@Remote

Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni am wybodaeth bellach.

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
28/05/202409:00 Dydd Mawrth7.0010 £9752 / 10D0018326

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn. Fodd bynnag, mae'r dystysgrif NEBOSH hwn yn gymhwyster Lefel 3 sydd gyfwerth â Lefel A neu gymhwyster tebyg mewn colegau ym Mhrydain. Golyga hyn bod y cymhwyster yn un trwm i'w astudio a rhaid i'r dysgwyr fod yn barod i astudio ar y lefel hon.

Rhaid bod gan ddysgwyr safon addas o iaith Saesneg er mwyn medru deall ac ynganu'r cysyniadau a gynhwysir yn y maes llafur.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno o bell gan diwtor mewn dosbarth ar-lein rhithwir a bydd gofyn i'r sawl sy'n cymryd rhan ddefnyddio cyfrifiadur, gliniadur neu dabled priodol gyda chamera, seinydd a chysylltiad gwe cryf i allu gweithio ar y cwrs ar-lein.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs hwn drwy gyfrwng sesiynau addysgu a gwaith grŵp.

Asesiad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn. Fodd bynnag, mae'r dystysgrif NEBOSH hwn yn gymhwyster Lefel 3 sydd gyfwerth â Lefel A neu gymhwyster tebyg mewn colegau ym Mhrydain. Golyga hyn bod y cymhwyster yn un trwm i'w astudio a rhaid i'r dysgwyr fod yn barod i astudio ar y lefel hon.

Rhaid bod gan ddysgwyr safon addas o iaith Saesneg er mwyn medru deall ac ynganu'r cysyniadau a gynhwysir yn y maes llafur.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno o bell gan diwtor mewn dosbarth ar-lein rhithwir a bydd gofyn i'r sawl sy'n cymryd rhan ddefnyddio cyfrifiadur, gliniadur neu dabled priodol gyda chamera, seinydd a chysylltiad gwe cryf i allu gweithio ar y cwrs ar-lein.

Dilyniant

Diploma NEBOSH

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Iechyd a Diogelwch

Dwyieithog:

n/a

Iechyd a Diogelwch

Dau fyfyriwr yn trafod gwaith ar liniadur

Mewn cydweithrediad â'r partner
dysgu achrededig: Delyn Safety UK