Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diploma Cysylltiol CIPD mewn Rheoli Pobl

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Ar-lein
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 year

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Dystysgrif mewn Rheoli Pobl yn gymhwyster newydd a gynigir gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu y gallwch ei ddilyn ar-lein drwy Grŵp Llandrillo Menai.

Mae'n addas ar gyfer gweithwyr sydd eisoes yn rheolwyr ym maes Adnoddau Dynol, neu sy'n dymuno bod yn rheolwyr yn y maes.

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau AD unigol mewn pynciau sy'n gysylltiedig ag adnoddau dynol cyfoes. Bydd y pwyslais ar y berthynas rhwng rheoli AD a strategaeth y sefydliad a'r modd y'i cyfunir â rheolaeth linell.

Bydd astudio at gymhwyster CIPD ar lefel ganolradd yn rhoi i chi'r wybodaeth sydd ei hangen i fod yn aelod cyswllt proffesiynol newydd o'r CIPD. Os bydd gennych y profiad perthnasol, gallwch wneud cais i gael eich asesu ar gyfer aelodaeth (asesiad o'ch gweithgareddau a'ch ymddygiadau yn y gweithle).

Os llwyddwch yn yr asesiad, cewch ddyrchafiad i fod yn Aelod Cyswllt newydd. Yn ogystal â'r cymwysterau ffurfiol, byddwch wedi meithrin y cymwyseddau a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddod yn rheolwr ym maes AD heddiw.

Byddwch hefyd wedi dysgu llawer gan eraill a fu'n dilyn y cwrs gyda chi.

Yn ystod y flwyddyn, byddwch yn astudio'r pynciau a ganlyn. Mae pob pwnc yn cynnwys llawer o drafod yn y dosbarth a rhyngweithio ymysg myfyrwyr. Caiff yr holl fodiwlau eu dysgu gan staff profiadol sydd â phrofiad helaeth o weithio yn eu maes.

  • 5C001 Perfformiad a Diwylliant Sefydliadol ar waith

  • 5C002 Ymarfer ar Sail Tystiolaeth

  • 5C003 Ymddygiad Proffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl

  • 5HR01 Rheoli Perthynas Cyflogi

  • 5HR Rheoli Talent a Chynllunio'r Gweithlu

  • 5HR03 Gwobr am Berfformio a Chyfrannu

  • 5HR07 Lles yn y Gwaith

Mae cymorth cyllid ariannol SEE (Sgiliau i Gyflogwyr a Gweithwyr) ar gael i cyrsiau sydd yn darfod erbyn 31/05/23. Am rhagor o fanylion gan gynnwys gwybodaeth cymhwysedd, cysylltwch gyda ni.

Prentisiaeth

Gallwch hefyd astudio'r cyrsiau hyn fel rhan o brentisiaeth uwch rheoli adnoddau dynol.

Gofynion mynediad

I gael eich derbyn ar y cwrs hwn, gorau oll os oes gennych Dystysgrif CIPD neu os ydych yn gweithio ym maes AD. Fodd bynnag, ystyrir pob cais gan arweinydd y cwrs ar sail teilyngdod. Bydd gofyn i bawb sy'n cyflwyno cais ddod i gyfweliad ffurfiol.

Yn ogystal, bydd gofyn i chi fod yn aelod o CIPD trwy gydol y cwrs. Mae'n bosibl y bydd gofyn i chi fod yn aelod am ail flwyddyn. Ar hyn o bryd, mae'n costio £165 i ymaelodi am flwyddyn (ond gall CIPD newid y gost). Mae hyn ar ben eich ffioedd cwrs.

Bydd gofyn cael cadarnhad bod gan y myfyrwyr y sgiliau sylfaenol angenrheidiol a'u bod yn gallu bodloni gofynion y cwrs o ran asesu. Mae Grŵp Llandrillo Menai'n deall ei bod yn bosib nad yw rhai myfyrwyr wedi astudio ers tro, ac felly cynigir cefnogaeth bersonol i fyfyrwyr newydd.

Cyflwyniad

Defnyddir amrediad eang o ddulliau dysgu i gyflwyno cwrs y Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl ac mae'r cwbl yn digwydd ar-lein.

Asesiad

Asesir pob modiwl drwy gyfrwng aseiniadau. Nid oes arholiadau ffurfiol.

Dilyniant

Ymhlith y cyrsiau proffesiynol pellach y gallwch eu hastudio, mae Diploma Uwch CIPD mewn Rheoli Pobl a gynigir mewn canolfannau CIPD eraill.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 5

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth